Cwestiynau cyffredin

Beth yw ffederasiwn?

Strwythur llywodraethu cyfreithiol yw ffederasiwn, sy'n galluogi rhwng dwy a chwech o ysgolion i rannu un corff llywodraethu sengl. Bydd yr ysgolion yn cadw eu hunaniaeth, eu henw, eu hethos, eu cyllideb a'u gwisg ysgol eu hunain, ond bydd modd iddynt rannu adnoddau, cyfleusterau ac arferion da.

Pam y dylai ysgolion ffedereiddio?

Mae cydweithio trwy gorff llywodraethu sengl yn galluogi ysgolion i godi safonau a chynnal y ddarpariaeth addysg leol trwy rannu adnoddau, staff, arbenigedd a chyfleusterau, yn ogystal â'u harferion da. Bydd y corff llywodraethu sengl yn fecanwaith effeithiol ac atebol ar gyfer cyfuno adnoddau'r ysgolion, gan gynnwys y staff a'r cyllidebau, rhyddhau amser yr uwch reolwyr, manteisio ar ddarbodion maint a gwella effeithlonrwydd.

Beth yw manteision ffedereiddio?

Bydd ffedereiddio yn ei gwneud yn haws i ysgolion:

  • ehangu a gwella ansawdd y ddarpariaeth
  • ymateb i anghenion ehangach y disgyblion
  • rhyddhau arweinwyr, athrawon a llywodraethwyr ein hysgolion cryfaf i gynorthwyo ysgolion sy'n perfformio'n wael
  • gwella'r cyfleoedd datblygiad proffesiynol i'r staff
  • darparu gwell gwerth am arian.

Pam y gallai ysgolion bach gael budd o ffedereiddio?

Gall ffedereiddio helpu ysgolion bach mewn ardaloedd gwledig i barhau'n gynaliadwy o fewn eu cymunedau. Bydd mecanwaith effeithiol ac atebol y corff llywodraethu sengl yn caniatáu i'r ysgolion gyfuno'u hadnoddau a'u staff a pharhau'n hyfyw drwy fanteisio ar well effeithlonrwydd a darbodion maint. Bydd ysgolion bach mewn ardaloedd gwledig ac anhygyrch ar eu hennill hefyd o'r cyfleoedd i rannu gwasanaeth rheolwyr, llywodraethwyr ac arbenigwyr cwricwlaidd y ffederasiwn. Gellid cyfoethogi'r addysg a gynigir mewn ysgolion cynradd bach trwy rannu, er enghraifft, athro iaith arbenigol neu athro drama.

Beth yw'r manteision a'r risgiau sy'n gysylltiedig â sefydlu ffederasiwn?

Mae bod yn rhan o ffederasiwn yn cynnig nifer o fanteision i ysgolion gan gynnwys dysgu a phrofiadau cymdeithasol ehangach i blant sy'n arwain at wella perfformiad disgyblion. Bydd ysgolion yn gallu rhannu adnoddau, arferion gorau, cyfleusterau ac arbenigedd. Gellir rhoi mwy o bwyslais ar strwythurau arwain a rheoli strategol a bydd gan staff gyfleoedd newydd i gydweithio a lleihau ynysu. Gellir osgoi dyblygu ymdrech ac mae cyfle i hyrwyddo gwell darbodion maint.

Ymhlith rhai o'r risgiau mae anawsterau trefnu posibl o ran darparu cwricwlwm mewn nifer o ysgolion. Gall cyfathrebu â rheini a staff mewn gwahanol ysgolion fod yn her. Gall costau teithio fod yn uwch os bydd staff a disgyblion yn symud rhwng ysgolion i ddiwallu anghenion o ran y cwricwlwm. Efallai y bydd materion sy'n ymwneud â chydberthnasau ac ymddiriedaeth i lywodraethwyr, penaethiaid a staff sy'n gweithio rhwng ysgolion. Dylai'r corff llywodraethu ffederal fod yn ymwybodol o'r risgiau posibl a llunio strategaethau a chamau gweithredu i'w lliniaru.

A fydd fy ysgol yn colli ei hunaniaeth mewn ffederasiwn?

Ni fydd ysgolion mewn ffederasiwn yn colli eu hunaniaeth er y byddant yn rhannu corff llywodraethu sengl. Mae'r ysgolion yn cadw eu statws cyfreithiol ar wahân ac mae ganddynt eu dyraniadau cyllidebol eu hunain a bydd pob ysgol unigol yn cael ei harolygu gan Estyn. Bydd yr ysgolion hefyd yn aros yn eu cymuned ac yn cadw eu cymeriad, eu henw, eu hethos a'u gwisg ysgol eu hunain. Er bod pob ysgol yn cael ei chyllideb unigol ei hun a bod yn rhaid iddi roi cyfrif amdani, mae cyfle, drwy'r corff llywodraethu sengl, i ddefnyddio cyllidebau a rennir ymhlith yr ysgolion yn y ffederasiwn. Mae ffedereiddio yn gweithio ar y sail bod gan bob ysgol ei chryfderau a'i manteision penodol ei hun, boed yn gyfleusterau, yn staff neu'n adnoddau.

Beth yw'r trefniadau ar gyfer arolygu ysgolion ffederal?

Mae dogfen Estyn ‘Pa bryd y cynhelir yr arolygiad nesaf o'r ysgol?’ yn nodi canllawiau ar arolygu ysgolion ffederal. Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i Estyn arolygu ysgolion a gynhelir bob chwe blynedd a llunio adroddiad unigol ar gyfer pob ysgol. Byddai hyn hefyd yn gymwys i ysgolion yn y ffederasiwn. Ni all Estyn symud arolygiad o ysgol i fod yn hwyrach na chwe blynedd ers ei harolygiad diwethaf ond gall gynnal arolygiadau mewn ffordd sy'n sicrhau bod yr ysgolion mewn ffederasiwn yn cael eu harolygu yn ystod yr un tymor, yn enwedig pan fydd gan yr ysgolion yr un pennaeth. Byddai Estyn hefyd yn ystyried ceisiadau gan gorff llywodraethu neu awdurdod lleol i arolygu ysgolion yn ystod yr un tymor. Byddai Estyn hefyd yn ceisio sicrhau bod aelodaeth y timau sy'n arolygu ysgolion mewn ffederasiwn yn gorgyffwrdd.

Beth sy'n digwydd i staff mewn ffederasiwn? A fydd eu Hamodau Gwasanaeth yn newid?

Mewn ffederasiwn, byddai pob aelod o staff wedi'i gyflogi ar yr un amodau gwasanaeth â'r rhai presennol a chan yr un cyflogwr. Pwy bynnag yw'r cyflogwr staff presennol fydd y cyflogwr newydd o dan y contract cyflogaeth. Yn achos ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a reolir, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir, yr awdurdod lleol yw'r cyflogwr o dan y contract cyflogaeth. Y corff llywodraethu yw'r cyflogwr o dan y contract cyflogaeth yn achos staff mewn ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig.

Dylai gwaith cynllunio strategol ac ariannol ar y cyd olygu y gellir diogelu swyddi yn well mewn unrhyw gyfnod o gywasgu cyfunol ac y gellir gwneud y defnydd gorau o staff arbenigol, gan gydnabod bod gan bob aelod o staff cymorth ac addysgu sgiliau a gwybodaeth arbenigol. Byddai staff yn gallu dysgu oddi wrth ei gilydd o fewn ymagwedd gydlynol er mwyn sicrhau cymunedau dysgu proffesiynol sy'n defnyddio data a'r Model cenedlaethol er mwyn canolbwyntio ar welliannau i ysgolion sy'n cysylltu â blaenoriaethau cenedlaethol a chynlluniau datblygu eu hysgolion.

Gall corff llywodraethu'r ysgolion ffederal benodi aelodau newydd o staff i weithio ym mhob ysgol yn y ffederasiwn. Gallai hyn gynnwys penodi pennaeth sengl i fod yn gyfrifol am yr holl ysgolion yn y ffederasiwn, neu benodi Bwrsar neu berson sydd â sgiliau rheolaeth ariannol a/neu sgiliau rheoli busnes, i oruchwylio agweddau ar fusnes y ffederasiwn heblaw addysgu.

A oes modd i ffederasiwn gael un pennaeth sydd â chyfrifoldeb am yr holl ysgolion yn y ffederasiwn hwnnw?

Oes, os dyna yw dymuniad yr ysgolion; a gallai hynny fod yn opsiwn dichonadwy mewn ffederasiwn o ysgolion cynradd bach gwledig. Os dewisir yr opsiwn hwn ar gyfer ffederasiwn mwy, a fyddai'n cynnwys hyd at chwe ysgol, h.y. ysgol uwchradd a'r ysgolion cynradd sy'n ei bwydo, pan fo nifer fawr o ddisgyblion ym mhob un o'r ysgolion, dylai cyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol ystyried sut y gellir rheoli trefniant o'r fath, a pha strwythur cymorth y byddai ei angen ar bennaeth sengl y ffederasiwn. Byddai'n rhaid ystyried, er enghraifft, sut y gellid gweithredu strwythur rheoli sy'n bodloni anghenion unigol pob un o'r ysgolion, a hefyd yn cynnal parhad y cwricwlwm ledled y ffederasiwn. Gallai hynny olygu cael rhai staff ym mhob ysgol yn canolbwyntio ar addysgu a dysgu ynghyd â strwythur o swyddi eraill ar gyfer athrawon a fyddai'n gweithio ledled y ffederasiwn, a'r cyfan yn cael ei reoli gan bennaeth sengl.

Opsiwn arall y gallai cyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol ei ystyried, fyddai cadw pennaeth ym mhob ysgol sy'n ffedereiddio, yn hytrach na phenodi pennaeth sengl.

O safbwynt gweithredu o ddydd i ddydd gallai ysgolion ddymuno mabwysiadu trydydd opsiwn, sef penodi pennaeth ar y ffederasiwn yn ogystal â chadw pennaeth ym mhob un o'r ysgolion. Pe cytunid ar y drefn honno ac os penodid pennaeth trosfwaol i fod yn gyfrifol am y ffederasiwn, byddai'r pennaeth hwnnw'n aelod o'r corff llywodraethu. Os na wneid penodiad o'r fath, gallai pennaeth pob un o'r ysgolion fod yn llywodraethwr.

A fyddai'r ‘pennaeth’ sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am y ffederasiwn yn gyfrifol am reoli penaethiaid yr ysgolion unigol o fewn y ffederasiwn, pe cytunid ar y strwythur hwnnw?

Gallai’r corff llywodraethu ddewis penodi pennaeth ar y ffederasiwn gyda chyfrifoldeb llawn dros yr holl ysgolion yn y ffederasiwn, a chael uwch-aelod o'r staff neu ddirprwy bennaeth yn unig yn gofalu am bob ysgol unigol. Os na fyddai'r uwch-aelodau hynny'n brifathrawon cymwysedig ac yn cyflawni'r ystod lawn o ddyletswyddau statudol pennaeth ysgol, yna byddai pennaeth y ffederasiwn yn gyfrifol am reoli perfformiad yr uwch-aelodau hynny o'r staff. Y corff llywodraethu fyddai'n gyfrifol am reoli perfformiad pennaeth y ffederasiwn.

Sut y dylid talu i benaethiaid ffederasiynau?

Yn dilyn argymhelliad gan y Corff Adolygu Athrawon Ysgol (STRB) mae'r Adran Addysg yn Lloegr ar ganol diweddaru'r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol i adlewyrchu taliadau interim i benaethiaid sy'n cymryd cyfrifoldeb am fwy nag un ysgol.

A gaiff rhiant-lywodraethwyr eu hethol gan y rhieni o'u hysgol yn unig neu gan rieni o bob ysgol yn y ffederasiwn?

Dylai'r cynnig i ffedereiddio ddatgan nifer y rhiant-lywodraethwyr a fydd yn cynrychioli pob ysgol. Yn ôl y gyfraith, rhaid i bob ysgol gael o leiaf un rhiant-lywodraethwr a etholir gan y rhieni yn yr ysgol honno (neu a benodir gan y corff llywodraethu os nad oes rhiant yn sefyll i'w ethol), ond ni chaniateir i ysgol gael mwy na dau riant-lywodraethwr. Mae'n rhesymol, felly, ar ôl penderfynu ar nifer y rhiant-lywodraethwyr a ganiateir i bob ysgol, mai'r rhieni yn yr ysgol dan sylw yn unig ddylai bleidleisio yn yr etholiad i ethol y rhiant-lywodraethwyr. Os penderfynir y dylai pob ysgol gael dau riant-lywodraethwr, ac os nad oes rhiant yn sefyll i'w ethol mewn ysgol benodol, neu os oes un yn unig yn sefyll, caiff y corff llywodraethu ffederal benodi rhiant-lywodraethwyr yn unol ag Atodlen 2 i Reoliadau Ffedereiddio 2014. Golyga hynny y gallai'r corff llywodraethu benodi rhiant disgybl cofrestredig o'r ysgol; rhiant disgybl cofrestredig o ysgol arall yn y ffederasiwn; neu riant plentyn o oedran ysgol gorfodol (neu o dan oedran ysgol gorfodol yn achos ysgol feithrin).

A ellir cyfyngu ar ffederasiwn o ran amser?

Dylid ystyried bod ffedereiddio yn ymrwymiad hirdymor, ac nid ystryw dros dro. Bydd yr awdurdod lleol neu'r cyrff llywodraethu wedi rhoi ystyriaeth ddofn i'r manteision a'r risg sy'n gysylltiedig â sefydlu ffederasiwn, gan gynnwys ei heffaith ar gyflawniad plant a phobl ifanc. Byddai ffederasiwn yn sefydlu cynlluniau strategol a gweithredol er mwyn sicrhau cynaliadwyedd a datblygiad yr ysgolion. Cynlluniau ar gyfer y tymor canol a'r tymor hir fyddai cynlluniau o'r fath. Er gwaethaf hynny, mae Rheoliadau Ffedereiddio 2014 yn caniatáu i ysgolion unigol adael ffederasiwn, ac yn darparu ar gyfer diddymu ffederasiwn.

A ddylem, fel cam cyntaf, ddechrau cydweithio ag ysgolion y gallem ffedereiddio gyda nhw?

Hwyrach y bydd cydweithio ag ysgolion eraill yn meithrin ymddiriedaeth rhyngoch, a hynny'n eich galluogi i sefydlu perthynas waith dda, a fyddai'n yn ei gwneud yn haws cymryd y cam nesaf tuag at ffedereiddio. Bydd y broses ffedereiddio yn llwyddo os bydd y staff a'r llywodraethwyr wedi ymrwymo i gydweithio er budd cymunedau'r ysgolion.

A all ysgolion sefydlu corff llywodraethu ar y cyd cyn ffedereiddio’n ffurfiol?

Na – mae corff llywodraethu'r ysgolion ffederal yn dod i fodolaeth ar y dyddiad y daw'r ffederasiwn i rym, a rhaid iddo fod o leiaf 125 diwrnod o'r dyddiad y cyhoeddir y cynigion ar gyfer ffedereiddio (neu 100 diwrnod os ffedereiddir ysgolion bach). Golyga hyn y bydd cyrff llywodraethu'r ysgolion sy'n ffedereiddio wedi cynnal etholiadau ar gyfer y llywodraethwyr craidd h.y. rhieni, athrawon a staff a bydd yn rhaid i'r awdurdod lleol fod wedi penodi llywodraethwyr sy'n cynrychioli'r awdurdod lleol. Ar y dyddiad y daw'r ffederasiwn i rym gall y corff llywodraethu sengl newydd gyfarfod a phenodi ei lywodraethwyr cymunedol. Fodd bynnag, gall yr ysgolion sefydlu cyd-weithgor neu bwyllgor o lywodraethwyr i oruchwylio'r broses ffedereiddio os dymunant.

A allem newid enw'r ysgol neu roi'r un enw i bob ysgol yn y ffederasiwn?

Un prif symbyliad i ffedereiddio, ac un o'i brif fanteision, yw nad yw'r ysgolion yn colli eu hunaniaeth a'u henw, ond yn parhau'n sefydliadau ar wahân. Bydd enw pob ysgol sydd yn y ffederasiwn, yn ogystal ag enw'r ffederasiwn ei hun, yn ymddangos ar yr offeryn llywodraethu newydd. Pennir y broses ar gyfer diwygio'r offeryn llywodraethu a newid manylion megis enwau'r ysgolion yn Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005. Dylai'r awdurdod lleol a'r corff llywodraethu ddod i gytundeb ynghylch y newidiadau arfaethedig. Os na allant gytuno, yr awdurdod lleol gaiff wneud y penderfyniad terfynol, ar ôl sicrhau na fydd yr un o'r newidiadau yn gamarweiniol.

Rhaid i bob ysgol mewn ffederasiwn gadw ei rhif cyfeiriol unigryw gwreiddiol a'i chyllideb. Gallai fod yn fater pur gymhleth a dyrys pe bai pob un o'r ysgolion yn penderfynu newid ei henw ac yn penderfynu mabwysiadu enw sengl tra'n gorfod rhoi cyfrif am gyllidebau ar wahân.