Contractau a ddyfarnwyd
Mae'r cyngor yn sefydliad cymhleth sy'n darparu ystod amrywiol o nwyddau, gwaith a gwasanaethau i gymunedau'r fwrdeistref sirol.
Rydym yn gwario tua £230m bob blwyddyn gyda darparwyr trydydd parti, ac rydym yn gweithio'n galed i sicrhau bod y gweithgaredd caffael nid yn unig yn cyd-fynd â gofynion ein cymunedau, ond hefyd yn broses deg, tryloyw, ac yn gadarn yn gyfreithiol.
CONTRACTAU BYW CONTRACTAU ARCHIF
Fframweithiau SATC a Lotiau
Mae'r ddogfen isod yn rhoi manylion yr holl gytundebau a chystadlaethau bach a ddyfernir ar gyfer yr holl Fframweithiau SATC a Lotiau.
Cofnod cystadleuaeth fach (PDF)
Darparu Adeiladwyr Cyffredinol
Gwahoddir contractwyr a benodir ar y System Brynu Ddeinamig ar gyfer Darparu Adeiladwyr Cyffredinol i gymryd rhan mewn cystadlaethau bach.
Rhestr o gontractwyr (PDF)
Contractau cludiant
System Brynu Ddeinamig
Rydym wedi sefydlu System Brynu Ddeinamig (DPS) ar gyfer darparu cludiant o ansawdd uchel a chost effeithiol ar gyfer gofynion yr Uned Cludiant Integredig. Mae'r gofynion yn cynnwys tacsis, bysiau mini a cherbydau hygyrch i gadeiriau olwyn.
Mae'r ddogfen isod yn rhoi manylion yr holl DPS a ddyfarnwyd gan y cyngor ers mis Gorffennaf 2015.
Trafnidiaeth DPS - Cofnod Cystadleuaeth Fach - Lot 1 (PDF)
Trafnidiaeth DPS - Cofnod Cystadleuaeth Fach - Lot 2 (PDF)
Trafnidiaeth DPS - Cofnod Cystadleuaeth Fach - Lot 3 (PDF)
Contractau bysiau ysgol a choleg
Rydym wedi sefydlu Fframwaith Aml-Ddarparwyr ar gyfer darparu cludiant o ansawdd uchel a chost-effeithiol ar gyfer gofynion yr Uned Gludiant Integredig. Natur y Fframwaith yw darparu Contractau Dynodedig Cartref i Ysgol / Bws Coleg dynodedig ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth sy'n derbyn cludiant am ddim.
Mae'r ddogfen isod yn rhoi manylion am yr holl gontractau bysiau a ddyfarnwyd ers cychwyn y trefniant ar y 1 Ionawr 2015.
Bysiau Trafnidiaeth - Cofnod Cystadleuaeth Fach (PDF)
Rhaglen Ysgolion Technoleg Addysg
System Brynu Ddynamig – Darparu Technoleg Addysg a Gwasanaethau Cysylltiedig
Mae CBS Caerffili, ar y cyd â Llywodraeth Cymru a phob un o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru, yn arwain ar ddatblygu un sianel gaffael drwy System Brynu Ddynamig (y System) er mwyn i awdurdodau lleol brynu cynhyrchion technoleg a gwasanaethau cysylltiedig ar ran eu hysgolion.
Gwahoddir y cyflenwyr hynny a sefydlir ar y System i gymryd rhan mewn cystadlaethau bach ar gyfer eu lot/lotiau priodol pan fydd cyfle. Mae'r ddogfen atodedig yn rhestru canlyniadau'r cystadlaethau bach a'r Cyflenwyr a sefydlir ar y System ar gyfer eu lot priodol.
Os oes gennych chi fel Cyflenwr ddiddordeb mewn gwneud cais am ymuno â'r System neu os oes angen unrhyw wybodaeth ychwanegol arnoch chi, cysylltwch â caffaeliad@caerfili.gov.uk.