Atodlen Taliadau Cydnabyddiaeth Yr Aelodau 2024/2025

Gwneir y Cynllun hwn o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 o ran Rheoliadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol sy'n berthnasol i daliadau a wneir i aelodau ac aelodau cyfetholedig awdurdodau lleol.

Cyflog Sylfaenol

Rhaid talu Cyflog Sylfaenol i bob Aelod etholedig o'r Awdurdod. 

Yn unol â'r Rheoliadau, rhaid adolygu cyfradd y Cyflog Sylfaenol yn flynyddol fel y'i pennir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Pan fydd tymor swydd Aelod yn dechrau neu'n dod i ben heblaw ar ddechrau neu ddiwedd blwyddyn, bydd ei hawl i'r Cyflog Sylfaenol yn pro-rata.

Ni fydd mwy nag un Cyflog Sylfaenol yn daladwy i Aelod o'r Awdurdod.

Uwch Gyflogau a Chyflogau Dinesig

Bydd Aelodau sy'n llenwi swyddi penodol yn cael Uwch Gyflog fel y nodir yn Atodlen 1.

Yn unol â'r Rheoliadau, rhaid adolygu cyfraddau Uwch Gyflogau a Chyflogau Dinesig yn flynyddol fel y'i pennir gan Adroddiad Blynyddol neu Atodol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Dim ond un Uwch Gyflog neu Gyflog Dinesig sy'n daladwy i Aelod o'r Awdurdod.

Ni ellir talu Uwch Gyflog a Chyflog Dinesig i Aelod o'r Awdurdod.

Telir yr holl Uwch Gyflogau a Chyflogau Dinesig yn cynnwys Cyflog Sylfaenol.

Ni chaiff Uwch Gyflog ei dalu i fwy na nifer yr aelodau a bennir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn ei Adroddiad Blynyddol ac na all fod yn fwy na 50 y cant o gyfanswm aelodaeth yr awdurdod, ac eithrio i gynnwys deiliad swydd Uwch Gyflog dros dro i lenwi bwlch dros dro oherwydd absenoldeb teuluol y deiliad swydd penodedig.

Ni all Aelod o'r Awdurdod sy'n derbyn Uwch Gyflog Band 1 (Arweinydd/Dirprwy Arweinydd) neu Fand 2 (Aelod Cabinet) dderbyn cyflog gan unrhyw Awdurdod Parc Cenedlaethol nac Awdurdod Tân ac Achub y cafodd ei benodi iddo. Bydd yn parhau i fod yn gymwys i hawlio costau teithio a chynhaliaeth a chyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol gan yr Awdurdod Parc Cenedlaethol neu Awdurdod Tân ac Achub.

Pan fydd tymor Uwch Gyflog neu Gyflog Dinesig Aelod yn dechrau neu'n dod i ben heblaw ar ddechrau neu ddiwedd blwyddyn, bydd ei hawl i'r Cyflog yn pro-rata.

Dewis ymwrthod â'r hawl i lwfans

Gall Aelod, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i Swyddog Priodol yr awdurdod, ddewis yn bersonol i ymwrthod ag unrhyw ran o'i hawl i unrhyw gyflog, lwfans neu ffi sy'n daladwy o dan y Cynllun hwn o'r dyddiad a nodir yn yr hysbysiad.

Atal Aelod dros dro

Pan fo Aelod o'r Awdurdod yn cael ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol o'i gyfrifoldebau neu ddyletswyddau fel Aelod o'r Awdurdod yn unol â Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (Ymddygiad Aelodau), neu reoliadau a wneir o dan y Ddeddf, mae'r rhan o'r Cyflog Sylfaenol sy'n daladwy iddo dros y cyfnod y caiff ei atal dros dro yn cael ei dynnu gan yr Awdurdod (Adran 155 (1) o'r Mesur).

Pan fo Aelod sy'n derbyn Uwch Gyflog yn cael ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol rhag bod yn Aelod o'r Awdurdod yn unol â Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (Ymddygiad Aelodau), neu reoliadau a wneir o dan y Ddeddf, rhaid i'r Awdurdod beidio â gwneud taliadau Uwch Gyflog yr Aelod am gyfnod yr ataliad dros dro (Adran 155 (1) o'r Mesur). Os yw'r ataliad dros dro rhannol yn ymwneud ag elfen gyfrifoldebau'r cyflog yn benodol, gall yr Aelod gadw'r Cyflog Sylfaenol.

Ad-dalu cyflogau, lwfansau neu ffioedd

Pan fo unrhyw gyflog, lwfans neu ffi wedi'i dalu i Aelod o'r Awdurdod neu Aelod Cyfetholedig o fewn unrhyw gyfnod y mae'r Aelod dan sylw:

(a) wedi'i atal dros dro neu wedi'i atal dros dro yn rhannol o ddyletswyddau neu gyfrifoldebau'r Aelod/Aelod Cyfetholedig hwnnw yn unol â Rhan 3 o Ddeddf 2000 neu reoliadau dan y Ddeddf honno;

(b) yn peidio â bod yn Aelod neu Aelod Cyfetholedig o'r Awdurdod; neu

(c) heb yr hawl i dderbyn cyflog, lwfans neu ffi yn y cyfnod hwnnw mewn unrhyw ffordd arall, bydd yr Awdurdod yn mynnu bod y rhan o'r lwfans sy'n ymwneud â'r cyfnod hwnnw yn cael ei ad-dalu.

Taliadau

Bydd pob lwfans yn cael ei dalu gan Reolwr y Gyflogres drwy randaliadau cyfwerth ag un rhan o ddeuddeg o hawliau blynyddol yr Aelod ar 15fed diwrnod pob mis.

Pan fydd y taliad wedi arwain at Aelod yn derbyn mwy na'i hawl i gyflogau, lwfansau neu ffioedd, bydd yr Awdurdod yn mynnu bod y rhan honno sy'n ordaliad yn cael ei ad-dalu.

Mae pob taliad yn ddarostynedig i'r didyniadau treth ac Yswiriant Cenedlaethol priodol.

Cyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol

Bydd cyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol yn cael ei dalu i Aelod neu Aelod Cyfetholedig, sydd â chyfrifoldeb gofalu am blant neu oedolion dibynnol, neu ofynion gofal personol, ar yr amod bod yr Aelod yn mynd i gostau oherwydd darparu'r gofal wrth ymgymryd â dyletswyddau ‘cymeradwy’ y Cyngor.

Mae dyletswyddau “cymeradwy” y Cyngor mewn perthynas â thaliadau a wneir o dan y paragraff hwn yn cynnwys y rhai a nodir yn Atodlen 2, a gall hefyd gynnwys:

a) cyfarfod sy'n angenrheidiol i waith yr Aelod mewn perthynas â chyfrifoldebau etholaeth neu ward sy'n codi o gyflawni swyddogaethau'r Cyngor; ac

b) amser teithio a pharatoi sy'n codi o gyfarfodydd a gynhelir mewn perthynas ag (a) uchod ac/neu a amlinellir yn Atodlen 2.

Mae cyfraniad tuag at Gostau Gofal a Chymorth Personol yn berthnasol mewn perthynas â dibynnydd o dan 16 oed, neu blentyn dan oed neu oedolyn sydd fel arfer yn byw gyda'r Aelod fel rhan o'i deulu ac na ellir ei adael heb oruchwyliaeth y gall yr Aelod neu'r Aelod Cyfetholedig ddangos bod angen gofal ar ei gyfer. Os oes gan Aelod neu Aelod Cyfetholedig fwy nag un dibynnydd, gall yr Aelod hawlio mwy nag un lwfans, ar yr amod y gall yr Aelod ddangos bod angen gwneud trefniadau gofal ar wahân.

Caiff Aelodau cymwys hawlio cyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol ar gyfer costau gwirioneddol ac wedi'u talu, fel y nodir yn Atodlen 1. Dylid gwneud pob cais am gyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol yn ysgrifenedig i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, gan nodi amseroedd, dyddiadau a'r rhesymau dros hawlio. Mae angen derbynebau ar gyfer trefniadau gofal ffurfiol ac anffurfiol.

Absenoldeb Teuluol

Mae gan Aelodau'r hawl, dan ddarpariaethau Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2013, i gael cyfnod o absenoldeb teuluol ac, yn ystod hynny, os ydyn nhw'n bodloni'r amodau rhagnodedig, mae ganddyn nhw'r hawl i fod yn absennol o gyfarfodydd yr awdurdod.

Wrth gymryd absenoldebau teuluol, mae gan Aelodau'r hawl i gadw cyflog sylfaenol yn annibynnol ar eu cofnod presenoldeb yn syth cyn dechrau'r absenoldeb teuluol.

Os bydd deiliad uwch gyflog yn gymwys i gael absenoldeb teuluol, bydd yn gallu parhau i dderbyn yr uwch gyflog yn ystod cyfnod yr absenoldeb.

Os yw'r awdurdod yn cytuno ei bod yn angenrheidiol i benodi dirprwy i ymdrin ag absenoldeb teuluol deiliad uwch gyflog, bydd yr Aelod sy'n dirprwyo yn gymwys os yw'r awdurdod felly'n penderfynu talu uwch gyflog.

Os yw'r dirprwyad am dâl yn arwain at yr awdurdod yn mynd y tu hwnt i'w uchafswm o uwch gyflogau, caniateir ychwanegu at yr uchafswm yn ystod y dirprwyad.

Taliadau Aelodau Cyfetholedig

Bydd ffioedd dyddiol Aelodau Cyfetholedig (gyda darpariaeth am daliadau hanner diwrnod) yn cael eu talu i Aelodau Cyfetholedig, os ydyn nhw'n Aelodau Cyfetholedig statudol â hawliau pleidleisio.

Bydd taliadau Aelodau Cyfetholedig yn cael eu capio ar uchafswm cyfwerth â 12 diwrnod llawn y flwyddyn i bob pwyllgor y mae'r unigolyn yn cael ei gyfethol iddo.

Bydd taliadau'n rhoi sylw i amser teithio i leoliad y cyfarfod ac yn ôl, amser rhesymol ar gyfer paratoi cyn y cyfarfod a hyd y cyfarfod (hyd at uchafswm y gyfradd ddyddiol).

Dynodir y canlynol fel “swyddog priodol” a byddan nhw'n pennu amser paratoi, amser teithio a hyd y cyfarfod, telir y ffi ar sail y penderfyniad hwn.

  • Y Swyddog Monitro o ran aelodau Cyfetholedig sy'n gwasanaethu ar y Pwyllgor Safonau.
  • Y Rheolwr Archwilio Mewnol o ran aelodau Cyfetholedig sy'n gwasanaethu ar y Pwyllgor Archwilio.
  • Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd o ran aelodau Cyfetholedig sy'n gwasanaethu ar y Pwyllgor Craffu Addysg.

Gall y swyddogion priodol bennu ymlaen llaw a yw cyfarfod wedi'i raglennu am ddiwrnod llawn a bydd y ffi yn cael ei thalu ar sail y penderfyniad hwn hyd yn oed os bydd y cyfarfod yn gorffen cyn i bedair awr fynd heibio.

Diffinnir cyfarfod hanner diwrnod fel hyd at 4 awr.

Diffinnir cyfarfod diwrnod llawn fel dros 4 awr.

Mae'r ffi ddyddiol a hanner diwrnod i Gadeiryddion y Pwyllgor Safonau a'r Pwyllgor Archwilio, fel y penderfynir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, wedi'i nodi yn Atodlen 1.

Mae'r ffi ddyddiol a hanner diwrnod i Aelodau Cyfetholedig statudol â hawliau pleidleisio eraill, fel y penderfynir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, wedi'i nodi yn Atodlen 1.

Lwfansau Teithio a Chynhaliaeth

Egwyddorion Cyffredinol

Mae gan Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig yr hawl i hawlio costau teithio wrth deithio ar fusnes yr Awdurdod am ‘ddyletswyddau cymeradwy’, fel y nodir yn Atodlen 2. Pan fydd Aelodau'n teithio ar fusnes yr Awdurdod, disgwylir iddyn nhw deithio yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol. Wrth asesu effeithiolrwydd y gost, bydd amser y daith yn cael ei ystyried. Caiff hawliad gan Aelod nad yw'n teithio yn y modd fwyaf cost-effeithiol ei ostwng gan y swm priodol.

Lle bo'n bosibl, dylai Aelodau rannu trafnidiaeth.

Dylai'r pellter a hawlir mewn milltiroedd fod y siwrnai resymol fyrraf ar hyd y ffyrdd o'r man ymadael i'r man lle mae'r ddyletswydd yn cael ei chyflawni ac, yn yr un modd, o fan cyflawni'r ddyletswydd i'r man dychwelyd.

Mae cyfraddau Lwfansau Teithio a Chynhaliaeth yr Aelodau wedi'u nodi yn Atodlen 3 ac maen nhw'n destun adolygiad blynyddol gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Pan fo Aelod wedi'i atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol o'i gyfrifoldebau neu ddyletswyddau fel Aelod o'r Awdurdod yn unol â Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (Ymddygiad Aelodau), neu reoliadau a wneir o dan y Ddeddf, rhaid i unrhyw lwfansau teithio a chynhaliaeth sy'n daladwy iddo yn y cyfnod y mae wedi'i atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol gael eu cadw gan yr Awdurdod.

Teithio mewn Cerbyd Preifat

Mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi penderfynu y dylai uchafswm y cyfraddau teithio sy'n daladwy fod y rhai sydd wedi'u pennu gan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi am ddefnydd preifat o geir, beiciau modur a beiciau pedal ac unrhyw dâl atodol o ran teithwyr.

Mae'r cyfraddau y filltir yn achos cerbydau preifat a benderfynir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi'u nodi yn Atodlen 3.

Pan fo Aelod yn defnyddio'i gerbyd preifat at ddiben dyletswyddau cymeradwy, rhaid i'r cerbyd gael ei yswirio am ddefnydd busnes. Rhaid darparu tystiolaeth o'r yswiriant i'r Awdurdod ar gais.

Teithio ar Drafnidiaeth Gyhoeddus

Teithio ar Drên/Coets

Oni bai eu bod nhw wedi cael eu hawdurdodi fel arall, bydd tocynnau trên yn yr ail ddosbarth.

Bydd Gwasanaethau Democrataidd yn prynu tocynnau trên a choets angenrheidiol ar ran Aelodau cyn y daith. Mewn amgylchiadau annhebygol pan fo angen i Aelod brynu tocyn yn uniongyrchol, bydd y taliad yn cael ei ad-dalu ar ôl cyflwyno'r tocyn wedi'i ddefnyddio a/neu dderbynneb.

Costau Tacsi

Dim ond pan fo'r defnydd o dacsi wedi'i awdurdodi ar gyfer argyfwng, pan nad yw trafnidiaeth gyhoeddus ar gael yn rhesymol, neu os oes gan Aelod angen personol penodol y bydd costau tacsi yn cael eu had-dalu. Dim ond wrth dderbyn derbynneb y bydd yr arian yn cael ei ad-dalu.

Costau Awyr (opsiynol)

Mae teithio mewn awyren yn ganiataol os dyna'r ffordd fwyaf cost-effeithiol o deithio. Bydd angen cael caniatâd y Prif Weithredwr a bydd Gwasanaethau Democrataidd yn prynu'r tocynnau.

Teithio Tramor

Dim ond â chaniatâd y Prif Weithredwr y bydd teithio tramor ar fusnes yr Awdurdod yn cael ei ganiatáu. Bydd Gwasanaethau Democrataidd yn trefnu trafnidiaeth a llety.

Costau Teithio Eraill

Mae gan Aelodau'r hawl i gael ad-daliad o ran ffioedd tollau, parcio, cadw car mewn garej dros nos a chostau angenrheidiol eraill sy'n ymwneud â'r daith. Dim ond wrth dderbyn derbynneb y bydd yr arian yn cael ei ad-dalu.

Llety dros nos

Dim ond pan fo busnes yr Awdurdod yn ymestyn dros ddau ddiwrnod neu fwy, neu os yw'r lleoliad mor bell i ffwrdd nad yw teithio'n gynnar yn y bore neu'n hwyr yn y nos yn rhesymol y bydd aros dros nos yn cael ei ganiatáu. Rhaid i bob arhosiad dros nos gael ei awdurdodi ymlaen llaw gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd.

Gwasanaethau Democrataidd fydd yn trefnu llety dros nos. Lle bo'n bosibl, bydd llety dros nos yn cael ei dalu ymlaen llaw neu drwy anfoneb.

Dim ond mewn argyfwng y bydd Aelod yn cael archebu llety dros nos yn uniongyrchol. Dim ond wrth ddangos derbynneb, ac ar lefel a ystyrir yn rhesymol ac nid yn uwch na'r cyfraddau a nodir yn Atodlen 3, y bydd arian yn cael ei ad-dalu.

Lwfans Cynhaliaeth

Nodir y gyfradd gynhaliaeth ddyddiol i dalu costau prydau bwyd a lluniaeth mewn cysylltiad â dyletswyddau cymeradwy (gan gynnwys brecwast pan nad yw'n cael ei ddarparu fel rhan o lety dros nos) yn Atodlen 3. Mae uchafswm y gyfradd ddyddiol yn cynnwys cyfnod o 24 awr a gellir ei hawlio am unrhyw brydau bwyd sy'n berthnasol, ar yr amod bod hawliad o'r fath yn cael ei ategu gan dderbynebau.

Ni wneir darpariaeth ar gyfer hawliadau cynhaliaeth o fewn y Fwrdeistref Sirol.

Hawliadau a Thaliadau

Rhaid gwneud cais am lwfansau teithio a chynhaliaeth yn ysgrifenedig o fewn dau fis o ddiwedd y mis calendr y mae'r hawl i gael lwfansau yn codi ynddo a rhaid cynnwys y derbynebau perthnasol.

Bydd lwfansau'n cael eu talu gan Reolwr y Gyflogres drwy gredyd banc uniongyrchol.

Pensiynau

Bydd yr Awdurdod yn galluogi ei Aelodau sy'n gymwys i ymuno â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

Cefnogi gwaith Aelodau'r Awdurdod

Mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn disgwyl i Aelodau gael eu darparu â chymorth digonol i gyflawni eu dyletswyddau a dylai'r cymorth ystyried anghenion penodol yr Aelodau unigol. Gofynnir i Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yr Awdurdod adolygu lefel y cymorth sy'n cael ei ddarparu i Aelodau a dylid mynd â cheisiadau am gymorth rhesymol i'r cyngor llawn.

Dylai cyfleusterau priodol o ran ffôn, e-bost a'r we i roi mynediad electronig at wybodaeth briodol gael eu darparu i bob Aelod Etholedig ac Aelod Cyfetholedig.

Dylai cymorth o'r fath fod heb unrhyw gost i unrhyw Aelod. Ni ddylid gwneud didyniadau o gyflogau Aelodau fel cyfraniad tuag at gost y cymorth y mae'r Awdurdod wedi'i benderfynu yn angenrheidiol er mwyn effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd yr Aelodau.

Cydymffurfiaeth

Yn unol â'r Rheoliadau, rhaid i'r Awdurdod gydymffurfio â gofynion Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn perthynas â monitro a chyhoeddi taliadau a wneir i'r Aelodau a'r Aelodau Cyfetholedig fel y nodir yn Atodlen 4.

Atgoffir Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig fod hawliadau am gostau yn ddarostyngedig i archwiliad mewnol ac allanol.

ATODLEN 1

ATODLEN TALIADAU CYDNABYDDIAETH 2021-2022

AELODAU Â'R HAWL I GAEL CYFLOG SYLFAENOL Y CYFLOG

SWM BLYNYDDOL SYLFAENOL

Aelodau etholedig canlynol yr Awdurdod

 

MICHAEL ADAMS (o 10 Mai 2024)

£18,666

ELIZABETH ALDWORTH (tan 9 Mai 2024)

 £18,666

ALAN ANGEL

£18,666

CHARLOTTE BISHOP

£18,666

ANNE BROUGHTON-PETTIT

£18,666

MARINA CHACON-DAWSON

£18,666

ROBERT CHAPMAN

£18,666

PAT COOK

£18,666

DONNA CUSHING

£18,666

CARL CUSS

£18,666

ELIZABETH DAVIES

£18,666

TUDOR DAVIES

£18,666

NIGEL DIX

£18,666

GREG EAD,

£18,666

COLIN ELSBURY

£18,666

GARY ENRIGHT

£18,666

KEVIN ETHERIDGE

£18,666

MARK EVANS

£18,666

ANDREW FARINA-CHILDS

£18,666

CHRISTINE FOREHEAD

£18,666

JAMES FUSSELL

£18,666

ANN GAIR

£18,666

COLIN GORDON (tan 9 Mai 2024)

£18,666

DAVID HARSE

£18,666

TERESA HERON,

£18,666

ADRIAN HUSSEY

£18,666

DAWN INGRAM-JONES (tan 9 Mai 2024)

£18,666

MARTYN JAMES

£18,666

LEEROY JEREMIAH

£18,666

JAN JONES

£18,666

STEVE KENT

£18,666

ARIANNA LEONARD

£18,666

COLIN MANN

£18,666

AMANDA MCCONNELL

£18,666

BRENDA MILES

£18,666

BOB OWEN

£18,666

LISA PHIPPS

£18,666

MANSEL POWELL

£18,666

DENVER PREECE

£18,666

HAYDN PRITCHARD

£18,666

JUDITH PRITCHARD

£18,666

JOSIE RAO

£18,666

JANINE REED

£18,666

JOHN ROBERTS

£18,666

JON SCRIVEN

£18,666

STEVEN SKIVENS

£18,666

JOHN TAYLOR

£18,666

CARL THOMAS

£18,666

SHANE WILLIAMS (tan 9 Mai 2024)

£18,666

WALTER WILLIAMS (o 10 Mai 2024)

£18,666

JILL WINSLADE

£18,666

KRISTIAN WOODLAND

£18,666

CERI WRIGHT

£18,666

HAWL I GAEL USCH GYFLOG
(GAN GYNNWYS CYFLOG SYLFAENOL)

 

SWM
BLYNYDDOL
YR UWCH
GYFLOR

RÔL

AELOD

 

Arweinydd y Cyngor

Sean Morgan

£62,998

Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd

James Pritchard

£44,099

Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau

Carol Andrews

£37,799

Aelod Cabinet dros Dai

Shayne Cook

£37,799

Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol

Elaine Forehead

£37,799

Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol ac Eiddo

Nigel George

£37,799

Aelod Cabinet dros Gynllunio a Diogelu'r Cyhoedd

Philippa Leonard

£37,799

Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd

Chris Morgan

£37,799

Aelod Cabinet dros Gyllid a Pherfformiad

Eluned Stenner

£37,799

Arweinydd y Grŵp Gwrthblaid Mwyaf

Lindsay Whittle

£27,999

Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol

Teresa Parry

£27,999

Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Corfforaethol ac Adfywio

Gary Johnston
 

£27,999

Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Tai a’r Amgylchedd

Andrew Whitcombe

£27,999

Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio

Roy Saralis

£27,999

Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu o  9 Mai 2024

Shane Williams

£27,999

Aelod Llywyddol o 9 Mai 2024

Colin Gordon

£27,999

Dirprwy Aelod Llywyddol o 9 Mai 2024

Elizabeth Aldworth

£18,666 (dim taliad uwch gyflog)

Gellir talu uchafswm o (18) o uwch gyflogau i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ac niddaet y tu hwnt i hyn.

HAWL I GYFLOG DINESIG

 

SWM BLYNYDDOL Y CYFLOG

RÔL

AELOD

DINESIG

Maer (o 9 Mai 2024)

Julian Simmonds

£27,999

Dirprwy Faer (o 9 Mai 2024)

Dawn Ingram-Jones

£18,666 (dim taliad cyflog dinesig)

HAWL FEL AEFLODAU CYFETHOLEDIG STATUDOL
 
RÔL

 
 
 
AELOD

 

 
Cadeirydd y Pwyllgor Safonau

 
Mr P. Brunt

 
£268 - ffi dyddiol
£134½ – ffi hanner
diwrnod
Cyfradd yr awr - £33.50

 
Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

 
Mr M. Rees

 
£210 – diwrnod
llawn neu £105
am hanner
diwrnod (hyd at 4
awr)
Cyfradd yr awr £33.50

 
Cynrychiolydd Rhiant-lywodraethwr, Pwyllgor Craffu Addysg

 
Mrs T. Millington

 
£210 – ffi dyddiol
Craffu Addysg
£105 – ffi hanner
diwrnod
Cyfradd yr awr £26.25

 
Cynrychiolydd Rhiant-lywodraethwr, Pwyllgor
Craffu Addysg

 
Gwag

 
£210 – ffi dyddiol
£105 – ffi hanner
diwrnod
Cyfradd yr awr
£26.25

 
Cynrychiolydd Eglwys, Pwyllgor Craffu
Addysg

 
Mr M. Western

 
£210 – ffi dyddiol
£105 – ffi hanner
diwrnod
Cyfradd yr awr £26.25

 
Aelod Cyfetholedig, Pwllgor Safonau (Cyngor Tref a Chymuned)

 
Y Cynghorydd Cymuned Ann Gray

 
£210 – diwrnod llawn neu £105 am hanner diwrnod (hyd at 4 awr)
Cyfradd yr awr £26.25

 
Aelod Cyfetholedig, Pwyllgor Safonau

 
Mr J. Card

£210 – diwrnod llawn neu £105 am hanner diwrnod (hyd at 4 awr)
Cyfradd yr awr £26.25

 
Aelod Cyfetholedig, Pwyllgor Safonau

 
V. Yadh

£210 – diwrnod llawn neu £105 am hanner diwrnod (hyd at 4 awr)
Cyfradd yr awr £26.25

 
Aelod Cyfetholedig, Pwyllgor Safonau

 
Mrs L. Davies

 
£210 – diwrnod llawn neu £105 am hanner diwrnod (hyd at 4 awr)
Cyfradd yr awr £26.25

 
Aelod Cyfetholedig, Pwyllgor Safonau

 
L.Jay

 
£210 – diwrnod llawn neu £105 am hanner diwrnod (hyd at 4 awr)
Cyfradd yr awr £26.25

 
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Aelodau Cyfetholedig

 
N. Yates

 
£210 – diwrnod llawn neu £105 am hanner diwrnod (hyd at 4 awr)
Cyfradd yr awr £26.25

 
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Aelodau Cyfetholedig

 
V. Pearson

 
£210 – diwrnod llawn neu £105 am hanner diwrnod (hyd at 4 awr)
Cyfradd yr awr £26.25

 
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Aelodau Cyfetholedig

 
J. Williams

 
£210 – diwrnod llawn neu £105 am hanner diwrnod (hyd at 4 awr)
Cyfradd yr awr £26.25

Cyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol

Pob Aelod

  • Costau gofal ffurfiol (wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru) i'w talu fel y'u gwelir.
  • Costau gofal anffurfiol (heb ei gofrestru) i'w talu hyd at gyfradd uchaf sydd cyfwerth â Chyflog Byw Gwirioneddol y Deyrnas Unedig ar adeg mynd i gostau.

ATODLEN 2

Dyletswyddau cymeradwy:

  • mynychu cyfarfod o'r Awdurdod neu unrhyw bwyllgor yr Awdurdod neu unrhyw gorff y mae'r Awdurdod yn gwneud penodiadau neu enwebiadau iddo, neu unrhyw bwyllgor o gorff tebyg;
  • mynychu cyfarfod o unrhyw gymdeithas o awdurdodau y mae'r Awdurdod yn aelod ohoni;
  • mynychu unrhyw gyfarfod arall a awdurdodir gan yr Awdurdod neu gan bwyllgor o'r Awdurdod neu gan gydbwyllgor o'r Awdurdod ac un neu ragor o Awdurdodau eraill;
  • dyletswydd a gyflawnir at ddibenion neu mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau'r Cabinet;
  • dyletswydd a gyflawnir yn unol â rheol sefydlog sy'n ei gwneud yn ofynnol i Aelod neu Aelodau fod yn bresennol pan agorir dogfennau tendro;
  • dyletswydd a gyflawnir mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw swyddogaeth o'r Awdurdod sy'n rhoi grym i'r Awdurdod archwilio neu awdurdodi archwiliad o fangre, neu sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny;
  • mynychu unrhyw hyfforddiant neu ddigwyddiad datblygiadol sydd wedi'i gymeradwyo gan yr Awdurdod neu ei Gabinet;
  • y dyletswyddau canlynol sydd wedi'u cymeradwyo gan y Cyngor:

NODER: Mae'r Cyngor wedi penderfynu peidio â chaniatáu ceisiadau am deithio o fewn Wardiau'r Aelodau [ac eithrio fel y nodir ym mharagraff 7].

ATODLEN 3

Cyfraddau milltiroedd

Pob maint cerbyd modur preifat

  • Hyd at 10,000 o filltiroedd - 45 ceiniog y filltir
  • Dros 10,000 o filltiroedd - 25 ceiniog y filltir
  • Beiciau modur preifat - Beiciau modur preifat
  • Beiciau pedalau - 20 ceiniog y filltir
  • Gyda theithiwr - 05 ceiniog y filltir

Lwfans Cynhaliaeth

Mae'r gyfradd gynhaliaeth ddyddiol hyd at uchafswm o £28 ac mae'n cynnwys cyfnod o 24 awr a gellir ei hawlio am unrhyw brydau bwyd os yw'n berthnasol, ar yr amod bod hawliad o'r fath yn cael ei ategu gan dderbynebau.

Ni chaniateir ad-dalu costau diodydd alcoholaidd.

Aros dros nos

Uchafswm y lwfansau am aros dros nos yw £200 yn Llundain a £95 yn rhywle arall. Mae uchafswm o £30 ar gael i aros dros nos gyda ffrindiau neu berthnasau tra ar ddyletswydd gymeradwy.

ATODLEN 4

Cydymffurfiaeth

  • Bydd yr Awdurdod yn trefnu cyhoeddi'r cyfanswm a dalwyd i bob Aelod ac Aelod Cyfetholedig ar wefan y Cyngor, ynghylch cyflog, lwfansau, ffioedd ac ad-daliadau erbyn 30 Medi yn dilyn diwedd y flwyddyn y mae'n cyfeirio ati. Er budd tryloywder, bydd hyn yn cynnwys taliadau cydnabyddiaeth gan yr holl apwyntiadau gwasanaethau cyhoeddus a gynhelir gan Aelodau etholedig.
  • Bydd yr Awdurdod yn cyhoeddi datganiad o gyfrifoldebau sylfaenol cynghorydd a swydd ddisgrifiadau deiliaid swyddi uwch gyflogau ar wefan y Cyngor, sy'n cydnabod y dyletswyddau disgwyliedig yn glir.
  • Bydd yr Awdurdod yn cyhoeddi atodlen flynyddol o ran Taliadau Cydnabyddiaeth Aelodau erbyn 31 Gorffennaf yn y flwyddyn y mae'r atodlen yn cyfeirio ati ar wefan y Cyngor.
  • Bydd yr Awdurdod yn anfon copi o'r atodlen at Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol erbyn 31 Gorffennaf yn y flwyddyn y mae'r atodlen yn cyfeirio ati.
  • Bydd yr Awdurdod yn cadw cofnodion o bresenoldeb Aelodau/Aelodau Cyfetholedig mewn cyfarfodydd y cyngor, cabinet a phwyllgorau a dyletswyddau eraill cymeradwy y mae Aelod/Aelod Cyfetholedig yn cyflwyno cais am ad-daliad amdanyn nhw.
  • Bydd yr Awdurdod yn trefnu i adroddiadau blynyddol wedi'u paratoi gan Aelodau gael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor.
  • Pan fydd yr Awdurdod yn cytuno i dalu dirprwy oherwydd absenoldeb teuluol, bydd yr Awdurdod yn hysbysu Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, o fewn 14 diwrnod i ddyddiad y penderfyniad, am y manylion gan gynnwys y swydd dan sylw a chyfnod y dirprwyad.