Ffurflenni a chanllawiau trwydded mangre
Mae ffurflenni cais a nodiadau cyfarwyddyd y Ddeddf Trwyddedu ar gael i’w lawrlwytho isod.
Rhaid cyflwyno’r ffurflenni drwy’r post neu’n bersonol i’r Awdurdod Trwyddedu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed. CF82 7PG.
Mae Deddf Trwyddedu 2003 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gopïau o rai ceisiadau gael eu hanfon at restr o Awdurdodau Cyfrifol. Mae’r awdurdodau cyfrifol hyn yn cynnwys yr heddlu, yr awdurdod cynllunio, yr awdurdod tân a safonau masnach.
Gwneud cais ar lein: Cofiwch y gallwch hefyd wneud cais ar lein am drwyddedau mangre ar wefan GOV.UK.
Ewch i’r adran trwydded mangre a chewch hyd i’r dolenni o dan y pennawd 'Sut i wneud cais'. Os ydych yn gwneud cais ar lein, yr Awdurdod Trwyddedu, nid yr ymgeisydd, sy’n gyfrifol am anfon copïau at yr Awdurdodau Cyfrifol perthnasol.
Digwyddiadau dros dro
Mae ffurflenni a chanllawiau ynghylch digwyddiadau dros dro ar gael yn yr adran cynllunio digwyddiad.
Cais newydd
Ffurflen gais am roi trwydded mangre newydd (PDF 180kb)
Goruchwyliwr Mangre Dynodedig – ffurflen cydsynio i’r enwebu (PDF 95kb)
Canllawiau i ymgeiswyr – rhoi trwydded mangre newydd (PDF 143kb)
Templed hysbysiad ar gyfer ceisiadau newydd (PDF 26kb)
Cais i amrywio
Hysbysiad: Mae’r cais i amrywio trwydded mangre i enwi unigolyn fel y goruchwyliwr mangre dynodedig o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 yn gofyn i’r trwyddedai roi copi o’r ffurflen i’r goruchwyliwr mangre presennol. Mae’r ffurflen wedi’i llenwi’n cynnwys gwybodaeth bersonol am y goruchwyliwr newydd arfaethedig a byddai rhannu’r wybodaeth hon yn groes i Ddeddf Diogelu Data 1998. Mae’n ddigonol i’r trwyddedai roi gwybod i’r Goruchwyliwr bod y cais wedi cael ei wneud, heb yr angen i rannu manylion penodol y cais. Rhaid o hyd anfon copi llawn o’r ffurflen gais at yr heddlu. Caiff y ffurflen ei diwygio trwy reoliadau cyn gynted ag y bo modd er mwyn gwneud hyn yn glir.
Ffurflen gais i amrywio trwydded mangre (PDF 178kb)
Canllawiau i ymgeiswyr – amrywio trwydded mangre (PDF 143kb)
Templed hysbysiad ar gyfer ceisiadau i amrywio (PDF 107kb)
Mân amrywiad
Ffurflen gais i amrywio trwydded mangre (PDF 129kb)
Canllawiau i ymgeiswyr – amrywio trwydded mangre (PDF 104kb)
Templed hysbysiad ar gyfer ceisiadau i amrywio (PDF 14kb)
Datganiad dros dro
Ffurflen gais datganiad dros dro trwydded mangre (PDF 180kb)
Trosglwyddo
Ffurflen gais i drosglwyddo trwydded mangre (PDF 121kb)
Ffurflen gydsyniad deiliad y drwydded i drosglwyddo (PDF 91kb)
Canllawiau i ymgeiswyr - trosglwyddo (PDF 143kb)
Amrywio goruchwyliwr mangre dynodedig
Ffurflen gais trwydded mangre amrywio goruchwyliwr mangre dynodedig (PDF 106kb)
Goruchwyliwr mangre dynodedig – ffurflen cydsynio i’r enwebu (PDF 95kb)
Goruchwyliwr mangre dynodedig – canllawiau (PDF 95kb)
Adolygu
Ffurflen gais i adolygu trwydded mangre (PDF 119kb)
Nodiadau cyfarwyddyd adolygu trwydded mangre (PDF 96kb)