Trwyddedau Anifeiliaid

  • Man Gwasanaeth: Diogelwch y Cyhoedd
  • Maes Gwaith: Trwyddedu
  • Manylion Cyswllt: 01443 866750 trwyddedu@caerffili.gov.uk
  • Enw’r Hysbysiad Preifatrwydd: Ceisiadau am drwyddedau/cofrestriadau a roddwyd mewn
  • perthynas â chadw anifeiliaid. Mae'r rhain yn cynnwys sefydliadau lletya anifeiliaid, anifeiliaid gwyllt peryglus, bridio cŵn, anifeiliaid perfformio, siopau anifeiliaid anwes ac ysgolion marchogaeth.
  • Disgrifiad o'r Hysbysiad Preifatrwydd: Bydd yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut y
  • bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn defnyddio'r wybodaeth a ddarparwch amdanoch chi'ch hun os byddwch yn gwneud cais ar gyfer unrhyw un o'r uchod.

Sut y byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth

Sut y byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth

Diben y gwaith prosesu

Defnyddir y wybodaeth a roddwch i brosesu eich cais a chaiff ei defnyddio i benderfynu ar eich addasrwydd/addasrwydd parhaus at ddibenion trwyddedu. Lle bo'n briodol, bydd y wybodaeth hefyd yn cael ei defnyddio i ganfod a yw eich safle'n addas ar gyfer cadw a lles anifeiliaid ar gyfer y math o sefydliad yr ydych yn gwneud cais amdano.

Lle mae trwyddedau yn cael eu penderfynu gan Bwyllgor, mae’r agenda ar gael i’r cyhoedd trwy ein gwefan. Bydd manylion personol, serch hynny’n cael eu cadw’n gyfrinachol.

Mae gennym hefyd rwymedigaeth gyfreithiol i gynnal cofrestrau cyhoeddus ar gyfer anifeiliaid perfformio yn unol â'r ddeddfwriaeth. Os yw’n berthnasol, bydd y wybodaeth ganlynol amdanoch yn cael ei chadw ar gofrestr gyhoeddus:

  • Enw;
  • Cyfeiriad man preswylio sefydlog;
  • Cyfeiriad neu Gyfeiriadau lle caiff anifeiliaid eu hyfforddi.

Bydd eich gwybodaeth hefyd yn cael ei defnyddio at ddibenion enillion statudol, cydymffurfiaeth ac adolygiadau gwasanaethau cwsmeriaid.

Ffynhonnell a chategorïau data personol

Yn ychwanegol at y wybodaeth a ddarperir gennych, efallai y byddwn hefyd yn cael gwybodaeth i benderfynu ar eich addasrwydd/addasrwydd parhaus at ddibenion trwyddedu o ffynonellau eraill fel awdurdodau lleol eraill lle yr oedd gennych drwydded yn y gorffennol neu o’r Heddlu.

Sail gyfreithiol ar gyfer y gwaith prosesu

Mae rhwymedigaeth tasg gyhoeddus i brosesu eich gwybodaeth a nodir isod:

Mae dyletswydd gyfreithiol ar y Cyngor i ystyried ceisiadau ar gyfer cadw anifeiliaid a gyhoeddir yn unol â'r ddeddfwriaeth ganlynol:

  • Deddf Sefydliadau Lletya Anifeiliaid 1963
  • Deddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976
  • Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014
  • Deddf Anifeiliaid Perfformio (Rheoliad) 1925
  • Siopau Anifeiliaid Anwes
  • Deddf Sefydliadau Marchogaeth 1964 a 1970

Er mwyn i brosesu data personol fod yn gyfreithlon o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016, mae'n rhaid nodi amod dilys o erthygl 6 o'r Rheoliad, a amlinellir isod:

1e. mae angen prosesu ar gyfer cyflawni tasg a wnaed er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd yn y rheolwr;

Mae deddfwriaeth Diogelu Data yn darparu amddiffyniad ychwanegol ar gyfer rhai dosbarthiadau o wybodaeth o'r enw ‘data personol arbennig’. Os bydd unrhyw wybodaeth yn dod o fewn y diffiniad o ddata personol arbennig, yna rhaid nodi amod ychwanegol o Erthygl 9 o'r Rheoliadau, fel yr amlinellir isod:

Deddf Diogelu Data 2018 - Atodlen 1 / Rhan 2

6 (1) Cyflawnir yr amod hwn os yw'r prosesu —

  1. Yn angenrheidiol at ddiben a restrir yn is-baragraff (2), a
  2. Yn angenrheidiol oherwydd rhesymau o fudd sylweddol y cyhoedd.

Y dibenion hynny yw -

  1. ymarfer swyddogaeth a roddwyd i berson drwy ddeddfiad neu reol gyfreithiol;
  2. ymarfer swyddogaeth y Goron, Gweinidog y Goron neu adran y llywodraeth.

Mae deddfwriaeth Diogelu Data hefyd yn darparu amddiffyniad ychwanegol ar gyfer data personol mewn perthynas ag euogfarnau troseddol a throseddau. Os bydd unrhyw ddata personol yn dod o fewn y categori hwn, yna mae'n rhaid nodi amod ychwanegol o Erthygl 10 o'r Rheoliadau.

Mae'r amod uchod yn amod Erthygl 9 ac Erthygl 10 ar gyfer prosesu.

Lle rydym yn rhannu eich gwybodaeth gydag eraill y tu allan i ofynion y dasg gyhoeddus, amlinellir y sail gyfreithiol ar gyfer rhannu hwn isod:

(1) f. mae angen prosesu at ddibenion y buddiannau dilys a ddilynir gan y rheolwr neu gan drydydd parti, ac eithrio pan fo buddiannau o'r fath yn cael eu diystyru gan fuddiannau neu hawliau a rhyddid sylfaenol y testun data sy'n gofyn am ddiogelu data personol, yn enwedig pan fo'r testun data yn blentyn.

Pwy fydd yn gallu cyrchu eich gwybodaeth?

Manylion y Rheolwr Data a'r Swyddog Diogelu Data

Y Rheolwr Data ar gyfer eich gwybodaeth yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Y Swyddog Diogelu Data yw:

  • Mr Carl Evans
  • Y Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth Gorfforaethol / Swyddog Diogelu Data E-bost: diogeludata@caerffili.gov.uk
  • Ffôn: 01443 864322

Efallai y bydd Rheolwyr Data eraill hefyd yn gyfrifol am eich gwybodaeth, yn dibynnu ar yr amgylchiadau penodol. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Maes Gwasanaeth

Manylion am brif ddefnyddwyr eich gwybodaeth

Prif ddefnyddiwr eich gwybodaeth fydd yr Adrannau Trwyddedu a Safonau Masnach, a fydd yn cael cymorth cyfreithiol gan Wasanaethau Cyfreithiol CBSC.

Lle na ellir benderfynu ar geisiadau am drwyddedau gan swyddogion o dan bwerau dirprwyedig, penderfynir ar geisiadau Is-bwyllgor sy'n cynnwys aelodau etholedig. Bydd manylion personol, serch hynny’n cael eu cadw’n gyfrinachol.

Mae gennym hefyd rwymedigaeth gyfreithiol i gynnal cofrestrau cyhoeddus ar gyfer anifeiliaid perfformio yn unol â'r ddeddfwriaeth. Os yw’n berthnasol, bydd y wybodaeth ganlynol amdanoch yn cael ei chadw ar gofrestr gyhoeddus:

  • Enw;
  • Cyfeiriad man preswylio sefydlog;
  • Cyfeiriad neu Gyfeiriadau lle caiff anifeiliaid eu hyfforddi.

Manylion am unrhyw rannu o'ch gwybodaeth o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Efallai byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda’r meysydd gwasanaeth canlynol:

  • Cynllunio er mwyn sicrhau bod caniatâd cynllunio perthnasol mewn lle.
  • Tai er mwyn sicrhau caniatâd priodol y landlord.
  • Treth y Cyngor a Budd-daliadau Tai at ddiben canfod ac atal twyll ar bwrs y wlad.

Manylion am unrhyw rannu o'ch gwybodaeth â Sefydliadau eraill

Efallai y bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu lle mae sail gyfreithiol dros wneud hynny gyda'r sefydliadau canlynol:

  • Awdurdodau Lleol Eraill
  • Milfeddyg/Ymarferwr Cymeradwy y Cyngor,
  • Milfeddygon Eraill neu Ymarferwyr
  • Sefydliadau lles anifeiliaid anstatudol fel RSPCA
  • Awdurdodau statudol eraill, er enghraifft, ac nid yn gyfyngedig i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau, yr Heddlu neu asiantaeth debyg, lle mae rhannu eich data yn hanfodol.
  • Cyrff cyhoeddus neu sefydliadau eraill sy'n defnyddio technegau paru data i gasglu trethi, canfod ac atal twyll ar bwrs y wlad neu gynorthwyo i ymchwilio a chanfod trosedd, erlyn troseddwyr, amddiffyn eiddo a chynnal cyfraith a threfn.
  • Efallai y bydd gofyn i ni rannu eich gwybodaeth bersonol gyda'r Heddlu, neu asiantaeth debyg, neu Gyngor arall at ddibenion atal a chanfod twyll.
  • Cymdeithasau Tai

Manylion am unrhyw broseswyr data allanol

Mae Diamond People Ltd (darparwr cronfa ddata) yn darparu diweddariadau i'r system a chynnal cofnodion a/neu gofrestrau). Bydd prosesu data yn unol â'r cytundeb prosesydd data sydd ar waith.

Ceisiadau am wybodaeth

Mae'n bosibl y bydd yr holl wybodaeth a gedwir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn destun ceisiadau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a Deddf Diogelu Data 1998.

Os bydd y wybodaeth a ddarperir gennych yn destun cais o'r fath, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymgynghori â chi ynghylch ei rhyddhau, lle bo hynny'n bosibl. Os byddwch yn gwrthwynebu rhyddhau eich gwybodaeth, byddwn yn cadw'r wybodaeth yn ei hôl, os bydd y ddeddfwriaeth berthnasol yn caniatáu i hynny ddigwydd.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?

Manylion am y cyfnod cadw

Mae'r cyfnod y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cadw gwybodaeth yn cael ei bennu drwy ofynion statudol neu arferion gorau.

Yn unol â Pholisi Cadw Data Diogelwch y Cyhoedd, cedwir y wybodaeth fel a ganlyn:

  • Sefydliad Lletya Anifeiliaid - Trwydded berthnasol ynghyd â blwyddyn a chynlluniau ac archwiliadau milfeddygon;
  • Anifeiliaid Gwyllt Peryglus - Trwydded berthnasol ynghyd â blwyddyn a chynlluniau ac archwiliadau milfeddygon;
  • Bridio Cŵn - Trwydded berthnasol ynghyd â blwyddyn a chynlluniau ac archwiliadau milfeddygon;
  • Anifeiliaid Perfformio - Amhenodol
  • Siopau Anifeiliaid Anwes - Trwydded berthnasol ynghyd â blwyddyn a chynlluniau ac archwiliadau milfeddygon;
  • Ysgolion Marchogaeth - Trwydded berthnasol ynghyd â blwyddyn a chynlluniau ac archwiliadau milfeddygon;

Eich Hawliau (gan gynnwys y Weithdrefn Gwynion)

Eich hawliau dan gyfraith Diogelu Data

Mae'r ddeddf Diogelu Data yn rhoi nifer o hawliau i destun y data (y rheiny y mae'r wybodaeth yn sôn amdanynt):

  • Hawl i gael mynediad at ddata gan y testun - Mae ffurflenni cais ar gyfer y broses hon ar gael ar ein gwefan: Ffurflen Gais am Fynediad at Ddata gan y Testun (SAR)
  • Yr hawl i gael gwybod
  • Yr hawl i gywiro
  • Yr hawl i ddileu
  • Yr hawl i gyfyngu ar brosesu
  • Yr hawl i wrthwynebu
  • Yr hawl i gludadwyedd data
  • Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.

Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar gael ar y wefan hon: www.ico.org.uk

Er mwyn arfer eich hawliau, cysylltwch â'r maes gwasanaeth y manylir arno ar frig y ffurflen hon.

Y Weithdrefn Gwyno

Os ydych chi'n anfodlon ar y ffordd y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ymdrin â'ch cais/gwybodaeth chi, mae gennych chi'r hawl i gwyno.  Cysylltwch â'r maes gwasanaeth sydd wedi'i nodi ar frig y ddogfen hon gan amlinellu eich materion chi.  

Os byddwch chi'n parhau'n anfodlon, mae gennych chi hefyd yr hawl i gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.   Am ragor o wybodaeth am y broses gwyno, dilynwch y ddolen hon.