Ymateb Estyn

Ymateb Estyn i’r cynnig gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i gau Ysgol Lewis i Ferched a gwneud addasiad rheoledig i Ysgol Lewis Pengam i newid o fod yn ysgol un rhyw i fod yn ysgol gydaddysgol, o fis Medi 2025.

Cyflwyniad

Paratowyd yr adroddiad hwn gan Arolygwyr Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.

O dan delerau Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a’i Chod cysylltiedig, mae’n ofynnol i gynigwyr anfon dogfennau ymgynghori i Estyn. Fodd bynnag, nid yw Estyn yn gorff y mae’n ofynnol iddo weithredu yn unol â’r Cod ac nid yw’r Ddeddf yn gosod unrhyw ofynion statudol ar Estyn o ran materion trefniadaeth ysgolion. Felly, fel corff yr ymgynghorir ag ef, bydd Estyn dim ond yn rhoi eu barn ar rinweddau cyffredinol cynigion trefniadaeth ysgolion.

Mae Estyn wedi ystyried yr agweddau addysgol ar y cynnig ac wedi llunio’r ymateb canlynol i’r wybodaeth a ddarparwyd gan y cynigiwr.

Crynodeb / Casgliad

At ei gilydd, mae’r cynigion yn debygol o gynnal safon y ddarpariaeth addysg yn yr ardal. Mae hyn oherwydd bod y trefniadau presennol yn aneffeithlon, gyda mwy na 900 o leoedd dros ben rhwng y ddwy ysgol, a gallai cyfuno’r ddwy ysgol alluogi’r awdurdod lleol i dargedu adnoddau’n fwy effeithiol. Fodd bynnag, nid yw’r ddogfen ymgynghori’n cynnwys digon o fanylion am nifer o agweddau pwysig ar y cynnig.

Disgrifiad a manteision

Mae’r awdurdod lleol yn rhoi rhesymeg glir a manwl ar gyfer y cynnig i gau Ysgol Lewis i Ferched a gwneud Ysgol Lewis Pengam yn ysgol gydaddysgol er mwyn gallu gwneud lle i’r disgyblion o’r ddwy ysgol yno. Mae’r amserlen ar gyfer y newidiadau yn glir ac yn caniatáu cyfnod interim o ddwy flynedd, o fis Medi 2025-Medi 2027, i roi trefniadau pontio ar waith.

Mae’r awdurdod lleol yn amlinellu prif fanteision ac anfanteision y cynnig. Fodd bynnag, nid yw’n ystyried nac yn mynd i’r afael â’r effeithiau negyddol posibl ar ddisgyblion sy’n dechrau yn Ysgol Lewis i Ferched ym mis Medi 2025 a mis Medi 2026, y bydd rhaid iddynt newid ysgolion ddwywaith mewn cyfnod byr.

Caiff tair prif risg eu nodi’n rhai isel neu’n ganolig a chaiff lliniariadau perthnasol eu datgan. Fodd bynnag, nid oes unrhyw drafodaeth yn y ddogfen ymgynghori am fanteision neu anfanteision posibl addysg un rhyw, sy’n debygol o beri pryder i rai rhieni. Nid yw’r ddogfen yn cyflwyno unrhyw ddewisiadau amgen addas i’r cynnig, fel gostwng lleoedd dros ben trwy leihau maint a chapasiti’r ddwy ysgol.

Mae’r awdurdod lleol yn ystyried yr effaith ar drefniadau teithio dysgwyr. Bydd disgyblion y mae’n rhaid iddynt deithio ymhellach nag y maent yn awr, neu byddai’n rhaid iddynt wneud hynny yn y dyfodol os ydynt yn byw’n agosach at Ysgol Lewis i Ferched nag Ysgol Lewis Pengam. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd rhaid i nifer debyg deithio pellter byrrach. Yn ychwanegol, mae Ysgol Lewis Pengam mewn cyflwr gwell nag Ysgol Lewis i Ferched, ac mae’n fwy hygyrch ar gyfer disgyblion ag anawsterau symudedd.

Y rheswm pwysicaf am y cynnig yw’r gostyngiad cyffredinol mewn lleoedd dros ben. Ar hyn o bryd, bydd mwy na 900 o leoedd dros ben ar draws y ddwy ysgol, a bydd y cynnig yn cael gwared ar y rhain yn gyfan gwbl, a allai arwain at effeithlonrwydd gwell wrth ddefnyddio adnoddau’r awdurdod lleol. Fodd bynnag, mae capasiti ar gyfer 1,140 o ddisgyblion yn unig yn Ysgol Lewis Pengam ar hyn o bryd, ac yn ystod y cyfnod rhwng mis Medi 2027 a 2029, bydd y capasiti hwn yn fwy, hyd yn oed heb gynnwys y chweched dosbarth. O gynnwys y chweched dosbarth, mae’r niferoedd yn fwy na’r capasiti tan 2031. Mae’r ddogfen ymgynghori yn datgan y gellir darparu ar gyfer cyfanswm nifer y disgyblion yn Ysgol Lewis Pengam os caiff yr ystafelloedd dosbarth eu hailffurfweddu. Fodd bynnag, nid yw’r ddogfen yn esbonio beth mae hynny’n ei olygu yn ymarferol, pa darfu fydd hyn yn ei achosi i ddisgyblion, y costau, neu pa drefniadau fydd yn cael eu gwneud ar gyfer cyfleusterau eraill, fel toiledau a gofod ffreutur.

Mae’r awdurdod lleol yn ystyried na fydd unrhyw effaith ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn sgil cyfuno’r ddwy ysgol. Mae’n ystyried Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau’r Gymraeg yn ei asesiad effaith integredig.

Mae’r ddogfen ymgynghori yn rhoi ychydig iawn o wybodaeth am oblygiadau ariannol y cynnig. Gallai fod arbedion effeithlonrwydd, er nad yw’r rhain wedi cael eu hamcangyfrif. Yn y cyfnod interim tra bydd y cyfnod pontio’n digwydd, efallai bydd costau cynyddol, ond eto, nid yw’r rhain wedi cael eu hamcangyfrif.

Nid yw’r awdurdod lleol wedi cynnwys asesiad o’r effaith ar y gymuned fel rhan o’r cynnig. Nid yw’n glir beth fydd yn digwydd i’r ganolfan hamdden yn Ysgol Lewis i Ferched a ddefnyddir gan y gymuned y tu allan i oriau ysgol. Mae’r ddogfen yn datgan na ragwelir y bydd unrhyw effaith, er na fydd prif ddefnyddiwr y cyfleusterau yno mwyach o fis Medi 2027.

Agweddau addysgol ar y cynnig

Mae’r awdurdod lleol wedi ystyried effaith debygol y cynnig ar ansawdd a safonau mewn addysg. Er enghraifft, mae’n ymwybodol y gallai fod ychydig o darfu ar ddysgu a lles wrth ddod â’r ddwy ysgol at ei gilydd, a bydd yn cymryd camau i liniaru’r risg hon. Mae’r awdurdod lleol wedi ystyried adroddiadau arolygiadau diweddar Estyn hefyd ac yn nodi bod Ysgol Lewis Pengam wedi cael ei thynnu o’r categori monitro gan Estyn ym mis Tachwedd 2019.

Mae’n debygol fod manteision i’r cwricwlwm mewn cael un ysgol fwy. Gallai hyn roi cyfle ar gyfer darparu ystod ehangach o gyrsiau, yn enwedig ar gyfer disgyblion 14- 19 oed. Mae’r ddogfen ymgynghori yn nodi mai’r broses yw cau Ysgol Lewis i Ferched, a chymryd camau i gyflogi staff yno yn Ysgol Lewis Pengam, lle bo modd, a cheisio adleoli staff yn rhywle arall yn y sir os na. Bydd hyn yn gythryblus i’r staff yn Ysgol Lewis i Ferched, ac mae risg y gallai rhai o’r athrawon a’r aelodau staff eraill gael eu colli i’r ysgol a’r sir o ganlyniad.

Mae’r cynnig yn ystyried anghenion disgyblion bregus ac yn ceisio lleihau’r tarfu cyffredinol i ddysgwyr. Mae’n hynod fuddiol fod blwyddyn academaidd lawn yn dilyn y broses ymgynghori cyn dechrau’r cyfnod interim, oherwydd dylai hyn ddarparu’r amser sydd ei angen i sicrhau bod y newidiadau’n digwydd mor esmwyth ag y bo modd.