Hafod Deg
- 55 Y Stryd Fawr, Rhymni NP22 5LP
- Arwynebedd mewnol gros tua 314.6m²
- Adeilad deulawr wedi'i rendro o dan do llechi ar oleddf a tho gwastad bach.
Cyfle cyffrous yn ymwneud â Throsglwyddo Asedau Cymunedol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn llawn cyffro i gynnig cyfle unigryw yn ymwneud â Throsglwyddo Asedau Cymunedol i grwpiau cymunedol brydlesu a rheoli safle Hafod Deg. Rydyn ni’n chwilio am gynigion arloesol a fydd yn dod â manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i’n hardal leol.
Beth sydd ar gael?
- Lleoliad: Hafod Deg, Rhymni
- Telerau hyblyg: Cytundebau prydles wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion eich prosiect.
- Cymorth cynhwysfawr: Arweiniad a chymorth trwy gydol y broses ymgeisio a datblygu.
Yr hyn rydyn ni’n edrych amdano
- Grwpiau/sefydliadau cymunedol: Yn barod i gydweithio a throi eich gweledigaeth yn realiti.
- Cynigion: Dylai eich Datganiad o Ddiddordeb amlygu manteision eich prosiect i'r gymuned.
- Ymrwymiad: Parodrwydd i reoli a chynnal yr ased.
- Cydweithio: Rydyn ni’n chwilio am grwpiau lleol i sicrhau’r defnydd gorau posibl o’r gofod.
- Grymuso: Cymryd cyfrifoldeb am reoli ac uwchraddio adnodd cymunedol.
Sut i wneud cais
Cysylltu â ni:
Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eich cymuned. Mynegwch eich diddordeb heddiw!