Tystysgrifau diogelwch ar gyfer meysydd chwaraeon
Mae dau fath o dystysgrif, sef Tystysgrif Diogelwch Gyffredinol a Thystysgrif Diogelwch Arbennig.
Tystysgrif Diogelwch Gyffredinol
Rhaid ichi fod â Thystysgrif Diogelwch Gyffredinol os ydych yn gweithredu:
- Maes chwaraeon neu stadiwm lle cynhelir digwyddiadau chwaraeon dynodedig ac sy’n darparu lle i fwy na 10,000 o wylwyr neu, yn achos Uwch-gynghrair neu Gynghrair Pêl-droed Lloegr, 5,000 o wylwyr
- Eisteddle ar unrhyw faes chwaraeon neu mewn unrhyw stadiwm sy’n darparu lle dan do i 500 neu ragor o wylwyr nad yw wedi’i gynnwys eisoes ar faes chwaraeon/stadiwm dynodedig fel uchod. Eisteddle a Reoleiddir yw’r enw ar hwn
Tystysgrif Diogelwch Arbennig
Rhaid ichi fod â Thystysgrif Diogelwch Arbennig i ddefnyddio maes chwaraeon ar gyfer gweithgaredd neu weithgareddau penodedig ar achlysur neu achlysuron penodedig os nad yw’r gweithgaredd neu weithgareddau wedi’u cynnwys yn y Dystysgrif Diogelwch Gyffredinol.
Pwy all wneud cais am dystysgrif diogelwch?
Rhaid ichi fod yn berson o gymeriad da sydd wedi’i awdurdodi i gynrychioli’r maes chwaraeon/stadiwm.
Yn achos Tystysgrif Diogelwch Arbennig, gall hyrwyddwr y digwyddiad wneud cais.
Sut ydw i’n gwneud cais?
Gelir gwneud ceisiadau ar lein.
Cais am Dystysgrif Diogelwch Gyffredinol ar gyfer Eisteddle a Reoleiddir
Cais i newid Tystysgrif Diogelwch Gyffredinol ar gyfer Eisteddle a Reoleiddir
Cais am Dystysgrif Diogelwch Arbennig
Ffioedd
Cliciwch yma i weld rhestr lawn o’r ffioedd trwyddedau
Rhagor o wybodaeth a chyfarwyddyd
Canllaw i Ddiogelwch ar Feysydd Chwaraeon (PDF)