Llythr Hysbysu

Annwyl Ymgynghorai,

Yn unol â gofynion Rheoliadau Ffederasiwn Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 Llywodraeth Cymru, rydym yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi am gynnig y mae’r Cyngor yn ei gyflwyno mewn perthynas â sefydlu Ffederasiwn Cyrff Llywodraethu Ysgolion.

Mae'r cynnig yn ymwneud â'r canlynol:

  • Ysgol Fabanod Cwmaber ac Ysgol Iau Cwmaber

Mae ffedereiddio ysgolion yn broses gyfreithiol sy’n galluogi rhwng dwy a chwe ysgol i gydweithio drwy strwythur ffurfiol drwy rannu corff llywodraethu a fydd yn gwneud penderfyniadau er lles gorau’r holl ysgolion, staff a dysgwyr sy’n rhan o’r ffederasiwn hwnnw.

Mae cyrff llywodraethu Ysgol Fabanod Cwmaber ac Ysgol Iau Cwmaber wedi cyfarfod yn unigol ac ar y cyd â'r Awdurdod Lleol i hyrwyddo proses ffedereiddio ffurfiol sy'n cynnwys y ddwy ysgol.

Cynhelir y cyfnod ymgynghori rhwng 2 Medi 2024 a 1 Hydref 2024.

Ceir manylion llawn am y cynnig yn:

https://trafodaeth.caerphilly.gov.uk/ysgol-iau-cwmaber-ac-ysgol-fabanod-cwmaber

Cofion

Tîm Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili