Cofnodion 3 Mai 2024

Fforwm lluoedd arfog caerffili (caff) 

  • 3 Mai 2024
  • 12 - 2pm – Microsoft Teams

Presennol

  • Kathryn Peters (Cadeirydd) - Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (CBSC)
  • Y Cynghorydd Teresa Heron - Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, CBSC
  • Heather Delonnette - Uwch Swyddog Polisi CBSC
  • Lara Evans - Swyddog Polisi CBSC
  • Mark Hodgkinson - Woodys Lodge
  • Julianne Williams - Elusen Cyflogaeth y Lluoedd Arfog
  • Lorraine Lees - Y Weinyddiaeth Amddiffyn
  • Sarah Ferguson - Alabaré
  • Shelly Jones - Cefnogi Pobl CBSC
  • Adrian Leslie - Y Lleng Brydeinig
  • Capten Stephen Smith - Y Weinyddiaeth Amddiffyn
  • Rob Salmon - ReAct
  • Daniel Madge - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ABUHB)
  • Jinty Morgan - Hire a Hero
  • Simon Frith - Alabaré
  • Peter Kellam - Llywodraeth Cymru
  • Paul Roberts - The Poppy Factory
  • Nicola Sharlot - Cornerstone
  • Andrew Clarke - Cornerstone
  • Melanie Archibald - Addysg CBSC
  • Tom Hall - Blesma
  1. Croeso a chyflwyniadau

  2. Cofnodion a materion yn codi o 10.05.2023 – Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol yn gywir.

  3. Yr wybodaeth ddiweddaraf am swydd Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog Gwent

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cynnal y swydd hon ers 7 mlynedd. Mae trafodaeth wedi bod ar draws y pum awdurdod lleol, a phenderfynwyd mai Sir Fynwy fydd yn cynnal y swydd yn y dyfodol. Mae gan Sir Fynwy y barics newydd yn dod i’w hardal yn 2027, felly, ystyriwyd ei fod yn briodol iddyn nhw reoli’r rôl.

  1. Diweddariad gan Lywodraeth Cymru/Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)

  • Eglurodd KP nad oedd unrhyw ddiweddariad ar hyn o bryd gan CLlLC, ond rydyn ni'n aros am yr hysbysiad ariannu ar gyfer y swydd Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog.
  • Diweddarodd PK fod ôl-adolygiad Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog ar y gweill. Cafwyd llawer o ymatebion hyd yn hyn a chroesewir rhagor. Bydd yr adroddiad yn cael ei rannu unwaith y bydd wedi'i gwblhau.
  • Ar hyn o bryd, mae PK yn gweithio gyda’r Swyddfa Materion Cyn-filwyr ar Fil Cyn-filwyr posibl ac yn ceisio nodi meysydd datganoledig o hynny. Maen nhw hefyd yn gweithio ar Strategaeth Menywod sy'n Gyn-filwyr.
  • Mae PK mewn trafodaethau gyda Reed Recruitment ynghylch y contract Partneriaeth Pontio Gyrfa nesaf ac mae gweithdy pontio gyrfaoedd yng Nghaerffili ym mis Gorffennaf. Yr her nawr yw cynnal y niferoedd sy'n mynychu.
  1. Cynllun Cydnabod Cyflogwyr – Adnewyddu Aur

Ar hyn o bryd, mae CBSC yn adnewyddu ein gwobr aur ac mae gennym ni gymorth gan Craig Middle (Cyfarwyddwr Ymgysylltu â Chyflogaeth Rhanbarthol). Os oes unrhyw un am adnewyddu neu ailgyflwyno, mae Craig yn fwy na pharod i ddarparu cyngor a chymorth drwy wa-reed@rfca.mod.uk.

Mae CBSC hefyd yn y broses o wneud cais am Wobr Balchder mewn Cyn-filwyr.

  1. Digwyddiadau coffa i nodi 80 mlynedd ers D-Day, 6 Mehefin

Mae LE a JC wedi trefnu digwyddiad codi'r faner i nodi 80 mlynedd ers D-Day. Bydd llawr gwaelod Tŷ Penallta yn cael ei ddefnyddio a bydd y Tîm Cyfathrebu hefyd yn ymwneud â'r digwyddiad.

  1. Lleoliadau cyfarfodydd yn y dyfodol

KP – Trefnwyd y cyfarfodydd hyn yn flaenorol gan gyn Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog bob chwarter, neu weithiau bob chwe mis, a chynhaliwyd ychydig o gyfarfodydd wyneb yn wyneb ar ôl y pandemig. Trafodir amlder a lleoliad cyfarfodydd.

Y Cynghorydd Heron – chwe mis fyddai'r lleiafswm.

DM – Mae amlder cyfarfodydd a phresenoldeb ynddyn nhw wedi'u trafod wrth i gynrychiolydd o'r maes Iechyd geisio mynd i holl gyfarfodydd yr Awdurdod sy'n cymryd llawer o amser. Byddai'r syniad o gyd-drefnu cyfarfodydd yn ôl dyddiaduron yn ddefnyddiol.

KP – Cytunwyd y gall hyn fod yn dasg i’r Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog newydd, a fydd yn gweithio gyda’r pum awdurdod lleol ar raglen waith newydd. Teimlwyd mai cymysgedd o gyfarfodydd ar-lein ac wyneb yn wyneb (hybrid) oedd orau i sicrhau presenoldeb.

  1. Diweddariad gan bartneriaid

Julianne Williams (Elusen Cyflogaeth y Lluoedd Arfog) – Mae https://www.forcesemployment.org.uk/programmes/op-prosper/ yn cael ei lansio ar 23 Mai; os oes gennych chi unrhyw gwestiynau cysylltwch â JW.

Melanie Archibald (Addysg CBSC) – Mae uwch athrawes ymgynghorol CBSC yn cysylltu â’r holl ysgolion ynglŷn â helpu plant aelodau'r Lluoedd Arfog mewn addysg, hyrwyddo’r holiadur ynghylch adnabod y plant hyn a rhannu unrhyw gyllid sydd ar gael iddyn nhw.

Daniel Madge (ABUHB) – Wedi ailsefydlu ei fforwm, mae arweinydd Lluoedd Arfog y GIG wedi symud i swydd arall, felly, rydyn ni’n mynd drwy’r broses honno eto ar hyn o bryd.

Shelly Jones (Tai CBSC) – rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am nifer y cyn-filwyr a gynorthwyir ar draws yr amrywiaeth o brosiectau tai.

Lorraine Lees (MOD) — Gweithiwr achos rhanbarthol ar gyfer y Gwasanaeth Cymorth wrth Adael y Lluoedd Arfog sy’n cynorthwyo ymadawyr gwasanaeth o ddwy flynedd cyn iddyn nhw adael y Lluoedd Arfog hyd at ddwy flynedd wedi hynny. Hapus i gyflwyno mewn cyfarfod yn y dyfodol.

Mark Hodgkinson (Woodys Lodge) – cwrs 10 wythnos sy’n cael ei ddarparu gan Event Guard and Scheme; dyma’r ail gwrs y maen nhw wedi’i gynnal (unwaith yr wythnos am 10 wythnos). Os oes unrhyw un yn adnabod unrhyw gyn-filwyr sydd â diddordeb, rhannwch fanylion Mark. Hefyd yn falch o gyhoeddi eu bod nhw wedi dod yn berchennog ar eu safle yng ngorllewin Cymru yr wythnos diwethaf. Maen nhw'n gobeithio datblygu un o'r bythynnod ar y safle i fod yn llety brys i gyn-aelodau'r lluoedd arfog a'u teuluoedd os ydyn nhw ei angen.

Paul Roberts (The Poppy Factory) – Gwaith o fewn rhanbarth ABUHB gan gynnwys de Powys. Mae Paul yn gweithio'n ddwys am chwe mis gydag unrhyw gyn-aelodau’r lluoedd arfod sydd angen cymorth i gael gwaith. Mae angen iddyn nhw gael eu hatgyfeirio gan weithiwr proffesiynol gyda nod cytunedig.

Rob Salmon (ReAct) – Y sefydliad ymateb i drychinebau dyngarol, sydd â chyn-filwyr neu gyn-aelodau'r gwasanaethau golau glas yn bennaf yn gweithredu yn y Deyrnas Unedig a thramor. Maen nhw bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr newydd.

Simon Frith (Alabaré) – Rhoddwyd diweddariad ar y nifer sy’n cael eu cynorthwyo; maen llawn ar hyn o bryd ond maen nhw'n gobeithio cynyddu nifer y gwelyau.

Capten Stephen Smith (Y Weinyddiaeth Amddiffyn) – Mae gan bob person sy’n gadael y lluoedd arfog rywbeth o’r enw ‘pontio i’r lluoedd arfog wrth gefn’, felly, anogir pawb i fynd i uned wrth gefn yn yr ardal leol y maen nhw'n ymgartrefu ynddi.

Nicola Sharlot (Cornerstone) – Mae'r Cynghorydd Budd-daliadau Arbenigol gyda Cornerstone yn mynd i’r Hyb yng Nghaerffili ar fore Sadwrn, lle mae nifer fawr o fynychwyr ar gyfer yr ochr gymdeithasol ac i gwrdd â sefydliadau.

Manylion y cyfarfod nesaf: 10am–12pm, 10 Hydref 2024, Ystafell Ebwy, Tŷ Penallta.