Grant Datblygu TG Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU
Mae’r Grant Datblygu TG yn darparu cymorth ariannol wedi’i dargedu i fentrau newydd a phresennol ledled y Fwrdeistref Sirol i helpu busnesau gweithgynhyrchu bach a chanolig yng Nghymru i ddatblygu a thyfu i helpu sbarduno adferiad economaidd Cymru.
Nod y Grant Datblygu TG yw ffocws ar helpu mentrau i gyflawni eu huchelgeisiau busnes hirdymor drwy allbynnau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol mesuradwy a fydd yn ychwanegu gwerth at eu gweithrediadau drwy wella eu galluoedd cynhyrchu, gwasanaethu ac allbynnu.
Gwariant Prosiect Cymwys – pa fath o weithgaredd y mae'r Gronfa Datblygu Busnes yn ei gefnogi?
Mae'r canllaw canlynol yn cynnwys enghreifftiau o'r math o waith a gweithgareddau a allai gael cymorth gan y Gronfa. Bydd pob cais yn cael ei asesu gan swyddogion fesul achos i benderfynu ar waith sy’n gymwys. Bydd ymgeiswyr yn gallu gwneud cais am gymorth tuag at weithgaredd refeniw o dan “themâu” ariannu penodol. Gall eitemau cymwys gynnwys:
Thema: Datblygu Busnes (Refeniw)
Costau cymwys:
- Meddalwedd (gan gynnwys Trwyddedau)
- Dylunio Apiau
- Gwasanaethau TG a Seilwaith
Mae gwario anghymwys yn cynnwys:
NID yw’r eitemau canlynol yn gymwys i gael cymorth gan y Gronfa:
- Costau staff ar gyfer gweithwyr presennol
- Trethi
- Costau rhedeg arferol
- Cost prynu adeiladau, tir neu gerbydau
- Hurbrynu/prydlesu
- Mân atgyweiriadau a chostau rhedeg cyffredinol (gan gynnwys treuliau cyfleustodau)
- Ffioedd wrth gefn
- Ffioedd cyfreithiol a chyfrifyddu
- Costau gwneud cais am ganiatâd statudol megis caniatâd cynllunio
- Gwaith sy'n digwydd cyn cynnig grant (oni bai ei fod wedi'i gymeradwyo'n ysgrifenedig gan y Cyngor)
- Unrhyw anfonebau wedi'u talu gan ddefnyddio arian parod/cerdyn credyd
- Cost gwaith sy'n cael ei wneud fel gofyniad statudol cyfreithiol
- Gwaith sy'n cael ei wneud ar eiddo domestig, naill ai adeilad newydd neu waith adnewyddu, estyniadau/ystafelloedd gardd/cabanau pren, addasu'n fusnes llety
Y Grant
Datblygu Busnesau (Refeniw) – Bydd y grant ar gyfer y thema hon yn uchafswm o 50% o gostau cymwys rhesymol, hyd at uchafswm grant o £7,500 heb gynnwys TAW (os yw'n berthnasol). Bydd pob cais yn cael ei ystyried ar sail ei amgylchiadau penodol.
Ymgeiswyr Cymwys – Pwy sy'n gallu gwneud cais?
Nod y Gronfa yw cynorthwyo amrywiaeth eang o fentrau a sefydliadau lleol sy’n ymwneud â gweithgarwch economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol buddiol.
Mae'r Gronfa'n agored i fusnesau presennol a busnesau newydd; mentrau micro, bach a chanolig; grwpiau cymunedol neu fentrau cymdeithasol sefydledig; unig fasnachwyr; partneriaethau; cwmnïau cyfyngedig; busnesau cymunedol, cwmnïau cydweithredol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.
Am rhagor o wybodaeth ac i ofyn am ffurflen gais e-bost busnes@caerffili.gov.uk