Trwydded Cerbyd Hacni neu Hurio Preifat
Rhaid i bob cerbyd gyda hyd at 8 o seddi teithwyr sy'n cael ei ddefnyddio at ddiben llogi a thâl gael ei drwyddedu gan y Cyngor yn gyntaf.
Mae dau fath o gerbyd, Cerbyd Hacni (Tacsi) a Cherbyd Hurio Preifat.
Mae modd hurio cerbydau hacni o ymyl y ffordd neu o safle tacsis a does dim angen eu trefnu ymlaen llaw. Mae'r pris o fewn y Fwrdeistref yn cael ei reoli gan fesurydd tacsi.
Rhaid i gerbydau hurio preifat gael eu trefnu ymlaen llaw am bris wedi’i ddiffinio ymlaen llaw drwy weithredwr trwyddedig, y mae’r gyrrwr yn gweithio iddo. Mae'r pris yn cael ei gytuno ymlaen llaw. Mae'n drosedd i yrrwr cerbyd hurio preifat godi teithwyr sydd wedi’i hurio o ymyl y ffordd.
Mae gan yr Awdurdod fanyleb cerbyd / amodau trwydded, Is-ddeddfau (Cerbydau Hacni yn unig) a fydd yn pennu beth y mae modd ei drwyddedu mewn perthynas ag oedran ac ymddangosiad cerbyd. Anogir ymgeiswyr i ddarllen ac ystyried gofynion y Cyngor mewn perthynas â cherbydau.
- Manylion cerbyd
- Amodau trwydded
- Is-ddeddfau (Cerbydau Hacni yn unig)
- Rhaid i gerbydau fod o dan 5 oed, o ddyddiad y cofrestriad cyntaf pan gânt eu trwyddedu gyntaf. Gellir trwyddedu cerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn hyd at 8 oed o ddyddiad y cofrestriad cyntaf. Mae'n debygol y bydd angen ardystiad ychwanegol ar unrhyw gerbydau sydd wedi'u haddasu / eu newid ers eu gweithgynhyrchu, yn aml Cymeradwyaeth Cerbyd Unigol.
Gwneud cais ar-lein
Fel rhan o’r broses ymgeisio, bydd gofyn i ymgeiswyr ddarparu:
- Tystiolaeth o Berchnogaeth (Bil Gwerthiant) Cerbydau Newydd
- Llyfr Log Cerbydau (V5)
- Tystysgrif MOT (* Gweler y trefniadau profi)
- Yswiriant ar gyfer Llogi â Thâl (Hurio Cyhoeddus neu Breifat)
- Tystysgrif Mesurydd (Cerbydau Hacni yn unig) (Link to current tariff of fares)
- Tystysgrif LOLER (cerbydau hygyrch i gadeiriau olwyn, os yw'n berthnasol)
Os nad oes gennych chi drwydded yrru Cerbyd Hacni / Cerbyd Hurio Preifat gyda’r awdurdod hwn, mae angen Gwiriad Sylfaenol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer pob perchennog cerbyd neu gyfarwyddwr (os yw’r ymgeisydd yn Gwmni Cyfyngedig)
* Trefniadau Profi – Wrth gyflwyno cais, bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno Tystysgrif MOT newydd o Orsaf Brofi MOT annibynnol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Sylwch na ddylai fod gennych unrhyw ddiddordeb busnes yn yr orsaf MOT a ddefnyddir
Ar ôl cyflwyno cais, bydd Swyddog Trwyddedu yn cysylltu â chi at ddibenion cynnal prawf cydymffurfiaeth yn Swyddfeydd y Cyngor, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, CF82 7FN.
Bydd y Prawf Cydymffurfiaeth yn cynnwys archwiliad gweledol o Fesurydd Tacsi/Cromen To (Cerbydau Hacni yn unig), Diffoddwr Tân, Pecyn Cymorth Cyntaf, cyflwr/glendid y Seddi a'r Llawr, Cyflwr y Trim Mewnol, Cyflwr/Glendid y Corff a'r Paent , Cloeon Drws a Ffenestri, Ardal bagiau yn ddiogel, Olwyn Sbâr a Jac/Brês, Golau Mewnol, Arwyddion neu hysbysebion cerbydau, presenoldeb platiau trwydded cerbyd.
Ar gyfer cerbydau sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn yn unig, rhaid i'r cerbyd gael ei gyflwyno wedi'i osod i gludo cadeiriau olwyn, rhaid i'r gyrrwr ddangos y lifft cynffon a/neu ramp a'r ataliadau cadair olwyn a meddu ar Dystysgrif LOLER gyfredol.