Eiddo sydd wedi'i eithrio
Mae rhywfaint o eiddo wedi’i eithrio rhag talu ardrethi busnes. Ni fydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cynnwys eiddo wedi’i eithrio ar y rhestr ardrethu lleol. Dyma’r eithriadau mwyaf cyffredin:
- Tir ac adeiladau amaethyddol (e.e. tir âr, dôl neu bori; adeiladau a ddefnyddir ar y cyd â gweithrediadau amaethyddol ar y tir, a chadw a bridio da byw)
- Ffermydd pysgod
- Hawliau pysgota (lle mae’r rhain yn arferadwy mewn pysgodfa a reoleiddir gan ddeddfwriaeth benodol)
- Mannau addoli crefyddol (lle mae'r rhain yn berchen i Eglwys Lloegr neu’r Eglwys yng Nghymru) Am grefyddau eraill, mae’n rhaid i’r eiddo dan sylw fod wedi’i ardystio o dan Ddeddf Cofrestru Mannau Addoli 1855. Mae’r eithriad hwn yn cynnwys neuaddau eglwys ac adeiladau tebyg, ar yr amod y cânt eu defnyddio ar y cyd â man addoli crefyddol cyhoeddus)
- Carthffosydd ac ategolion (h.y. draeniau, carthffosydd, tyllau archwilio, siafftiau awyru, gorsafoedd pwmpio a phympiau). Nid yw’r eithriad yn gymwys i ffermydd carthffosiaeth na gweithfeydd gwaredu carthffosiaeth)
- Eiddo awdurdodau draenio (h.y. strwythurau a ddefnyddir i reoli neu reoleiddio llif dŵr i mewn neu allan o gwrs dŵr prif afon)
- Parciau (ar yr amod eu bod dan reolaeth awdurdod perthnasol ac ar gael am ddim at ddefnydd digyfyngiad aelodau’r cyhoedd)
- Eiddo a ddefnyddir gan bobl anabl (h.y. eiddo sy’n darparu cyfleusterau ar gyfer lles, cyflogaeth a hyfforddiant unigolion anabl)
- Angorfeydd siglo (h.y. bwi wedi’i atodi i angor sy’n gorffwys o dan y dŵr)
Os ydych o’r farn y dylai eich eiddo chi fod wedi’i eithrio ac yr hoffech apelio yn erbyn penderfyniad i’w gynnwys ar y rhestr ardrethu, ewch i wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio neu cysylltwch â:
Prif Brisiwr Cymru a’r Swyddog Prisio
Ardrethi Annomestig Cymru Asiantaeth y Swyddfa Brisio Tŷ Rhodfa
Tŷ Glas Road
Llanisien
Caerdydd
CF14 5GR
Ffôn: 03000 505 505
E-bost: ratingwales@voa.gov.uk