Trwydded bridio cŵn

Mae angen i unrhyw berson sy’n cadw sefydliad bridio cŵn fod â thrwydded o dan Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014.

Mae’r rheoliadau’n datgan bod angen Trwydded Bridio Cŵn lle bo’r person yn cadw 3 neu ragor o eist bridio ac:

  • Yn bridio 3 neu ragor o dorllwythi o gŵn bach mewn unrhyw gyfnod o 12 mis NEU
  • Yn hysbysebu ar werth 3 neu ragor o dorllwythi o gŵn bach yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis NEU
  • Yn cyflenwi cŵn bach a anwyd o 3 neu ragor o dorllwythi o gŵn bach yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis NEU
  • Yn hysbysebu busnes o fridio neu o werthu cŵn bach o’r fangre honno.

Ystyr gast fridio yw gast heb ei hysbaddu, nad yw’n iau na 6 mis oed.

Mae angen y drwydded pa un a yw’r gweithgarwch er elw masnachol ai peidio.

Er mwyn cael y drwydded, yn gyntaf mae’n rhaid ichi gyflwyno ffurflen gais a Chynllun Gwella a Chyfoethogi a Chynllun Cymdeithasoli ysgrifenedig ynghyd ag adroddiad oddi wrth filfeddyg yn cadarnhau bod y geist bridio a’r cŵn magu yn addas i’w defnyddio yn y sefydliad bridio. Dylid anfon y rhain, ynghyd â’r ffi ofynnol, at yr adran drwyddedu. Os ydych eisiau cyflwyno’r rhain yn bersonol, bydd angen apwyntiad. 

Mae’n bosibl y byddwch eisiau gofyn am gyngor gan eich milfeddyg eich hun neu berson arall â chymwysterau priodol wrth gwblhau’r rhaglenni hyn. Fel arall, mae’n bosibl y bydd y dolenni isod yn eich helpu i gwblhau’r rhaglenni hyn.

Bydd pob mangre newydd yn cael ei harchwilio hefyd gan Ymarferydd Milfeddygol cymeradwy’r Awdurdod, y codir ffi ychwanegol amdano, a chan un o swyddogion yr Awdurdod, er mwyn sicrhau bod y llety’n addas; y trefniadau ar gyfer sicrhau bod y cŵn yn cael digon o fwyd, diod a gwasarn, ac amserlen ar gyfer ymweld â’r cŵn a’u hymarfer o fewn ysbeidiau priodol. Hefyd rhaid bod rhagofalon boddhaol ar waith i atal a rheoli lledaeniad clefydau ymysg y cŵn, a bod y cŵn yn cael eu diogelu os oes tân neu argyfwng arall. 

Bydd yn ofynnol i’r sawl sy’n gwneud cais i adnewyddu trwydded ei gyflwyno ynghyd ag Adroddiad Iechyd a Lles sydd wedi’i lunio gan ei filfeddyg ei hun. Rhaid i’r adroddiad hwn fod wedi’i ddyddio dim mwy na 3 mis cyn dechrau’r drwydded.

Sylwch, os nad ydych chi'n bodloni’r gofynion ar gyfer Trwydded Bridio Cŵn fel sy'n cael eu nodi uchod, efallai y bydd angen trwydded arnoch chi o hyd os ydych chi'n bridio cŵn bach ac yn gwerthu’r cŵn bach dilynol fel anifeiliaid anwes (neu gyda’r bwriad iddyn nhw ddod yn anifeiliaid anwes).  Darllenwch yr wybodaeth sydd yn yr adran ynghylch Gwerthu Anifeiliaid fel Anifeiliaid Anwes a/neu gysylltu â'r Isadran Trwyddedu am ragor o wybodaeth ac i drafod eich amgylchiadau.

Ffurflenni a dogfennau cysylltiedig

Ffurflen gais (PDF)

Amodau’r drwydded (PDF)

Cynllun Amgylchedd a Chyfoethogi (PDF)

Cynllun Cymdeithasoli (PDF)

Ffioedd trwyddedau

Hysbysiadau preifatrwydd - Ceisiadau am drwyddedau/cofrestriadau a roddwyd mewn perthynas â chadw anifeiliaid (PDF)

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch lles anifeiliaid mewn sefydliad bridio neu’n amau bod rhywun yn bridio heb drwydded.

Cysylltwch â ni

Elsewhere on the web

RSPCA | Cariad Campaign | The Blue Cross For Pets