Ymgynghoriad: Adolygu Datganiad o Bolisi Trwyddedu – Deddf Trwyddedu 2003
Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau.
Nod y datganiad o bolisi trwyddedu yw sicrhau diogelwch y cyhoedd, diogelu plant rhag niwed, atal niwsans cyhoeddus ac atal trosedd ac anhrefn wrth annog diwydiant hamdden ac adloniant cynaliadwy.
Mae Deddf Trwyddedu 2003 yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Trwyddedu gyhoeddi Datganiad o Bolisi Trwyddedu sy'n nodi'r amrywiol ffactorau y byddan nhw'n eu hystyried wrth weinyddu a phenderfynu ceisiadau a wneir o dan y Ddeddf mewn perthynas â hyrwyddo'r Amcanion Trwyddedu.
Mae'r Cyngor yn cydnabod disgwyliadau trigolion lleol ar gyfer amgylchedd diogel ac iach i fyw a gweithio ynddo, a'r angen i ddarparu cyfleusterau adloniant, lletygarwch a hamdden diogel sy'n cael eu cynnal yn dda ledled y Fwrdeistref Sirol.
Daeth ein polisi cyfredol i rym ar 1 Ionawr 2016 ac mae bellach yn destun adolygiad.
Isod mae rhai o'r diwygiadau arfaethedig i'r polisi presennol:
- Diweddariad a ddarperir gan Iechyd y Cyhoedd o ran goblygiadau'r niwed a achosir gan gyffuriau ac alcohol.
- Canllawiau ar arferion gorau mewn perthynas ag atal trosedd ac anhrefn.
- Nodi mesurau ar sut i atal a rhoi gwybod am achosion o gam-fanteisio'n rhywiol, caethwasiaeth fodern a masnachu pobl.
- Atal niwsans cyhoeddus gan weithio gyda phartneriaid fel Iechyd yr Amgylchedd a chyfeirio at Gynllun Gweithredu ynghylch Sŵn a Seinwedd 2018–2023 Llywodraeth Cymru.
- Diogelwch Cyhoeddus – yn darparu cyngor ar asesiadau risg a mesurau rheoli.
- Amddiffyn plant rhag niwed, gan gynnwys cyngor ar ddiogelu a gwerthu i unigolion dan oed.
- Darparu cyngor ar sut y bydd yr awdurdod trwyddedu yn delio â deisebau o blaid neu yn erbyn ceisiadau.
Fel rhan o'r ymarfer ymgynghori, rydyn ni'n bwriadu cysylltu â'r unigolion, busnesau neu sefydliadau hynny sy'n debygol o gael eu heffeithio gan y polisi i ofyn am eu barn.
Bydd y cyfnod ymgynghori yn cychwyn ar 14 Awst 2020 ac yn gorffen ar 9 Hydref 2020. Os ydych chi am wneud sylwadau, bydd angen i chi wneud hynny cyn y dyddiad hwn er mwyn iddynt gael eu hystyried.
Mae'r polisi drafft sy'n destun ymgynghoriad ar gael i'w lawrlwytho isod: