Rhestrau o ddogfennau derbyniol 

Rhestrau o ddogfennau derbyniol ar gyfer gwirio â llaw yr hawl i weithio. 

Lle mae gwirio’r hawl i weithio wedi'i gynnal gan ddefnyddio'r gwasanaeth gwirio’r hawl i weithio ar-lein, mae'r wybodaeth yn cael ei darparu mewn amser real yn uniongyrchol o systemau'r Swyddfa Gartref ac nid oes unrhyw ofyniad i wirio unrhyw un o'r dogfennau wedi'u rhestru isod.

Rhestr A

  1. Pasbort (cyfredol neu wedi dod i ben) sy'n dangos bod y deiliad yn ddinesydd Prydeinig o’r Deynas Unedig a threfedigaethau Prydeinig sydd â’r hawl i breswylio yn y DU.

  2. Pasbort neu gerdyn pasbort (yn y naill achos neu'r llall, boed yn gyfredol neu wedi dod i ben) sy'n dangos bod y deiliad yn ddinesydd o Iwerddon.

  3. Dogfen wedi'i chyhoeddi gan Feilïaeth Jersey, Beilïaeth Guernsey neu Ynys Manaw, y mae Gwasanaeth Gwirio Cyflogwyr y Swyddfa Gartref wedi cadarnhau ei bod yn ddilys, sy’n dangos bod y deiliad wedi cael caniatâd diderfyn i ddod i mewn neu i aros o dan Atodiad UE(J) i Reolau Mewnfudo Jersey, Atodiad yr UE i Reolau Mewnfudo (Beilïaeth Guernsey) 2008 neu Atodiad yr UE i Reolau Mewnfudo Ynys Manaw.

  4. Pasbort cyfredol wedi'i gymeradwyo i ddangos bod y deiliad wedi'i eithrio rhag rheolaeth fewnfudo, yn cael aros yn y DU am gyfnod amhenodol, bod ganddo’r hawl i breswylio yn y DU, neu nad oes ganddo unrhyw derfyn amser ar ei arhosiad yn y DU.

  5. Dogfen Statws Mewnfudo wedi'i chyhoeddi gan y Swyddfa Gartref i'r deiliad gyda chymeradwyaeth sy'n nodi bod y person dan sylw yn cael aros am gyfnod amhenodol yn y DU neu nad oes terfyn amser ar ei arhosiad yn y DU, ynghyd â dogfen swyddogol sy'n rhoi rhif Yswiriant Gwladol parhaol y person a'i enw wedi'i chyhoeddi gan asiantaeth y Llywodraeth neu gyflogwr blaenorol.

  6. Tystysgrif geni neu fabwysiadu (byr neu hir) wedi'i chyhoeddi yn y DU, ynghyd â dogfen swyddogol sy'n rhoi rhif Yswiriant Gwladol parhaol y person a'i enw wedi'i chyhoeddi gan asiantaeth y Llywodraeth neu gyflogwr blaenorol.

  7. Tystysgrif geni neu fabwysiadu wedi'i chyhoeddi yn Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Iwerddon, ynghyd â dogfen swyddogol sy'n rhoi rhif Yswiriant Gwladol parhaol y person a'i enw wedi'i chyhoeddi gan asiantaeth y Llywodraeth neu gyflogwr blaenorol.

  8. Tystysgrif gofrestru neu frodori yn ddinasydd o Brydain, ynghyd â dogfen swyddogol sy'n rhoi rhif Yswiriant Gwladol parhaol y person a'i enw wedi'i chyhoeddi gan asiantaeth y Llywodraeth neu gyflogwr blaenorol.

Rhestr B grŵp 1

  1. Pasbort cyfredol wedi'i gymeradwyo i ddangos bod y deiliad yn cael aros yn y DU a'i fod, ar hyn o bryd, yn cael gwneud y math o waith dan sylw.

  2. Dogfen wedi'i chyhoeddi gan Feilïaeth Jersey, Beilïaeth Guernsey neu Ynys Manaw, y mae Gwasanaeth Gwirio Cyflogwyr y Swyddfa Gartref wedi cadarnhau ei bod yn ddilys, sy’n dangos bod y deiliad wedi cael caniatâd diderfyn i ddod i mewn neu i aros o dan Atodiad EU(J) i Reolau Mewnfudo Jersey, Atodiad yr UE i Reolau Mewnfudo (Beilïaeth Guernsey) 2008 neu Atodiad yr UE i Reolau Mewnfudo Ynys Manaw.

  3. Dogfen Statws Mewnfudo gyfredol sy'n cynnwys ffotograff wedi'i rhoi gan y Swyddfa Gartref i’r deiliad gydag ardystiad sy’n dangos bod gan y person dan sylw yr hawl i aros yn y DU a bod caniatâd iddo wneud y math o waith dan sylw, ynghyd â dogfen swyddogol sy’n rhoi rhif Yswiriant Gwladol parhaol y person a’i enw wedi'i rhoi gan asiantaeth y Llywodraeth neu gyflogwr blaenorol.

Rhestr B grŵp 2

  1. Dogfen wedi'i chyhoeddi gan y Swyddfa Gartref sy'n dangos bod y deiliad wedi gwneud cais am ganiatâd i ddod mewn neu i aros o dan Atodiad yr UE i reolau mewnfudo (Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE) ar 30 Mehefin 2021 neu'n gynt, ynghyd â Hysbysiad Gwirio Cadarnhaol gan Wasanaeth Gwirio Cyflogwyr y Swyddfa Gartref.

  2. Tystysgrif Cais (nad yw’n ddigidol) wedi’i gyhoeddi gan y Swyddfa Gartref yn dangos bod y deiliad wedi gwneud cais am ganiatâd i ddod i mewn neu i aros o dan Atodiad yr UE i’r rheolau mewnfudo (a elwir yn Gynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE), ar neu ar ôl 1 Gorffennaf 2021, ynghyd â Hysbysiad Dilysu Cadarnhaol gan Wasanaeth Gwirio Cyflogwyr y Swyddfa Gartref.

  3. Dogfen wedi'i chyhoeddi gan Feilïaeth Jersey neu Feilïaeth Guernsey, sy'n dangos bod y deiliad wedi gwneud cais i gael caniatâd i ddod neu i aros o dan Atodiad yr UE i  Reolau Mewnfudo Jersey neu Atodiad yr UE i Reolau Mewnfudo (Beilïaeth Guernsey) 2008 ar 30 Mehefin 2021 neu'n gynt, ynghyd â Hysbysiad Dilysu Cadarnhaol gan Wasanaeth Gwirio Cyflogwyr y Swyddfa Gartref.

  4. Cerdyn Cofrestru Cais wedi'i gyhoeddi gan y Swyddfa Gartref sy'n nodi bod gan y deiliad yr hawl i gael y gyflogaeth dan sylw, ynghyd â Hysbysiad Dilysu Cadarnhaol gan Wasanaeth Gwirio Cyflogwyr y Swyddfa Gartref.

  5. Hysbysiad Dilysu Cadarnhaol wedi'i gyhoeddi gan Wasanaeth Gwirio Cyflogwyr y Swyddfa Gartref i’r cyflogwr neu ddarpar gyflogwr, sy’n nodi y gall y person dan sylw aros yn y DU a gwneud y gwaith dan sylw.