Sefydliadau cefnogi busnes
Fforymau, rhwydweithiau a gwasanaethau cymorth busnes cysylltiedig i'ch helpu i hyrwyddo eich cynnyrch a gwasanaethau.
Fforwm Busnes Caerffili
Fforwm Busnes Caerffili yw eich arena ar gyfer cysylltu â'ch cwsmeriaid a chyflenwyr, dysgu sgiliau a gwybodaeth ddefnyddiol i'ch busnes, a chael dylanwad ar lywodraeth leol a rhanbarthol ar faterion sy'n effeithio ar eich busnes.
Cymdeithas Twristiaeth Caerffili
Mae Cymdeithas Twristiaeth Caerffili yn rhwydwaith sefydledig o fusnesau twristiaeth lleol ac atyniadau ymwelwyr a ffurfiwyd i hyrwyddo twristiaeth o fewn Bwrdeistref Sirol Caerffili. Aelodaeth yw £25.00 y flwyddyn.
Siambr Fasnach Bargod
Mae Siambr Fasnach Bargod yn anelu at gynrychioli busnesau Ardal Bargod Fwyaf er budd y gymuned fusnes a masnachol.
Partneriaeth Manwerthu Coed Duon
Mae'r bartneriaeth yn rhad ac am ddim i ymuno ar gyfer unrhyw manwerthwr sy’n masnachu ar hyn o bryd yng nghanol tref Coed Duon.
Siambr Fasnach Trecelyn a'r Cylch
Mae Siambr Fasnach yn ceisio hyrwyddo cysylltiadau busnes da yn ardal Trecelyn.
Siambr Fasnach Rhisga
Mae Siambr Fasnach Rhisga yn cynrychioli busnesau yn ardal Rhisga a Phont-y-meistr, mewn mentrau masnachol penodol.
Busnes mewn Ffocws
Mae ein tîm o Gynghorwyr yn fedrus o ran helpu pobl busnes newydd i gael eu syniadau ar waith ac unwaith eu bod yn masnachu yn eu cefnogi gyda chyngor realistig ac ymarferol.
Canolfan Fusnes
Cymorth am ddim a chyngor diduedd ar gyfer busnesau newydd a sefydledig.
Busnes Cymru
Gwasanaeth rhad ac am ddim sy’n darparu cymorth a chyngor diduedd ac annibynnol i bobl sy’n dechrau, rhedeg a thyfu busnes yng Nghymru yw Busnes Cymru. Mae gennym ganolfannau rhanbarthol ym mhob cwr o Gymru, ac rydym yn cynnig cymysgedd o gymorth ar-lein ac wyneb-yn-wyneb, yn ogystal â gweithdai hyfforddiant a chyngor i unigolion.
Dechrau eich busnes: Mae Busnes Cymru yn cynnig gwasanaeth cymorth penodol ar gyfer y cam cyn dechrau busnes ac ar gyfer busnesau newydd. Drwy ddefnyddio nifer o ddulliau diagnostig ar gyfer busnesau, bydd ein timau cynghori yn gweithio gyda chi i lunio cynllun gweithredu cynhwysfawr ac i’ch helpu i oresgyn unrhyw heriau sy’n codi.
Tyfu eich busnes: O chwilio am gyfleoedd am gyllid i archwilio marchnadoedd rhyngwladol newydd, mae gan Busnes Cymru yr adnoddau sydd eu hangen i’ch helpu wrth ichi geisio ehangu a thyfu eich busnes
Gallwch ddod o hyd i ragor o gymorth neu gyngor busnes drwy gysylltu â ni:
Gwefan: busnescymru.llyw.cymru
Phone: 03000 6 03000
Tanysgrifio i’r cylchlythyr
Ein dilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol Facebook , Twitter , LinkedIn , Youtube , Instagram.
Busnes Superfast Cymru
Gall Cyflymu Cymru i Fusnesau helpu’ch busnes i wella cyllidebau, cyrraedd mwy o gwsmeriaid a symleiddio'ch prosesau gwaith drwy ddefnyddio rhaglen gymorth am ddim a gynlluniwyd i'ch helpu i wneud y mwyaf o dechnoleg ar-lein i barhau i dyfu eich busnes.
Dyma’r hyn y mae ein gwasanaeth cymorth am ddim yn cynnwys:
https://businesswales.gov.wales/superfastbusinesswales/cy/sut-y-gallwn-ni-helpu
neu Ffoniwch 03000 6 03000
Banc Datblygu Cymru
Mae Banc Datblygu Cymru yn helpu busnesau i gael y cyfalaf sydd ei angen arnynt i ddechrau, cryfhau a thyfu. Gall busnesau gael benthyciadau a buddsoddiad o £1,000 hyd at £5m. Darganfyddwch os ydych yn gymwys ar bancdatblygu.cymru.
Go Wales
Mae Go Wales yn adeiladu perthnasau gyda chyflogwyr lleol, myfyrwyr a graddedigion i gynnig lleoliadau gwaith o safon uchel, swyddi, profiad gwaith a academïau hyfforddi.
Canolfan Byd Gwaith
Mae gan Canolfan Byd Gwaith ystod eang o wasanaethau a gall eich helpu fel cyflogwr.
Busnes Cymru
Darparu cymorth busnes i bobl sy'n dechrau, rhedeg a thyfu busnes. Mae cymorth ar gyfer busnes yn cynnwys gwybodaeth, cyngor ac arweiniad a ddarperir ar-lein, dros y ffôn drwy Linell Gymorth Busnes Cymru, ac wyneb yn wyneb trwy ein canolfannau Busnes Cymru.
Cwmpas
Mae Cwmpas yn helpu i cyd-weithredwyr, mentrau cymdeithasol, grwpiau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol. Darparu cefnogaeth ymatebol, dibynadwy a hyblyg.