Parhad busnes
Ydych chi'n rhedeg eich busnes eich hun? Os ydych, oes gennych chi gynllun parhad busnes?
Mae cynllunio parhad busnes yr un mor bwysig ar gyfer cwmnïau bach fel y mae i gorfforaethau mawr. Gall cael cynllun parhad busnes wneud y gwahaniaeth rhwng cadw a cholli eich busnes mewn achos trychineb.
Beth yw parhad busnes?
Mae parhad busnes yn ymwneud â sicrhau bod eich busnes neu sefydliad yn cael ei baratoi mewn achos o argyfwng.
- Sut y byddech yn parhau i weithredu?
- A ydych yn darparu gwasanaeth hanfodol i'ch cwsmeriaid?
- A fyddai pethau'n 'fusnes fel arfer'?
Bydd cael cynllun profedig yn helpu i sicrhau bod eich busnes neu sefydliad yn dioddef yr amhariad lleiaf posibl ac yn y pen draw yn parhau i weithredu.
Pam parhad busnes?
Heb gynllunio parhad busnes effeithiol gallai trychineb naturiol neu o wneuthuriad dyn arwain at: -
- Methiant cyflawn o'ch busnes
- Colli incwm
- Colli enw da a/neu golli cwsmeriaid
- Cosbau ariannol, Cyfreithiol a Rheoleiddiol
- Materion adnoddau dynol
- Effaith ar bremiymau yswiriant
Mae rhai risgiau busnes y dylech gynllunio ar eu cyfer
Os nad ydych yn gallu darparu gwasanaethau dan gontract, a ydych wedi ystyried pa fath o gosbau y gellid eu gosod?
A allai eich gwasanaethau hanfodol barhau yn ystod: -
- Colli pŵer am 24 awr?
- Colli pŵer dros amser hwyach?
- Sut y byddai eich busnes yn gweithredu heb gyfrifiaduron neu delathrebu am ddiwrnod, wythnos neu fis
- Pa rai o'ch gwasanaethau hanfodol a fyddai'n cael eu peryglu os yw eich adeilad yn cael ei wacáu am wythnos heb ddim mynediad iddo? Beth am fis?
- Faint o staff fyddai eu hangen i barhau i ymdrin â thasgau allweddol a sut y byddech yn darparu ar eu cyfer?
- Oes gennych adeilad arall i weithio ynddo yn effeithiol? Ydi hyn yn ddigon? Ydi staff yn gallu gweithio o'r cartref?
- Beth fyddai'n digwydd pe bai chwarter o'ch staff yn absennol oherwydd y fliw?
- Pa mor hir y gallwch chi ymdopi heb feddalwedd neu offer swyddfa arbennig a pha mor hir y byddai'n ei gymryd i ailgyflenwi stociau?
Dylai eich cynllun ateb yr holl gwestiynau uchod, ac eraill wedi'u teilwra i weddu i'ch busnes.
Hunanasesiad
Os nad oes gennych gynllun bydd ein ffurflen hunanasesu, na ddylai gymryd mwy na 10 munud i'w chwblhau, yn eich helpu i amlinellu materion y mae angen i chi eu hystyried er mwyn eich galluogi i baratoi ar gyfer argyfwng a allai amharu ar eich busnes. Os oes gennych gynllun, yna efallai y bydd yn eich helpu i nodi unrhyw faterion nad ydych wedi ystyried o'r blaen.
Ffurflen Hunanasesu (PDF)
Beth yw rôl Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Er na all y cyngor baratoi eich cynlluniau i chi (chi sy’n gwybod yn well am eich busnes a’ch prosesau critigol), gall gynnig cyngor cyffredinol a chynorthwyo drwy roi manylion am wefannau defnyddiol a darllen pellach.
Oeddech chi'n gwybod?
- Mae 80% o fusnesau yn cael eu heffeithio gan ddigwyddiad mawr heb gynllun parhad busnes naill ai byth yn ail-agor neu’n cau o fewn 18 mis
- Amcangyfrifir bod 46% o fusnesau heb gynllun parhad busnes
- O blith y rhai sydd â chynlluniau, dim ond 30% sydd wedi cael eu profi ac 1 o bob 5 wedi cael eu profi dim ond unwaith
- Mae bron i 1 o bob 5 o fusnesau yn dioddef amhariad sylweddol bob blwyddyn
Gwybodaeth bellach
Os hoffech fwy o wybodaeth neu gyngor ar barhad busnes cysylltwch â Cynllunio mewn Argyfwng.