Cynhadledd Ynni Landlordiaid Caerffili

  • Maes gwasanaeth: Tai
  • Maes gwaith: Gofalu am Gaerffili
  • Manylion cyswllt: 01443 811490 / GofaluAmGaerffili@caerffili.gov.uk
  • Enw'r Hysbysiad Preifatrwydd: Cynhadledd Ynni Landlordiaid Caerffili
  • Disgrifiad o'r Hysbysiad Preifatrwydd: Bydd yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn disgrifio sut y byddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth pan fyddwch chi'n cofrestru i fynychu Cynhadledd Ynni Landlordiaid Caerffili.

Sut y byddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth

Ffynhonnell a'r math o wybodaeth sy'n cael ei phrosesu

Categorïau o ddata personol sy'n cael eu casglu - Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cael y categorïau canlynol o ran eich data personol chi:

  • Enw
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhif ffôn
  • Anghenion hygyrchedd

Y diben a'r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich gwybodaeth

Diben y gwaith prosesu  - I drefnu'r Gynhadledd Ynni ac wedyn cael adborth ar y gynhadledd a mesur ei llwyddiant.

Sail gyfreithiol ar gyfer y gwaith prosesu - Rydyn ni'n dibynnu ar ddarpariaethau deddfwriaeth Diogelu Data i brosesu eich gwybodaeth fel sydd wedi'i nodi isod:

Article 6.1.(f) processing is necessary for the purposes of the legitimate interests pursued by the controller or by a third party, except where such interests are overridden by the interests or fundamental rights and freedoms of the data subject which require protection of personal data, in particular where the data subject is a child.

Mae deddfwriaeth Diogelu Data yn darparu amddiffyniad ychwanegol ar gyfer rhai dosbarthiadau o wybodaeth o'r enw ‘data personol categori arbennig’. Os bydd unrhyw wybodaeth yn dod o fewn y diffiniad o ddata personol categori arbennig, yna rhaid nodi amod ychwanegol o erthygl 9 o'r Rheoliad, fel yr amlinellir isod (nid yw ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw):

Article 9.2.(g) processing is necessary for reasons of substantial public interest, on the basis of domestic law which shall be proportionate to the aim pursued and provide for suitable and specific measures to safeguard the fundamental rights and the interests of the data subject;

Pwy fydd yn cael mynediad at eich gwybodaeth chi? 

Manylion y Rheolydd Data a'r Swyddog Diogelu Data - Y Rheolydd Data ar gyfer eich gwybodaeth chi yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.  Y Swyddog Diogelu Data yw: 

  • Mr Carl Evans
  • Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth Gorfforaethol/Swyddog Diogelu Data
  • E-bost: DiogeluData@caerffili.gov.uk           
  • Ffôn: 01443 864322

Manylion am brif ddefnyddwyr eich gwybodaeth - Tîm Gofalu am Gaerffili.

Manylion am unrhyw achos o rannu'ch gwybodaeth chi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili - Tai'r Sector Preifat.

Ceisiadau am wybodaeth  - Mae'n bosibl y bydd yr holl wybodaeth sy'n cael ei chadw gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn destun ceisiadau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a deddfwriaeth Diogelu Data.            

Os bydd yr wybodaeth wedi'i darparu gennych chi yn destun cais o'r fath, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymgynghori â chi ynghylch ei rhyddhau, lle bo hynny'n bosibl.  Os byddwch chi'n gwrthwynebu rhyddhau eich gwybodaeth chi, byddwn ni'n cadw'r wybodaeth yn ei hôl, os bydd y ddeddfwriaeth berthnasol yn caniatáu i hynny ddigwydd.

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw eich gwybodaeth chi? 

Manylion am y cyfnod cadw - Mae pa mor hir y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cadw gwybodaeth yn cael ei bennu drwy ofynion statudol neu arferion gorau.

Byddwn ni'n cadw'r wybodaeth hon am saith mlynedd.

Eich hawliau chi (gan gynnwys y Weithdrefn Gwyno) 

Eich hawliau chi o dan ddeddfwriaeth Diogelu Data 

Mae'r ddeddfwriaeth Diogelu Data yn rhoi nifer o hawliau i destun y data (y rheini y mae'r wybodaeth yn sôn amdanyn nhw):

  • Yr hawl i gael mynediad at ddata gan y testun – mae ffurflenni cais ar gyfer y broses hon ar gael ar ein gwefan: Ffurflen Cais am Fynediad at Ddata gan y Testun (SAR)
  • Yr hawl i gael gwybod 
  • Yr hawl i gywiro
  • Yr hawl i ddileu
  • Yr hawl i gyfyngu ar brosesu  
  • Yr hawl i wrthwynebu
  • Yr hawl i gludadwyedd data  Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.  

Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau chi ar gael ar y wefan hon:  www.ico.org.uk. 

Er mwyn arfer eich hawliau chi, cysylltwch â'r maes gwasanaeth sydd wedi'i nodi ar frig y ffurflen hon. 

Y Weithdrefn Gwyno

Os ydych chi'n anfodlon ar y ffordd y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ymdrin â'ch cais/gwybodaeth chi, mae gennych chi'r hawl i gwyno.  Cysylltwch â'r maes gwasanaeth sydd wedi'i nodi ar frig y ddogfen hon gan amlinellu eich materion chi.  

Os byddwch chi'n parhau'n anfodlon, mae gennych chi hefyd yr hawl i gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.   Am ragor o wybodaeth am y broses gwyno, dilynwch y ddolen hon.