Dan-y-Graig
- Tir wedi’i leoli yn Dan-y-Graig, Rhisga, Casnewydd NP11 6DR – 0.75 erw
- Cymysgedd o goetir amaethyddol a man agored.
- Yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd fel man agored cyhoeddus anffurfiol, mae’r tir hwn yn cynnig cyfle unigryw i gael effaith gadarnhaol ar eich cymuned.
Cyfle cyffrous yn ymwneud â Throsglwyddo Asedau Cymunedol
Dan-y-Graig. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn llawn cyffro i gynnig cyfle unigryw yn ymwneud â Throsglwyddo Asedau Cymunedol i brydlesu a rheoli tir yn Dan-y-Graig, Rhisga.
Beth sydd ar gael?
- Lleoliad: Tir o’r enw Dan-y-Graig wedi’i nodi ar y cynllun.
- Telerau hyblyg: Cytundebau prydlesu wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion eich prosiect.
- Cymorth cynhwysfawr: Arweiniad a chymorth drwy gydol y broses ymgeisio a datblygu.
Yr hyn rydyn ni’n edrych amdano
- Grwpiau/sefydliadau cymunedol: Yn barod i gydweithio a throi eich gweledigaeth yn realiti.
- Cynigion: Dylai eich Datganiad o Ddiddordeb amlygu manteision eich prosiect i’r gymuned.
- Ymrwymiad: Parodrwydd i reoli a chynnal yr ased.
- Cydweithio: Rydyn ni’n chwilio am grwpiau lleol i sicrhau’r defnydd gorau posibl o’r gofod.
- Grymuso: Cymryd cyfrifoldeb am reoli ac uwchraddio adnodd cymunedol.
Sut i wneud cais
Cysylltu â ni:
Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eich cymuned. Mynegwch eich diddordeb heddiw!