Lechyd yr Amgylchedd - Y sawl sy'n destun yr ap sŵn

  • Maes Gwasanaeth: Iechyd yr Amgylchedd
  • Maes Gwaith: Iechyd yr Amgylchedd
  • Manylion cyswllt: 01443 811200 / GweinydduIA@caerffili.gov.uk
  • Enw’r Hysbysiad Preifatrwydd: Y sawl sy'n destun yr ap sŵn
  • Disgrifiad o'r Hysbysiad Preifatrwydd: Bydd yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut y bydd Grŵp Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn defnyddio gwybodaeth wedi’i darparu amdanoch chi (data personol) yn ogystal â data fideo, sain a data arall wedi’u casglu yn ystod yr ymchwiliad i geisiadau am wasanaeth sydd naill ai wedi'u gwneud yn uniongyrchol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili neu drwy asiantaethau partner.

Sut y byddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth chi

Ffynhonnell a'r math o wybodaeth sy'n cael ei phrosesu

Yn ystod ymchwiliad i geisiadau am wasanaeth gan Grŵp Iechyd yr Amgylchedd Caerffili, naill ai a wnaed yn uniongyrchol neu'n gyntaf i sefydliad arall, bydd yr adran hon yn esbonio'r categorïau o ddata personol a fyddai'n dod i law neu’u casglu gennym ni a hefyd y mathau o sefydliadau a allai wneud atgyfeiriadau.

Categorïau o ddata personol a gesglir

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi casglu’r categorïau canlynol o ran eich data personol:

  • Enw:
  • Cyfeiriad
  • Manylion cyswllt
  • Ymchwiliad swyddogion a nodiadau ymweld â safle
  • Data sain a fideo wedi’u casglu yn ystod ymchwiliad
  • Manylion perchnogaeth tir neu eiddo a/neu feddiannaeth
  • Canlyniad yr ymchwiliad, gan gynnwys hysbysiadau cyfreithiol a gyflwynwyd a chanlyniadau erlyn

Ffynhonnell y data personol

Mae’r wybodaeth hon wedi’i rhannu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gan sefydliad arall fel sydd wedi'i nodi isod:

  • Awdurdod lleol arall
  • Sefydliadau eraill y Llywodraeth
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Yr Heddlu
  • Gwasanaethau Tân ac Achub

Casglwyd yr wybodaeth hon gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili drwy ffynonellau sydd ar gael i'r cyhoedd fel y nodir isod:

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ffynhonnell yr wybodaeth hon, cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Efallai y bydd gofyn i chi wneud cais am yr wybodaeth hon fel Cais Gwrthrych am Wybodaeth.

Data fideo a sain a ddarperir gan y cyhoedd trwy ffynonellau rheoledig megis yr ap sŵn neu offer recordio sain cludadwy a reolir.

Y diben a'r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich gwybodaeth chi

Diben y gwaith prosesu

  1. Canfod a all ceisiadau am wasanaeth a wneir ar ran aelodau o'r cyhoedd a busnesau i Grŵp Iechyd yr Amgylchedd Caerffili helpu datrys y mater.

  2. Os gall Grŵp Iechyd yr Amgylchedd gynorthwyo, bydd hyn yn cael ei gyflawni naill ai drwy roi cyngor i chi, cysylltu â chi fel busnes neu unigolyn, cymryd camau ffurfiol neu gynnal ymchwiliad troseddol.

  3. Pan fo'r busnes neu'r person y mae’r cwyn amdano wedi'i leoli mewn ardal awdurdod lleol arall, byddwn ni’n rhannu’ch manylion wedi’u darparu a’u casglu yn ystod ymchwiliad â Grŵp Iechyd yr Amgylchedd o'r ardal honno, i'w galluogi nhw i ystyried y mater ymhellach.

  4. Lle mai dim ond trwy gynnwys trydydd partïon megis tystion arbenigol neu'r llysoedd y gellir cyflawni cymorth, byddwn ni hefyd yn rhannu’ch gwybodaeth wedi’u darparu a’u casglu â nhw.

  5. Mewn perthynas ag ymchwiliadau troseddol a allai gynnwys asiantaethau gorfodi eraill, efallai byddwn ni hefyd yn rhannu’ch manylion a'ch gwybodaeth wedi’u casglu amdanoch chi â nhw. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau eraill Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili megis Safonau Masnach, Grwpiau Iechyd yr Amgylchedd Awdurdodau Lleol eraill a chyrff gorfodi fel yr heddlu a Chyfoeth Naturiol Cymru.

  6. Ar gyfer dadansoddi ystadegol.

Sail gyfreithiol ar gyfer y gwaith prosesu

Mae gofyniad tasg gyhoeddus ar awdurdodau cyhoeddus i brosesu eich gwybodaeth fel y nodir isod:

Bydd y ddeddfwriaeth sy'n darparu'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu yn dibynnu ar natur y cais am wasanaeth ond gall gynnwys y canlynol (nid yw hyn yn gynhwysfawr):

  • Deddf Gweithdrefn ac Ymchwiliadau Troseddol 1996
  • Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972
  • Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990
  • Deddf Atal a Rheoli Llygredd 1999
  • Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014

Er mwyn i brosesu data personol fod yn gyfreithlon o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016, mae'n rhaid nodi amod dilys o erthygl 6 o'r Rheoliad, sydd wedi'u hamlinellu isod (nid yw ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw):

1c. processing is necessary for compliance with a legal obligation to which the controller is subject

1e. processing is necessary for the performance of a task carried out in the public interest or in the exercise of official authority vested in the controller;

Mae deddfwriaeth Diogelu Data yn darparu amddiffyniad ychwanegol ar gyfer rhai dosbarthiadau o wybodaeth o'r enw ‘data personol arbennig’. Os bydd unrhyw wybodaeth yn dod o fewn y diffiniad o ddata personol arbennig, yna rhaid nodi amod ychwanegol o erthygl 9 o'r Rheoliad, fel yr amlinellir isod (nid yw ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw):

6 (1) This condition is met if the processing —

  1. is necessary for a purpose listed in sub-paragraph (2), and

  2. is necessary for reasons of substantial public interest.

(2) Those purposes are —

  1. the exercise of a function conferred on a person by an enactment or rule of law;

  2. the exercise of a function of the Crown, a Minister of the Crown or a government department.

Pwy fydd yn cael mynediad at eich gwybodaeth chi?

Manylion y Rheolydd Data a'r Swyddog Diogelu Data

Y Rheolydd Data ar gyfer eich gwybodaeth chi yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Y Swyddog Diogelu Data yw:

Efallai y bydd Rheolyddion Data eraill hefyd yn gyfrifol am eich gwybodaeth, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau penodol. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r maes gwasanaeth.

Manylion am brif ddefnyddwyr eich gwybodaeth

Bydd Grŵp Iechyd yr Amgylchedd Caerffili yn defnyddio fideo, sain a thystiolaeth wedi’i chasglu amdanoch chi i asesu a oes angen gweithredu o dan ddeddfwriaeth berthnasol.

Os teimlir bod maes gwasanaeth arall Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili mewn gwell sefyllfa i ystyried y mater, byddwn ni’n trosglwyddo rhagor o wybodaeth wedi’i chasglu iddyn nhw. Mae’r meysydd hyn yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i'r canlynol: Safonau Masnach, Cynllunio, Diogelwch Cymunedol, Gwasanaethau Cymdeithasol, Rheoli Gwastraff, Arlwyo a Phriffyrdd.

Gellir rhannu manylion wedi’u casglu yn ystod ymchwiliadau fel eich enw a'ch cyfeiriad, recordiadau sain a fideo â thrydydd partïon, megis tystion arbenigol, darparwyr gwasanaethau allanol, cyrff gorfodi allanol eraill fel yr heddlu neu Cyfoeth Naturiol Cymru a'r llysoedd at ddibenion cymryd camau cyfreithiol perthnasol.

Byddwn ni’n defnyddio gwybodaeth wedi’i chasglu amdanoch chi yn ymchwiliadau ceisiadau am wasanaeth ar gyfer dadansoddi ystadegol, o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac yn allanol, fodd bynnag, llunnir canlyniadau'r dadansoddiad hwn mewn modd na fydd yn datgelu’ch manylion personol.

Manylion am unrhyw achos o rannu'ch gwybodaeth chi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Gyda meysydd gwasanaeth eraill a allai fod mewn gwell sefyllfa i ddelio â'ch cais am wasanaeth, e.e. Safonau Masnach, Cynllunio, Priffyrdd, Rheoli Gwastraff, Parciau, Diogelwch Cymunedol, Cynllunio ac ati.

Manylion am unrhyw achos o rannu'ch gwybodaeth â sefydliadau eraill

  • Gellir rhannu eich manylion, gan gynnwys data sain a fideo wedi’u casglu yn ystod y broses o ymchwilio i geisiadau am wasanaethau, â chyrff gorfodi'r gyfraith at ddibenion atal neu ganfod trosedd neu ddal neu erlyn troseddwyr.
  • Gellir rhannu eich manylion, gan gynnwys data sain a fideo wedi’u casglu yn ystod y broses o ymchwilio i geisiadau am wasanaethau, â Grwpiau Iechyd yr Amgylchedd Awdurdod Lleol eraill a allai fod mewn gwell sefyllfa i ystyried y mater ymhellach neu yn gyfreithiol.
  • Os oes angen mewnbwn trydydd partïon fel tystion arbenigol, efallai y byddwn ni’n rhannu’ch manylion, gan gynnwys data sain a fideo wedi’u casglu yn ystod y broses o ymchwilio i geisiadau am wasanaethau, â nhw.
  • Wrth ymchwilio i geisiadau am wasanaethau lle mae angen tystiolaeth sain neu fideo, efallai y byddwn ni’n rhannu’ch manylion â darparwyr gwasanaethau allanol megis, ond heb fod yn gyfyngedig i, RHE Global a darparwyr eraill offer casglu tystiolaeth sain a fideo.
  • Byddwn ni’n rhannu’ch manylion, gan gynnwys data sain a fideo wedi’u casglu yn ystod y y broses o ymchwilio i geisiadau am wasanaethau, â’r llysoedd os cychwynnir achos troseddol.

Manylion am unrhyw brosesyddion data allanol

Mae RH Environmental Limited, sy’n masnachu fel RHE Global, yn darparu offeryn casglu tystiolaeth sain a fideo at ddibenion ymchwiliadau ceisiadau am wasanaeth.

Mae gwybodaeth am Delerau ac Amodau Defnydd Cyfrifol ar gael gan: https://sso.rheglobal.com/services/1/licences/reasonable-use a Thelerau Gwasanaeth ar gael gan: https://sso.rheglobal.com/licences/94.

Ceisiadau am wybodaeth

Mae'n bosibl y bydd yr holl wybodaeth sy'n cael ei chadw gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn destun ceisiadau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a deddfwriaeth Diogelu Data.

Os bydd yr wybodaeth wedi'i darparu gennych chi yn destun cais o'r fath, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymgynghori â chi ynghylch ei rhyddhau, lle bo hynny'n bosibl. Os byddwch chi'n gwrthwynebu rhyddhau eich gwybodaeth chi, byddwn ni'n cadw'r wybodaeth yn ei hôl, os bydd y ddeddfwriaeth berthnasol yn caniatáu i hynny ddigwydd.

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw eich gwybodaeth chi?

Manylion am y cyfnod cadw

Mae pa mor hir y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cadw gwybodaeth yn cael ei bennu drwy ofynion statudol neu arferion gorau.

Mewn perthynas â'ch gwybodaeth, byddwn ni’n ei chadw hyd at 6 blynedd yn unol â Pholisi Cadw Dogfennau Diogelu'r Cyhoedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Eich hawliau chi (gan gynnwys y Weithdrefn Gwyno)

Eich hawliau chi o dan ddeddfwriaeth Diogelu Data

Mae'r ddeddfwriaeth Diogelu Data yn rhoi nifer o hawliau i destunau y data (y rheini y mae'r wybodaeth yn sôn amdanyn nhw):

  • Yr hawl i gael mynediad at ddata gan y testun – mae ffurflenni cais ar gyfer y broses hon ar gael ar ein gwefan ni: Ffurflen Cais am Fynediad at Ddata gan y Testun (SAR)
  • Yr hawl i gael gwybod
  • Yr hawl i gywiro
  • Yr hawl i ddileu
  • Yr hawl i gyfyngu ar brosesu
  • Yr hawl i wrthwynebu
  • Yr hawl i gludadwyedd data
  • Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.

Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau chi ar gael ar y wefan hon: www.ico.org.uk.

Er mwyn arfer eich hawliau chi, cysylltwch â'r maes gwasanaeth sydd wedi'i nodi ar frig y ffurflen hon.

Y Drefn Gwyno

Os ydych chi'n anfodlon ar y ffordd y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ymdrin â'ch cais/gwybodaeth chi, mae gennych chi'r hawl i gwyno. Cysylltwch â'r maes gwasanaeth sydd wedi'i nodi ar frig y ddogfen hon gan amlinellu eich materion chi. Os byddwch chi'n parhau'n anfodlon, mae gennych chi hefyd yr hawl i gwyno wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Am ragor o wybodaeth am y broses gwyno, dilynwch y ddolen hon: www.caerffili.gov.uk/My-Council/Data-protection-and-freedom-of-information/Questions-and-complaints?lang=cy-gb

Contact us
  • Email Address
  • Telephone
  • Address