Annwyl Ymgynghorai

Annwyl Ymgynghorai,

Yn unol â gofynion Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018, rydym yn ysgrifennu atoch i'ch hysbysu o gynnig y mae'r Cyngor yn ei gyflwyno mewn perthynas â gwneud newid a reoleiddir i ysgol a gynhelir.

Mae'r cynnig yn ymwneud â'r canlynol:

  • Sefydlu Ysgol Gynradd newydd trwy gyfuno Ysgol Iau Hendre ac Ysgol Babanod Hendre.

Mae'r ddwy ysgol wedi bod yn 'cydweithredu' yn anffurfiol ers mis Medi 2022. Maen nhw'n rhannu'r un Pennaeth ac mae'r ddau gorff llywodraethu yn cydweithio er budd gorau'r ysgolion, y disgyblion a'r gymuned ehangach.

Cynigir y byddai safleoedd presennol yr ysgolion yn parhau i fod ar waith ond yn gweithredu fel un campws ysgol gynradd ac nid oes unrhyw newidiadau arfaethedig i'r trefniadau dalgylch a rennir presennol.

Cynhelir y cyfnod ymgynghori rhwng 2 Medi 2024 a 15 Hydref 2024.

Ceir manylion llawn am y cynnig yn:

https://trafodaeth.caerphilly.gov.uk/ysgol-iau-hendre-ac-ysgol-fabanod-hendre

Regards

Sustainable Communities for Learning Team, Caerphilly County Borough Council