Clefydau heintus
Mae ein swyddogion wrth law i ddelio ag ymholiadau yn gysylltiedig â chlefydau trosglwyddadwy. P’un ai’n achos unigol neu’n achos a allai fod wedi digwydd o ganlyniad i ddigwyddiad megis pryd neu fwffe parti priodas, bydd ein swyddogion yn ymchwilio i’r achos ac yn rhoi cyngor neu'n cymryd y camau priodol i atal achosion pellach.
Y rheiny sy’n trin bwyd
Pe bai rhai gweithwyr fel y rheiny sy’n trin bwyd neu weithwyr gofal yn cael eu heintio gyda chlefyd trosglwyddadwy, gallai fod angen iddynt fod i ffwrdd o'r gwaith am gyfnod penodol, 48 awr ar ôl i'r symptomau ddod i ben fel arfer. Dylech ofyn i’ch cyflogwr a'ch meddyg cyn dychwelyd.
Os ydych yn trin bwyd mae gennych gyfrifoldeb i sicrhau eich bod yn paratoi, coginio a gweini bwyd mewn ffordd hylan.
Wrth drin bwyd gallwch basio germau ymlaen ac er mwyn atal hyn rhaid i chi:
- Olchi eich dwylo bob amser
- Dweud wrth y rheolwr os nad ydych yn teimlo’n dda
Golchi eich dwylo'n drylwyr gyda dŵr cynnes a sebon bob amser:
- Ar ôl defnyddio’r tŷ bach, gartref neu yn y gwaith
- Cyn dechrau gwaith, ac ar ôl egwyl
- Ar ôl trin bwyd amrwd
- Ar ôl trin sbwriel, A
- Sychu eich dwylo ar ôl i chi eu golchi
Dweud wrth eich rheolwr os ydy'r canlynol yn wir:
- Rydych wedi bod yn sâl (chwydu)
- Mae’r dolur rhydd arnoch
- Mae gennych friwiau (coch, wedi chwyddo, gyda chrawn)
- Rydych yn teimlo’n sâl
- Rydych wedi bod yn teimlo’n sâl ar eich gwyliau
- Mae gan rywun yn eich cartref salwch neu'r dolur rhydd
Symptomau
Mae gan bob clefyd ei gyfres unigryw o nodweddion. Dyma rai o’r cyfryngau heintus mwyaf cyffredin.
Salmonella (PDF 23kb)
Campylobacter (PDF 24kb)
E.Coli 0157 (PDF 24kb)
Gwenwyn Bwyd (PDF 30kb)
Giardia (PDF 23kb)
Cryptosporidiwm (PDF 24kb)
Hepatitis-A (PDF 23kb)
Hepatitis-E (PDF 23kb)
Gastroenteritis Firaol (PDF 24kb)
Shigella (PDF)
Os oes gennych symptomau fel y dolur rhydd a chwydu cyson, y cam cyntaf yw cysylltu â'ch meddyg am apwyntiad a gofyn iddo gymryd sampl ysgarthol.
Os ydych yn eithaf siŵr o ffynhonnell eich salwch cysylltwch â ni ar unwaith oherwydd bydd angen i ni ddechrau ymchwilio i'r posibiliad o achos. Yna bydd swyddog yn cysylltu â chi dros y ffôn neu drwy lythyr i ofyn ychydig o gwestiynau ynghylch yr hyn yr ydych wedi'i fwyta a lle rydych wedi bod yn ddiweddar.