Rhandiroedd

  • Maes Gwasanaeth: Gwasanaethau Parciau
  • Man Gweithio: Rhandiroedd
  • Manylion cyswllt: 01443 811458 / GweinydduParciau@caerffili.gov.uk
  • Enw'r Hysbysiad Preifatrwydd: Hysbysiad Preifatrwydd Rhandiroedd
  • Disgrifiad o'r Hysbysiad Preifatrwydd: Bydd yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn egluro sut mae’r Gwasanaethau Parciau yn defnyddio’r data personol rydyn ni’n ei gasglu gennych chi pan fyddwch chi’n darparu eich manylion mewn perthynas â rhandiroedd.

Sut y byddwn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth

Ffynhonnell a'r math o wybodaeth sy'n cael ei phrosesu

Categorïau o ddata personol sy'n cael eu casglu

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cael y categorïau canlynol o ran eich data personol:

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhif ffôn
  • Dyddiad geni
  • Cymhwysedd am gonsesiwn (budd-daliadau)
  • Manylion talu

Ffynhonnell y data personol

Rydych chi'n darparu'r rhan fwyaf o'r data rydyn ni'n ei gasglu yn uniongyrchol i’r Gwasanaethau Parciau. Rydyn ni’n casglu data ac yn prosesu data pan fyddwch chi’n gwneud y canlynol:

Cofrestru ar-lein i wneud cais i fynd ar restr aros am randir. Cwblhau arolwg cwsmeriaid yn wirfoddol neu roi adborth ar unrhyw un o'n byrddau negeseuon neu drwy e-bost.

Mae’n bosibl y bydd y Gwasanaethau Parciau hefyd yn cael eich data yn anuniongyrchol o’r ffynonellau canlynol:

Mae'n bosibl y bydd eich manylion yn cael eu hanfon ymlaen at y Gwasanaethau Parciau os byddwch chi’n cysylltu â'r adran Cyfrifon. Swm derbyniadwy/adennill incwm ynghylch eich anfoneb rhandir.​

Y diben a'r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich gwybodaeth

Diben y gwaith prosesu

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio gan y Cyngor at y dibenion canlynol:​

  • Cychwyn a chyflawni telerau Cytundeb Tenantiaeth Rhandir
  • Rheoli rhestr aros am randir
  • Cynnal a gweinyddu'r cofnodion ar y gronfa ddata rhandiroedd
  • Cysylltu â chi os bydd problem gyda'ch tenantiaeth/llain
  • Anfon gwybodaeth am adnewyddu
  • Ein galluogi ni i fodloni'r holl rwymedigaethau cyfreithiol a statudol
  • Eich hysbysu chi am newidiadau fel gwaith atgyweirio a chynnal a chadw
  • Mynd ar drywydd taliadau sy'n ddyledus

Rydyn ni hefyd yn prosesu peth o'r data hwn os ydych chi’n gwirfoddoli fel cynrychiolydd safle.

Sail gyfreithiol ar gyfer y gwaith prosesu

Er mwyn i brosesu data personol fod yn gyfreithlon o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016, mae'n rhaid nodi amod dilys o Erthygl 6 o'r Rheoliad.

Mae rhwymedigaeth gytundebol a thasg gyhoeddus i brosesu eich gwybodaeth. Yn ogystal, rydyn ni’n dibynnu ar eich caniatâd mewn un achos. Mae’r achos hwn a’r rhwymedigaethau blaenorol wedi’u nodi isod (nid yw’r amodau ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniadau o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw):

Mae gennym ni rwymedigaeth gytundebol (Cytundeb Tenantiaeth) gyda chi

Article 6(1)(b) processing is necessary for the performance of a contract to which the data subject is party or in order to take steps at the request of the data subject prior to entering into a contract;

Lle bo angen cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer swyddogaethau’r Awdurdod Lleol o dan Ddeddf Rhandiroedd 1908 fel sydd wedi’i haddasu o dan Ddeddf Rhandiroedd 1950

Article 6(1)(e) processing is necessary for the performance of a task carried out in the public interest or in the exercise of official authority vested in the controller;

Gyda chaniatâd pan fyddwch chi’n ymateb i'n harolygon

Article 6(1)(a) the data subject has given consent to the processing of his or her personal data for one or more specific purposes;

Yr hawl i dynnu caniatâd yn ôl

Mae gennych chi’r hawl i dynnu'ch caniatâd i brosesu'r wybodaeth hon yn ôl. I dynnu'ch caniatâd yn ôl, cysylltwch â'r Maes Gwasanaeth y mae ei fanylion ar frig y ddogfen hon.

Pwy fydd yn cael mynediad at eich gwybodaeth chi?

Manylion y Rheolydd Data a'r Swyddog Diogelu Data

Y Rheolydd Data ar gyfer eich gwybodaeth chi yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Y Swyddog Diogelu Data yw:

Efallai y bydd Rheolyddion Data eraill hefyd yn gyfrifol am eich gwybodaeth, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau penodol. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r maes gwasanaeth.

Manylion am brif ddefnyddwyr eich gwybodaeth

Gwasanaethau Parciau, Tîm Rhandiroedd.

Manylion am unrhyw achos o rannu'ch gwybodaeth chi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Gellir rhannu manylion yn fewnol gyda thimau’r Cyngor i gynorthwyo'r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu, megis Cyllid Corfforaethol i brosesu taliadau.

Manylion am unrhyw achos o rannu'ch gwybodaeth â sefydliadau eraill

Mae gan safleoedd rhandiroedd y Cyngor Gynrychiolwyr Safle sy'n aelodau o'r pwyllgor. Tenantiaid rhandiroedd yw’r rhain sydd wedi’u hethol i’r rôl ac sy’n hwyluso gwaith rheoli safleoedd y rhandiroedd ar ran y ffederasiwn. Mae’r Cynrychiolwyr Safle yn dangos lleiniau gwag i ddarpar denantiaid, yn cynorthwyo archwiliadau safle, yn cynghori ar faterion safle, yn rhoi arweiniad i denantiaid newydd a phresennol.​ I gyflawni’r rôl hon, mae’r wybodaeth ganlynol yn cael ei rhoi i Gynrychiolwyr Safle:

Enwau tenantiaid presennol, rhifau eu lleiniau, eu cyfeiriadau e-bost a’u rhifau ffôn. Enwau darpar denantiaid, eu cyfeiriadau e-bost a’u rhifau ffôn.

Bydd Cynrychiolwyr Safle ond yn cadw eich gwybodaeth tra byddan nhw’n cyflawni’r rôl hon.

Byddwch chi’n cael gwybod gan y ffederasiwn Rhandiroedd os nad yw Cynrychiolydd Safle bellach yn ei swydd. Fel deiliad llain, bydd Pwyllgor Safleoedd y Rhandiroedd hefyd yn cysylltu â chi i roi gwybod pryd mae disgwyl i’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol gael ei gynnal a fydd yn cynnwys ethol y Pwyllgor (gan gynnwys y Cynrychiolydd Safle).

Ceisiadau am wybodaeth

Mae'n bosibl y bydd yr holl wybodaeth sy'n cael ei chadw gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn destun ceisiadau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a deddfwriaeth Diogelu Data.

Os bydd yr wybodaeth wedi'i darparu gennych chi yn destun cais o'r fath, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymgynghori â chi ynghylch ei rhyddhau, lle bo hynny'n bosibl. Os byddwch chi'n gwrthwynebu rhyddhau eich gwybodaeth chi, byddwn ni'n cadw'r wybodaeth yn ei hôl, os bydd y ddeddfwriaeth berthnasol yn caniatáu i hynny ddigwydd.

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw eich gwybodaeth chi?

Manylion am y cyfnod cadw

Mae pa mor hir y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cadw gwybodaeth yn cael ei bennu drwy ofynion statudol neu arferion gorau.

Bydd y Cyngor yn cadw eich data personol chi am gyfnod tenantiaeth y rhandir. Unwaith y bydd y cyfnod hwn wedi dod i ben, bydd eich data chi’n ddienw fel na fydd modd eich adnabod. Bydd data ariannol yn cael ei gadw am 6 blynedd ar ôl i’ch tenantiaeth chi ddod i ben.

Eich Hawliau (gan gynnwys y Weithdrefn Gwyno)

Eich hawliau o dan ddeddfwriaeth Diogelu Data

Mae'r ddeddfwriaeth Diogelu Data yn rhoi nifer o hawliau i destun y data (y rheini y mae'r wybodaeth yn sôn amdanyn nhw):

  • Yr hawl i'r testun gael mynediad. Mae ffurflenni cais ar gyfer y broses hon ar gael ar ein gwefan: Ffurflen Cais am Fynediad at Ddata gan y Testun (SAR)
  • Yr hawl i gael gwybod
  • Yr hawl i gywiro
  • Yr hawl i ddileu
  • Yr hawl i gyfyngu ar brosesu
  • Yr hawl i wrthwynebu
  • Yr hawl i gludadwyedd data
  • Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.

Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar gael ar y wefan hon: www.ico.org.uk.

Er mwyn arfer eich hawliau, cysylltwch â'r maes gwasanaeth sydd wedi'i nodi ar frig y ffurflen hon.

Y Weithdrefn Gwyno

Os ydych chi'n anfodlon ar y ffordd y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ymdrin â'ch cais/gwybodaeth chi, mae gennych chi'r hawl i gwyno. Cysylltwch â'r maes gwasanaeth sydd wedi'i nodi ar frig y ddogfen hon gan amlinellu eich materion chi.

Os byddwch chi'n parhau'n anfodlon, mae gennych chi hefyd yr hawl i gwyno wrth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Am ragor o wybodaeth am y broses gwyno, dilynwch y ddolen hon: www.caerffili.gov.uk/My-Council/Data-protection-and-freedom-of-information/Questions-and-complaints?lang=cy-gb