Llythyr Hysbysiad Adroddiad Ymgynghori
Annwyl Ymgynghorai,
Yn unol â gofynion Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018, rydym yn ysgrifennu i'ch hysbysu ynghylch cyhoeddi Adroddiad Ymgynghori.
Mae'r cynnig yn ymwneud â'r canlynol:
- Mae'r cynnig yn ceisio cau Ysgol Lewis i Ferched a gwneud newid rheoledig i Ysgol Lewis Pengam i newid o un rhyw i gyd-addysg o fis Medi 2025.
Byddai safle Ysgol Lewis i Ferched yn cael ei gadw fel darpariaeth i Ysgol Lewis Pengam i reoli'r cyfnod pontio dros nifer o flynyddoedd. (ac felly’n lleihau’r effaith ar ddisgyblion sy’n sefyll arholiadau a galluogi integreiddio staff a disgyblion dros gyfnod priodol o amser).
Ceir manylion llawn am y cynnig yn:
https://trafodaeth.caerphilly.gov.uk/ysgol-lewis-i-ferched-a-ysgol-lewis-pengam
Mae'r Adroddiad Ymgynghori ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Gellir hefyd gofyn am y wybodaeth mewn fformatau ac ieithoedd eraill, yn ogystal ag ar ffurf copi caled. Cysylltwch â ni ar 01443 864817 / Ysgolionyr21ainGanrif@caerffili.gov.uk i drefnu hyn.
Cofion
Tîm Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili