Caniatâd Masnachu ar y Stryd - Ymgeiswyr

  • Maes Gwasanaeth: Diogelu'r Cyhoedd
  • Maes Gwaith: Trwyddedu
  • Manylion Cyswllt: 01443 866750 / trwyddedu@caerffili.gov.uk
  • Enw'r Hysbysiad Preifatrwydd: Caniatâd Masnachu ar y Stryd yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982
  • Disgrifiad o'r Hysbysiad Preifatrwydd: Bydd yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn defnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu amdanoch chi os ydych chi'n gwneud cais am Ganiatâd Masnachu ar y Stryd.

Sut y byddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth

Y diben a'r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich gwybodaeth

Diben y gwaith prosesu

Bydd yr wybodaeth rydych chi'n ei rhoi yn cael ei defnyddio i brosesu eich cais/ceisiadau am Ganiatâd Masnachu ar y Stryd. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i benderfynu ar eich addasrwydd/addasrwydd parhaus at ddibenion rhoi neu ddal Caniatâd Masnachu ar y Stryd.

Lle na all swyddogion benderfynu ar geisiadau am Ganiatâd Masnachu ar y Stryd o dan bwerau dirprwyedig, bydd yr Is-bwyllgor sy'n cynnwys aelodau etholedig yn penderfynu arnyn nhw. Lle bo hyn yn digwydd, bydd yr agenda sydd wedi'i pharatoi ar gyfer yr Is-bwyllgor ar gael i'r cyhoedd drwy ein gwefan. Byddai manylion am leoliad Caniatâd Masnachu ar y Stryd, y math o nwyddau i'w gwerthu a'r oriau sydd dan sylw yn cael eu cynnwys mewn unrhyw Becyn Adroddiadau, ynghyd â'r pryderon sydd wedi'u codi gan wrthwynebwyr. Lle mae gwybodaeth bersonol neu sensitif sy’n debygol o gael ei thrafod, bydd materion o’r fath yn debygol o fod yn destun Prawf Budd y Cyhoedd ac ni fydd cyfarfodydd o’r fath yn agored i’r cyhoedd. Mae adroddiadau o'r fath ar gael ar wefan y Cyngor trwy: Caerffili - Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Categorïau o ddata personol sy'n cael eu casglu

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cael y categorïau canlynol o ran eich data personol:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Manylion cyswllt

Ffynhonnell y data persono

Yn ogystal â’r wybodaeth sy'n cael ei darparu gennych chi, efallai y byddwn ni hefyd yn cael gwybodaeth i benderfynu ar eich addasrwydd/addasrwydd parhaus at ddibenion dal Caniatâd Masnachu ar y Stryd o ffynonellau eraill megis awdurdodau lleol eraill y gallech chi fod wedi cael Caniatâd ganddyn nhw yn flaenorol, neu’r heddlu. Yn ogystal, mae modd cael gwybodaeth sy'n berthnasol i'ch cais chi gan adrannau mewnol megis Priffyrdd, Gwasanaethau Eiddo neu Safonau Masnach ond heb fod yn gyfyngedig i'r rhain.

Sail gyfreithiol ar gyfer y gwaith prosesu

Mae rhwymedigaeth tasg gyhoeddus i brosesu eich gwybodaeth fel y nodir isod:

Y ddeddfwriaeth sy’n darparu’r sail gyfreithiol ar gyfer y gwaith prosesu yw:

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982

Er mwyn i brosesu data personol fod yn gyfreithlon o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016, mae'n rhaid nodi amod dilys o erthygl 6 o'r Rheoliad, sydd wedi'i amlinellu isod (nid yw ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw):

1e. processing is necessary for the performance of a task carried out in the public interest or in the exercise of official authority vested in the controller;

Mae deddfwriaeth Diogelu Data yn darparu amddiffyniad ychwanegol ar gyfer rhai dosbarthiadau o wybodaeth o'r enw ‘data personol categori arbennig’. Os bydd unrhyw wybodaeth yn dod o fewn y diffiniad o ddata personol categori arbennig, yna rhaid nodi amod ychwanegol o erthygl 9 o'r Rheoliad, fel yr amlinellir isod (nid yw ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw):

Data Protection Act 2018 – Schedule 1 / Part 2

6 (1) This condition is met if the processing —

  1. is necessary for a purpose listed in sub-paragraph (2), and

  2. is necessary for reasons of substantial public interest.

   (2) Those purposes are —

  1. the exercise of a function conferred on a person by an enactment or rule of law;

  2. the exercise of a function of the Crown, a Minister of the Crown or a government department.

Mae deddfwriaeth Diogelu Data hefyd yn darparu amddiffyniad ychwanegol ar gyfer data personol mewn perthynas ag euogfarnau troseddol a throseddau. Os bydd unrhyw ddata personol yn dod o fewn y categori hwn, yna mae'n rhaid nodi amod ychwanegol o Erthygl 10 o'r Rheoliadau.

Mae'r amod uchod yn amod Erthygl 9 ac Erthygl 10 ar gyfer y gwaith prosesu.

Pwy fydd yn cael mynediad at eich gwybodaeth?

Manylion y Rheolydd Data a'r Swyddog Diogelu Data

Y Rheolydd Data ar gyfer eich gwybodaeth yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Y Swyddog Diogelu Data yw:

Efallai y bydd Rheolyddion Data eraill hefyd yn gyfrifol am eich gwybodaeth, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau penodol. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r maes gwasanaeth.

Manylion am brif ddefnyddwyr eich gwybodaeth

Prif ddefnyddiwr eich gwybodaeth chi fydd yr Is-adrannau Trwyddedu a Safonau Masnach, a fydd yn cael eu cynorthwyo gyda chyngor cyfreithiol gan Wasanaethau Cyfreithiol y Cyngor.

Manylion am unrhyw achos o rannu'ch gwybodaeth o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Efallai y byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth chi â’r meysydd gwasanaeth/unigolion a ganlyn gan fod y rhain wedi’u dynodi ym Mholisi Masnachu ar y Stryd y Cyngor fel ymgyngoreion. Mae hyn at ddibenion diogelu'r cyhoedd, gan gynnwys plant ac oedolion agored i niwed.

  • Priffyrdd
  • Gwasanaethau Eiddo
  • Safonau Masnach
  • Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Iechyd yr Amgylchedd
  • Cynllunio
  • Partneriaeth Diogelwch Cymunedol
  • Datblygu Economaidd
  • Cynghorwyr y ward berthnasol
  • Treth y Cyngor a Budd-daliadau Tai at ddiben canfod ac atal twyll ar bwrs y wlad
  • Gwasanaethau Cyfreithiol neu Wasanaethau Pwyllgor ar gyfer cael cyngor cyfreithiol/llunio Adroddiadau Is-bwyllgor.

Manylion am unrhyw achos o rannu'ch gwybodaeth â sefydliadau eraill

Efallai y bydd eich gwybodaeth chi'n cael ei rhannu lle mae sail gyfreithiol dros wneud hynny gyda’r sefydliadau canlynol:

  • Awdurdod Priffyrdd Llywodraeth Cymru
  • Cwmnïau/Darparwyr Yswiriant
  • Awdurdodau Lleol eraill, gall hyn gynnwys rhannu gwybodaeth fanwl gydag awdurdodau lleol eraill mewn perthynas â'r rheswm i ni wrthod/dirymu,
  • Awdurdodau statudol eraill, er enghraifft, a heb fod yn gyfyngedig i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (HMRC), yr Adran Gwaith a Phensiynau, Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA), y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), yr heddlu, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru neu asiantaeth debyg, lle mae rhannu eich data chi'n angenrheidiol.
  • Cyrff cyhoeddus neu sefydliadau eraill sy'n defnyddio technegau paru data i gasglu trethi, canfod ac atal twyll ar bwrs y wlad neu gynorthwyo ymchwilio a chanfod trosedd, erlyn troseddwyr, amddiffyn eiddo a chynnal cyfraith a threfn, megis y Fenter Twyll Genedlaethol.
  • Efallai y bydd gofyn i ni hefyd rannu eich gwybodaeth bersonol gyda'r heddlu, neu asiantaeth debyg, neu Gyngor arall at ddibenion atal a chanfod twyll.
  • Unrhyw sefydliad neu gorff arall a allai fod yn berthnasol i natur benodol y caniatâd masnachu ar y stryd arfaethedig.

Manylion am unrhyw brosesyddion data allanol

Mae Diamond People Ltd (darparwr y gronfa ddata) yn darparu diweddariadau i'r system a chynnal cofnodion a/neu gofrestrau). Bydd prosesu data yn unol â'r cytundeb prosesydd data sydd ar waith.

Ceisiadau am wybodaeth

Efallai y bydd yr holl wybodaeth sy'n cael ei chadw gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn destun ceisiadau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a deddfwriaeth Diogelu Data.

Os bydd yr wybodaeth wedi'i darparu gennych chi yn destun cais o'r fath, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymgynghori â chi ynghylch ei rhyddhau, lle bo hynny'n bosibl. Os byddwch chi'n gwrthwynebu rhyddhau eich gwybodaeth, byddwn ni'n cadw'r wybodaeth yn ei hôl, os bydd y ddeddfwriaeth berthnasol yn caniatáu i hynny ddigwydd.

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw eich gwybodaeth?

Manylion am y cyfnod cadw

Mae pa mor hir y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cadw gwybodaeth yn cael ei bennu drwy ofynion statudol neu arferion gorau.

Yn unol â Pholisi Cadw Data Diogelu'r Cyhoedd, mae gwybodaeth yn cael ei chadw fel a ganlyn: Caniatâd perthnasol, yn ogystal â blwyddyn.

Eich Hawliau (gan gynnwys y Weithdrefn Gwyno)

Eich hawliau chi o dan y Ddeddf Diogelu Data

Mae'r ddeddfwriaeth Diogelu Data yn rhoi nifer o hawliau i destun y data (y rheini y mae'r wybodaeth yn sôn amdanyn nhw):

  • Yr hawl i gael mynediad at ddata gan y testun – mae ffurflenni cais ar gyfer y broses hon ar gael ar ein gwefan ni: Ffurflen Cais am Fynediad at Ddata gan y Testun (SAR).
  • Yr hawl i gael gwybod
  • Yr hawl i gywiro
  • Yr hawl i ddileu
  • Yr hawl i gyfyngu ar brosesu
  • Yr hawl i wrthwynebu
  • Yr hawl i gludadwyedd data
  • Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.

Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar gael ar y wefan hon: www.ico.org.uk.

Er mwyn arfer eich hawliau, cysylltwch â'r maes gwasanaeth sydd wedi'i nodi ar frig y ffurflen hon.

Y Weithdrefn Gwyno

Os ydych chi'n anfodlon ar y ffordd y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ymdrin â'ch cais/gwybodaeth, mae gennych chi'r hawl i gwyno. Cysylltwch â'r maes gwasanaeth sydd wedi'i nodi ar frig y ddogfen hon gan amlinellu eich materion.

Os byddwch chi'n parhau'n anfodlon, mae gennych chi hefyd yr hawl i gwyno wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Am ragor o wybodaeth am y broses gwyno, dilynwch y ddolen hon: www.caerffili.gov.uk/My-Council/Data-protection-and-freedom-of-information/Questions-and-complaints?lang=cy-gb