Caniatâd Masnachu ar y Stryd - Cyfranwyr

  • Maes Gwasanaeth: Diogelu'r Cyhoedd
  • Maes Gwaith: Trwyddedu
  • Manylion Cyswllt: 01443 866750 / Trwyddedu@caerffili.gov.uk
  • Enw'r Hysbysiad Preifatrwydd: Caniatâd Masnachu ar y Stryd
  • Disgrifiad o'r Hysbysiad Preifatrwydd: Bydd yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn defnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu amdanoch chi os ydych chi'n gwneud sylwadau mewn perthynas â chais am Ganiatâd Masnachu ar y Stryd.

Sut y byddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth

Y diben a'r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich gwybodaeth

Diben y gwaith prosesu

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn prosesu'r sylwadau a wnaethoch chi ynglŷn â chais am Ganiatâd Masnachu ar y Stryd er mwyn sicrhau bod eich sylwadau wedi'u hystyried wrth benderfynu ar y cais.

Bydd eich manylion cyswllt yn cael eu cadw i’n galluogi ni i roi gwybod i chi am unrhyw gyfryngu sy'n digwydd gyda’r ymgeisydd, a allai olygu newidiadau i’r cais.

Bydd eich sylwadau chi ynglŷn â'r cais am Ganiatâd Masnachu ar y Stryd, os na fyddan nhw'n cael eu cyfryngu neu eu tynnu'n ôl, yn cael eu cyhoeddi mewn adroddiad pwyllgor. Bydd eich enw, gan gynnwys enw eich busnes, a'ch manylion cyswllt yn cael eu dileu.

Oni bai bod y cais am Ganiatâd Masnachu ar y Stryd yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol neu sensitif, bydd Pwyllgorau o'r fath yn cael eu cynnal yn gyhoeddus. Bydd pobl sydd wedi gwrthwynebu rhoi'r Caniatâd yn cael eu gwahodd i fynychu cyfarfod y pwyllgor perthnasol. Bydd adroddiadau pwyllgor mewn perthynas â herio Caniatâd Masnachu ar y Stryd yn cael eu cyhoeddi ar-lein.

Categorïau o ddata personol sy'n cael eu casglu

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cael y categorïau canlynol o ran eich data personol:

  • Enw
  • Manylion cyswllt
  • Eich cwyn

Sail gyfreithiol ar gyfer y gwaith prosesu

Mae rhwymedigaeth tasg gyhoeddus i brosesu eich gwybodaeth chi sy'n cael ei nodi isod:

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982

Er mwyn i brosesu data personol fod yn gyfreithlon o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016, mae'n rhaid nodi amod dilys o erthygl 6 o'r Rheoliad, sydd wedi'i amlinellu isod (nid yw ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw):

1e. processing is necessary for the performance of a task carried out in the public interest or in the exercise of official authority vested in the controller;

Mae deddfwriaeth Diogelu Data yn darparu amddiffyniad ychwanegol ar gyfer rhai dosbarthiadau o wybodaeth o'r enw ‘data personol categori arbennig’. Os bydd unrhyw wybodaeth yn dod o fewn y diffiniad o ddata personol categori arbennig, yna rhaid nodi amod ychwanegol o erthygl 9 o'r Rheoliad, fel yr amlinellir isod (nid yw ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw):

Data Protection Act 2018 – Schedule 1 / Part 2

6 (1) This condition is met if the processing —

  1. is necessary for a purpose listed in sub-paragraph (2), and

  2. is necessary for reasons of substantial public interest.

   (2) Those purposes are —

  1. the exercise of a function conferred on a person by an enactment or rule of law;

  2. the exercise of a function of the Crown, a Minister of the Crown or a government department.

Mae deddfwriaeth Diogelu Data hefyd yn darparu amddiffyniad ychwanegol ar gyfer data personol mewn perthynas ag euogfarnau troseddol a throseddau. Os bydd unrhyw ddata personol yn dod o fewn y categori hwn, yna rhaid nodi amod ychwanegol o Erthygl 10 o'r Rheoliadau, fel yr amlinellir isod:

Mae'r amod uchod yn amod Erthygl 9 ac Erthygl 10 ar gyfer y gwaith prosesu.

Pwy fydd yn cael mynediad at eich gwybodaeth?

Manylion y Rheolydd Data a'r Swyddog Diogelu Data

Y Rheolydd Data ar gyfer eich gwybodaeth yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Y Swyddog Diogelu Data yw:

Mae'n bosibl y bydd Rheolyddion Data eraill hefyd yn gyfrifol am eich gwybodaeth, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau penodol. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r maes gwasanaeth.

Manylion am brif ddefnyddwyr eich gwybodaeth

Y Tîm Trwyddedu fydd prif ddefnyddiwr eich data. Mae'r data'n debygol o gael ei rannu gyda'r Gwasanaethau Pwyllgor a Gwasanaethau Cyfreithiol wrth baratoi a chynhyrchu unrhyw adroddiad Is-bwyllgor.

Manylion am unrhyw achos o rannu'ch gwybodaeth o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Bydd y data sydd wedi dod i law, sef y gwrthwynebiad i'r Caniatâd Masnachu ar y Stryd arfaethedig, yn cael ei rannu gyda'r ymgeisydd a'r ymgyngoreion. Fodd bynnag, bydd eich manylion adnabod yn cael eu dileu.

Manylion am unrhyw achos o rannu'ch gwybodaeth â sefydliadau eraill

Mae'n bosibl y bydd eich data yn cael ei rannu â sefydliadau eraill fel yr Heddlu a’r Gwasanaeth Tân ac Achub. 

Manylion am unrhyw brosesyddion data allanol

Mae Diamond People Ltd (darparwr y gronfa ddata) yn darparu diweddariadau i'r system a chynnal cofnodion a/neu gofrestrau). Bydd prosesu data yn unol â'r cytundeb prosesydd data sydd ar waith.

Ceisiadau am wybodaeth

Mae'n bosibl y bydd yr holl wybodaeth sy'n cael ei chadw gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn destun ceisiadau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a deddfwriaeth Diogelu Data.

Os bydd yr wybodaeth wedi'i darparu gennych chi yn destun cais o'r fath, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymgynghori â chi ynghylch ei rhyddhau, lle bo hynny'n bosibl. Os byddwch chi'n gwrthwynebu rhyddhau eich gwybodaeth, byddwn ni'n cadw'r wybodaeth yn ei hôl, os bydd y ddeddfwriaeth berthnasol yn caniatáu i hynny ddigwydd.

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw eich gwybodaeth?

Manylion am y cyfnod cadw

Mae pa mor hir y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cadw gwybodaeth yn cael ei bennu drwy ofynion statudol neu arferion gorau.

Yn unol â Pholisi Cadw Data Diogelu'r Cyhoedd, mae gwybodaeth yn cael ei chadw fel a ganlyn: Caniatâd perthnasol, yn ogystal â blwyddyn.

Eich Hawliau (gan gynnwys y Weithdrefn Gwyno)

Eich hawliau o dan ddeddfwriaeth Diogelu Data

Mae'r ddeddfwriaeth Diogelu Data yn rhoi nifer o hawliau i destun y data (y rheini y mae'r wybodaeth yn sôn amdanyn nhw):

  • Yr hawl i gael mynediad at ddata gan y testun – mae ffurflenni cais ar gyfer y broses hon ar gael ar ein gwefan ni: Ffurflen Cais am Fynediad at Ddata gan y Testun (SAR)
  • Yr hawl i gael gwybod
  • Yr hawl i gywiro
  • Yr hawl i ddileu
  • Yr hawl i gyfyngu ar brosesu
  • Yr hawl i wrthwynebu
  • Yr hawl i gludadwyedd data
  • Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.

Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar gael ar y wefan hon: www.ico.org.uk.

Er mwyn arfer eich hawliau, cysylltwch â'r maes gwasanaeth sydd wedi'i nodi ar frig y ffurflen hon.

Y Weithdrefn Gwyno

Os ydych chi'n anfodlon ar y ffordd y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ymdrin â'ch cais/gwybodaeth, mae gennych chi'r hawl i gwyno. Cysylltwch â'r maes gwasanaeth sydd wedi'i nodi ar frig y ddogfen hon gan amlinellu eich materion.

Os byddwch chi'n parhau'n anfodlon, mae gennych chi hefyd yr hawl i gwyno wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Am ragor o wybodaeth am y broses gwyno, dilynwch y ddolen hon: www.caerffili.gov.uk/My-Council/Data-protection-and-freedom-of-information/Questions-and-complaints?lang=cy-gb