Y Blynyddoedd Cynnar – Datblygu'r Gweithlu

  • Maes Gwasanaeth: Addysg
  • Maes Gwaith: Blynyddoedd Cynnar
  • Manylion cyswllt: Fiona Santos - BlynyddoeddCynnar@caerffili.gov.uk
  • Enw'r Hysbysiad Preifatrwydd: Y Blynyddoedd Cynnar – Datblygu'r Gweithlu
  • Disgrifiad o'r Hysbysiad Preifatrwydd: Bydd yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn egluro sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn defnyddio'r wybodaeth a ddarperir gennych chi wrth wneud cais am gyrsiau hyfforddiant a thalu amdanyn nhw ar wefan Blynyddoedd Cynnar Caerffili.

Sut y byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth

Categorïau/Ffynhonnell data personol a geir

Yn y rhan fwyaf o achosion bydd unigolion yn cyflwyno eu gwybodaeth eu hunain drwy’r ffurflen gais ar-lein os hoffen nhw fynychu unrhyw un o’r cyrsiau hyfforddiant a hysbysebwyd. Fodd bynnag, mae'n bosibl i'r wybodaeth hon hefyd gael ei chyflwyno gan rywun arall, megis rheolwr.

Dyma amlinelliad o'r wybodaeth y byddwn yn ei chasglu:

  • Enw’r mynychwr a'i fanylion cyswllt, gan gynnwys cyfeiriad e-bost
  • Gweithle’r mynychwr
  • Swyddogaeth y mynychwr yn eich sefydliad a theitl ei swydd
  • Gwybodaeth ddewisol arall amdanoch sy'n ymwneud ag anghenion hyfforddi, er enghraifft, alergeddau, dyslecsia ac ati

Y diben a'r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich gwybodaeth

Diben y gwaith prosesu

Bydd tîm y Blynyddoedd Cynnar, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn defnyddio'ch data personol er mwyn gweinyddu eich cais am hyfforddiant a phrosesu’r taliad.

Bydd gwybodaeth am y cais am hyfforddiant yn cael ei chasglu drwy ffurflen ar-lein a'i storio yn system Abavus My Council Services. Bydd yr wybodaeth hon hefyd yn cael ei hychwanegu at fodiwl hyfforddi Dewis Cymru. Defnyddir y ddwy system i reoli ceisiadau am hyfforddiant, prosesu taliadau ac anfon hysbysiadau cadarnhau ar ffurf e-bost. Mae'n bosibl y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i lunio cofnod ac archwilio gofynion hyfforddi'r sector.

Sail gyfreithiol ar gyfer y gwaith prosesu

Er mwyn i brosesu data personol fod yn gyfreithlon o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016, mae'n rhaid nodi amod dilys o erthygl 6 o'r Rheoliad, a amlinellir isod (nid yw ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw):

Erthygl 6 1(b): processing is necessary for the performance of a contract to which the data subject is party or in order to take steps at the request of the data subject prior to entering into a contract;

Mae deddfwriaeth Diogelu Data yn darparu amddiffyniad ychwanegol ar gyfer rhai dosbarthiadau o wybodaeth o'r enw ‘data personol arbennig’. Byddai'r wybodaeth berthnasol y gallwn ei chasglu, sy'n dod o dan y diffiniad hwn, yn cynnwys alergeddau, dyslecsia, anawsterau symudedd ac ati. Er mwyn prosesu'r wybodaeth hon, mae'n rhaid nodi amod ychwanegol o erthygl 9 o'r Rheoliad, fel yr amlinellir isod:

Deddf Diogelu Data 2018 – Atodlen 1 – Rhan 2 (Nid yw'r rhan hon ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw.)

8(1) This condition is met if the processing-

  1. is of a specified category of personal data, and

  2. is necessary for the purposes of identifying or keeping under review the existence or absence of equality of opportunity or treatment between groups of people specified in relation to that category with a view to enabling such equality to be promoted or maintained, subject to the exceptions in sub-paragraphs (3) to (5).

Pwy fydd yn gallu cyrchu eich gwybodaeth?

Manylion y Rheolwr Data a'r Swyddog Diogelu Data

Y Rheolwr Data ar gyfer eich gwybodaeth yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Y Swyddog Diogelu Data yw:

Efallai y bydd Rheolwyr Data eraill hefyd yn gyfrifol am eich gwybodaeth, yn dibynnu ar yr amgylchiadau penodol. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Maes Gwasanaeth.

Manylion am brif ddefnyddwyr eich gwybodaeth

Datblygu Gweithlu'r Blynyddoedd Cynnar

Manylion am unrhyw achos o rannu'ch gwybodaeth o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Bydd methu â thalu am hyfforddiant o fewn yr amserlenni a bennwyd yn arwain at drosglwyddo eich manylion cyswllt, a'r manylion am y ddyled, i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili – Mân Ddyledwyr – i adennill y balansau sy'n weddill.

Manylion am unrhyw achos o rannu'ch gwybodaeth â sefydliadau eraill

Os byddwch yn archebu cwrs gofal plant sy'n cael ei ddarparu gan drydydd parti, bydd y wybodaeth berthnasol yn cael ei rhannu â'r trydydd parti dan sylw.

  • Enw’r mynychwr a'i fanylion cyswllt, gan gynnwys cyfeiriad e-bost
  • Gweithle’r mynychwr
  • Swyddogaeth y mynychwr yn eich sefydliad a theitl ei swydd
  • Gwybodaeth ddewisol arall amdanoch sy'n ymwneud ag anghenion hyfforddi, er enghraifft, alergeddau, dyslecsia ac ati

Manylion am unrhyw brosesyddion data allanol

Mae'r systemau ar-lein sy'n dal eich gwybodaeth hyfforddiant a'ch gwybodaeth talu yn cael eu cynnal gan gwmnïau allanol.

Mae gennym gytundebau prosesu data / contractau ar waith gyda'r cwmnïau hyn er mwyn diogelu'r wybodaeth bersonol sy'n cael ei phrosesu.

Ceisiadau am wybodaeth

Mae'n bosibl y bydd yr holl wybodaeth a gedwir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn destun ceisiadau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a deddfwriaeth Diogelu Data.

Os bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych yn destun cais o'r fath, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymgynghori â chi ynghylch ei rhyddhau, lle bo hynny'n bosibl. Os byddwch yn gwrthwynebu rhyddhau eich gwybodaeth, byddwn yn cadw'r wybodaeth yn ei hôl, os bydd y ddeddfwriaeth berthnasol yn caniatáu i hynny ddigwydd.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?

Manylion am y cyfnod cadw

Mae'r cyfnod y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cadw gwybodaeth yn cael ei bennu drwy ofynion statudol neu arferion gorau.

Bydd y manylion am eich cofnodion hyfforddiant yn cael eu cadw ar y system am gyfnod amhenodol, neu hyd nes y byddwch yn tynnu'ch caniatâd yn ôl i ni gadw'r wybodaeth.

Bydd data trafodion mewn perthynas ag archebu cyrsiau hyfforddiant gofal plant, a thalu amdanynt, yr ydym yn eu gweinyddu, yn cael eu cadw am saith mlynedd yn unol â'r Rheoliadau Ariannol.

Eich Hawliau (gan gynnwys y Weithdrefn Gwyno)

Eich hawliau dan gyfraith Diogelu Data

Mae'r Ddeddf Diogelu Data yn rhoi nifer o hawliau i destun y data (y rheiny y mae'r wybodaeth yn sôn amdanynt):

  • Hawl i gael mynediad at ddata gan y testun – mae ffurflenni cais ar gyfer y broses hon ar gael ar ein gwefan: Ffurflen Gais am Fynediad at Ddata gan y Testun (SAR)
  • Yr hawl i gael gwybod
  • Yr hawl i gywiro
  • Yr hawl i ddileu
  • Yr hawl i gyfyngu ar brosesu
  • Yr hawl i wrthwynebu
  • Yr hawl i gludadwyedd data
  • Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.

Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar gael ar y wefan hon: www.ico.org.uk.

Er mwyn arfer eich hawliau, cysylltwch â'r maes gwasanaeth y manylir arno ar frig y ffurflen hon.

Y Weithdrefn Gwyno

Os ydych yn anfodlon â'r modd y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ymdrin â'ch cais/gwybodaeth, mae gennych yr hawl i gwyno. Cysylltwch â'r Maes Gwasanaeth a fanylir ar frig y ddogfen hon gan amlinellu eich materion.

Os byddwch yn parhau'n anfodlon, mae gennych hefyd yr hawl i gwyno wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Dilynwch y ddolen hon am ragor o wybodaeth am y broses gwyno: http://www.caerffili.gov.uk/My-Council/Data-protection-and-freedom-of- information/Questions-and-complaints?lang=cy-gb