Hysbysiad Statudol
Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013
HYSBYSIR DRWY HYN, yn unol ag adran 42 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013 a Chod Trefniadaeth Ysgolion 2018, fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ar ôl ymgynghori â'r unigolion hynny fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, yn cynnig gwneud y newidiadau rhagnodedig fel a ganlyn:
- Mae'r cynnig yn ceisio cau Ysgol Lewis i Ferched a gwneud newid rheoledig i Ysgol Lewis Pengam i newid o un rhyw i gyd-addysg o fis Medi 2025.
Cynhelir yr ysgolion gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Cynhaliodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyfnod o ymgynghori cyn penderfynu cyhoeddi'r cynnig hwn. Mae adroddiad ar yr ymgynghoriad, sy'n cynnwys crynodeb o'r materion a godwyd gan ymgyngoreion, ymatebion y cynigydd a'r ymateb llawn gan Estyn, ar gael yn: https://trafodaeth.caerphilly.gov.uk/ysgol-lewis-i-ferched-a-ysgol-lewis-penga
Y bwriad yw gweithredu'r cynnig gyda dyddiad dod i rym tua mis Medi 2025.
Ysgol Lewis i Ferched
- Ar hyn o bryd mae gan y safle le i 1103 o ddisgyblion
- Y rhif derbyn a gyhoeddir yw 180
- Ar hyn o bryd mae 38.35% o leoedd gwag
- Mae 83.86% o'r disgyblion presennol ar y gofrestr yn dod o fewn y dalgylch.
Ysgol Lewis Pengam
- Ar hyn o bryd mae gan y safle le ar gyfer 1140 o ddisgyblion
- Y rhif derbyn a gyhoeddwyd ar hyn o bryd yw 191
- Ar hyn o bryd mae 42.63% o leoedd gwag
- Mae 84.22% o'r disgyblion presennol ar y gofrestr yn dod o fewn y dalgylch.
Mae gan Ysgol Lewis Pengam gapasiti digonol ar gyfer holl ddisgyblion y dalgylch.
Pe bai’r cynnig yn cael ei weithredu, byddai safle Ysgol Lewis i Ferched yn cael ei gadw fel darpariaeth i Ysgol Lewis Pengam tan 2027 lle byddai’r holl ddisgyblion wedyn yn mynychu safle Ysgol Lewis, Pengam, i reoli’r pontio dros nifer o flynyddoedd.
Bwriad y dull graddol hwn yw lleihau aflonyddwch ac unrhyw effaith negyddol bosibl ar ddisgyblion sy’n sefyll arholiadau, wrth alluogi staff a disgyblion i fod yn barod i integreiddio dros amserlen briodol.
Ni fyddai’r dalgylchoedd presennol yn newid, fel sydd wedi'i amlinellu yn y Ddogfen Ymgynghori (tudalen 11)
Y pellter rhwng y ddwy ysgol yw tua 2.8 milltir. Mae polisi’r Cyngor ar gludiant ysgol yn darparu cludiant am ddim i ddisgyblion cymwys o oedran ysgol statudol i’r ysgol ‘berthnasol’. Bydd y rhai sy'n gymwys ar gyfer cludiant ysgol nad ydynt yn defnyddio'r gwasanaeth ar hyn o bryd yn cael cynnig y cyfle i wneud hynny.
Cyfnod gwrthwynebu
O fewn cyfnod o 28 diwrnod i ddyddiad cyhoeddi'r cynnig, hynny yw, rhwng
Dydd Iau 26 Medi 2024 a dydd Iau 24 Hydref 2024, caiff unrhyw berson wrthwynebu'r cynigion yn ysgrifenedig neu drwy e-bost i'r cynigydd.
Dylai gwrthwynebiadau trwy e-bost gael eu hanfon i: YsgolionYr21ainGanrif@caerffili.gov.uk
Dylai gwrthwynebiadau ysgrifenedig gael eu hanfon i: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Ar gyfer sylw Tîm Ysgolion yr 21ain Ganrif, Cyfadran Addysg a Gwasanaethau Corfforaethol, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach CF82 7PG
Bydd y Cyngor yn cyhoeddi crynodeb o unrhyw wrthwynebiadau a ddaw i law (a heb eu tynnu'n ôl yn ysgrifenedig) yn ystod y cyfnod gwrthwynebu – ynghyd â'i sylwadau ar bob un – pan fydd yn rhoi gwybod i'r rhanddeiliaid am y penderfyniad ar y cynnig.
- Richard Edmunds, Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Gwasanaethau Corfforaethol, Ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
- Dyddiad: 26 Medi 2024
Nodyn Esboniadol
(Nid yw hyn yn rhan o'r hysbysiad, ond diben hyn yw egluro'r ystyr gyffredinol)
- Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnig cau Ysgol Lewis i Ferched (CF82 7WW) a gwneud newid rheoledig i Ysgol Lewis Pengam (CF81 8LJ).
Bydd y cyfnod pontio disgyblion arfaethedig yn cael ei gyflwyno'n raddol fel a ganlyn:
Ym mis Medi 2025 byddai'r disgyblion yn mynychu lleoliadau fel a ganlyn
- Blwyddyn 7 - pob disgybl (Merched a Bechgyn) ar safle Ysgol Lewis i Ferched
- Blwyddyn 8 - pob disgybl (Merched a Bechgyn) ar safle Ysgol Lewis i Ferched
- Blwyddyn 9 - pob disgybl (Merched a Bechgyn) ar safle Ysgol Lewis Pengam
- Blwyddyn 10 - pob disgybl (Merched a Bechgyn) ar safle Ysgol Lewis Pengam
- Blwyddyn 11 – cadw’n ddarpariaeth un rhyw, disgyblion i aros naill ai yn Ysgol Lewis i Ferched neu Ysgol Lewis Pengam
- Blwyddyn 12 - Fel nawr, disgyblion i fynychu gwersi consortia Cwm Rhymni Uchaf lle cânt nhw eu cynnig
- Blwyddyn 13 - Fel nawr, disgyblion i fynychu gwersi consortia Cwm Rhymni Uchaf lle cânt nhw eu cynnig
Ym mis Medi 2026 byddai disgyblion yn mynychu lleoliadau fel a ganlyn
- Blwyddyn 7 - pob disgybl (Merched a Bechgyn) ar safle Ysgol Lewis i Ferched
- Blwyddyn 8 - pob disgybl (Merched a Bechgyn) ar safle Ysgol Lewis i Ferched
- Blwyddyn 9 - pob disgybl (Merched a Bechgyn) ar safle Ysgol Lewis Pengam
- Blwyddyn 10 - pob disgybl (Merched a Bechgyn) ar safle Ysgol Lewis Pengam
- Blwyddyn 11 - pob disgybl (Merched a Bechgyn) ar safle Ysgol Lewis Pengam
- Blwyddyn 12 - Fel nawr, disgyblion i fynychu gwersi consortia Cwm Rhymni Uchaf lle cânt nhw eu cynnig
- Blwyddyn 13 - Fel nawr, disgyblion i fynychu gwersi consortia Cwm Rhymni Uchaf lle cawn nhw eu cynnig
Ym mis Medi 2027 byddai'r disgyblion yn mynychu lleoliadau fel a ganlyn
- Pob disgybl (Merched a Bechgyn) blwyddyn 7-13 ar safle Ysgol Lewis Pengam
Gellir hefyd gofyn am y wybodaeth mewn fformatau ac ieithoedd eraill, yn ogystal ag ar ffurf copi caled. Cysylltwch â ni ar 01443 864817 / YsgolionYr21ainGanrif@caerffili.gov.uk i drefnu hyn.