Llythr Hysbysu

Annwyl Ymgynghorai,

Yn unol â gofynion Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018, rydym yn ysgrifennu atoch i’ch hysbysu am gynnig y mae’r Cyngor yn ei gyflwyno mewn perthynas â newid rheoleiddiedig i ysgol a gynhelir a chau ysgol.

Mae'r cynnig yn ymwneud â'r canlynol:

  • Mae'r cynnig yn ceisio cau Ysgol Lewis i Ferched a gwneud newid rheoledig i Ysgol Lewis Pengam i newid o un rhyw i gyd-addysg o fis Medi 2025.

Byddai safle Ysgol Lewis i Ferched yn cael ei gadw fel darpariaeth i Ysgol Lewis Pengam i reoli'r cyfnod pontio dros nifer o flynyddoedd. (ac felly’n lleihau’r effaith ar ddisgyblion sy’n sefyll arholiadau a galluogi integreiddio staff a disgyblion dros gyfnod priodol o amser).

Cynhelir y cyfnod ymgynghori rhwng 3 Mehefin 2024 a 15 Gorffennaf 2024.

Ceir manylion llawn am y cynnig yn:

https://trafodaeth.caerphilly.gov.uk/ysgol-lewis-i-ferched-a-ysgol-lewis-pengam

Cofion

Tîm Cymunedau Dysgu Cynaliadwy - Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili