Diwygiadau Caffael

Mae Caffael Cyhoeddus yn newid

Mae’r dirwedd a’r rheolau sy’n llywodraethu caffael cyhoeddus yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig yn newid. Mae hyn oherwydd tri gofyniad deddfwriaethol newydd ar wahân:

  • Deddf Caffael 2023
  • Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023
  • Deddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024

Beth yw Deddf Caffael 2023?

Mae Deddf Caffael 2023 yn cyflwyno newidiadau sylweddol i’r rheoliadau sy’n llywodraethu caffael yn y Deyrnas Unedig. Bydd y Ddeddf yn gwneud trefn caffael cyhoeddus y Deyrnas Unedig yn gyflymach, yn symlach, yn fwy tryloyw, ac yn fwy abl o ran diwallu anghenion y Deyrnas Unedig gan barhau i gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol.

Beth yw amcanion Deddf Caffael 2023?

  • Sicrhau gwerth am arian
  • Sicrhau’r budd mwyaf posibl i’r cyhoedd
  • Tryloywder
  • Gweithredu gydag uniondeb

Pryd bydd hyn yn digwydd?

Mae disgwyl i’r Ddeddf Gaffael, a fydd yn diwygio’r rheolau caffael presennol, ddod i rym ym mis Chwefror 2025. Bydd y ddeddfwriaeth bresennol yn berthnasol nes i’r drefn newydd ddod yn weithredol a bydd hefyd yn parhau i fod yn berthnasol i gaffael a ddechreuodd o dan y rheolau caffael presennol.

Beth yw'r manteision?

Mae'r manteision yn cynnwys:

  • Proses dendro fwy hyblyg ac wedi'i symleiddio
  • Mwy o amlygrwydd
  • Mwy o ymgysylltu â'r farchnad
  • Taliadau prydlon
  • Crynodebau adborth ac ôl-drafodaethau cyson
  • Diwallu anghenion sefydliadol
  • Amcanion cenedlaethol a lleol
  • Sicrhau gwerth am arian

Beth sydd angen i mi ei wneud?

Er mwyn paratoi ar gyfer cyflwyno’r Ddeddf Gaffael newydd, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi lansio cyfres o fideos Diferion Gwybodaeth i roi trosolwg lefel uchel o’r newidiadau i randdeiliaid, gan gynnwys cyflenwyr, busnesau bach a chanolig, a mentrau cymdeithasol cymunedol gwirfoddol.

Mae'r fideos Diferion Gwybodaeth wedi’u teilwra i wahanol gynulleidfaoedd, ac maen nhw'n cynnwys:

  • Cyflenwyr: 45 munud i gyd, wedi'i rannu'n dair adran lai.
  • Cyflenwyr mentrau cymdeithasol cymunedol gwirfoddol a busnesau bach a chanolig: 45 munud i gyd, wedi'i rannu'n dair adran lai.

Gweler y ddolen isod:
Diferion Gwybodaeth Swyddogol Trawsnewid Caffael Cyhoeddus - GOV.UK (www.gov.uk) (Saesneg yn unig)

Mae'r canlynol yn ganllaw byr i gyflenwyr sy'n crynhoi'r newidiadau a ddaw yn sgil y Ddeddf Gaffael.

Deddf Caffael 2023: Canllaw byr i gyflenwyr (HTML) - GOV.UK (www.gov.uk) (Saesneg yn unig)

Bydd cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant/gweithdai ychwanegol yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi yn nes at y dyddiad y bydd y Ddeddf yn dod i rym.