Cronfa Prosiectau Cymorth Busnes
Dyfarnwyd cyllid i ddeg darparwr lleol. Disgwylir i'r prosiect redeg o 1 Medi 2023 tan 31 Mawrth 2025, gyda gwariant Refeniw yn unig ar gael yn y flwyddyn ariannol hon. Gellir gwneud cais am ddyraniad Cyfalaf bach o fis Ebrill 2024, i gyd-fynd â thua 10% o'r gwariant Refeniw. Mae'r gronfa'n caniatáu ceisiadau hyd at £150,000 ac wedi'i chyfyngu i ardal De Cymru.
Allbynnau
- Nifer o entrepreneuriaid wedi cael cymorth i fod yn barod ar gyfer busnes
- Nifer o fusnesau yn cael cymorth ariannol heblaw am grantiau
- Nifer o fusnesau yn cael grantiau
- Nifer o fusnesau yn cael cymorth nad yw'n gymorth ariannol
Canlyniadau
- Swyddi a grëwyd
- Swyddi a ddiogelwyd
- Nifer o fusnesau newydd a grëwyd
- Nifer o fusnesau yn mabwysiadu technolegau neu brosesau sy'n newydd i'r cwmni
- Nifer cynyddol o fusnesau'n ymgysylltu â marchnadoedd newydd
- Nifer cynyddol o fusnesau â gwell cynhyrchiant
- Nifer o fusnesau yn cyflwyno cynhyrchion newydd i'r cwmni
I gael rhagor o wybodaeth a ffurflen gais, anfonwch neges e-bost i Busnes@caerffili.gov.uk
Prosiectau y dyfarnwyd iddynt o'r Gronfa Prosiectau Cymorth Busnes
Trefniadaeth
|
Prosiect
|
Disgrifiad
|
Wedi'u dyfarnu dros ddwy flyned
|
Canolfan Arloesi Menter Cymru
|
IGNITE Caerffili, Adfywio'r Stryd Fawr
|
Mae Canolfan Arloesi Menter Cymru, Town Square Spaces a Chlwb Busnes Caerffili wedi ymuno â'i gilydd i gynnig pecyn sy'n adfywio'r stryd fawr ledled Caerffili.
|
£150,000.00
|
Canolfan Arloesi Menter Cymru
|
Hwb Menter Caerffili
|
Mae'r Hwb yn cynnig Gweithle â Chymhorthdal ar gyfer busnesau cyn cychwyn, cymorth ar gyfer busnesau sefydledig, hyfforddiant a digwyddiadau, llwyfan dysgu digidol, cymorth pwrpasol, cysylltiadau cymunedol.
|
£165,000.00
|
Canolfan Arloesi Menter Cymru
|
Academi'r Ganolfan Arloesi Menter: clybiau 5-9 a Hacathonau
|
Rhaglenni hyfforddiant a chymorth entrepreneuriaeth wedi'u cynllunio i gynorthwyo darpar entrepreneuriaid, busnesau newydd yn y camau cynnar, a busnesau sefydledig. Yn cael eu darparu trwy glybiau 5-9.
|
£150,000.00
|
Cwmni Buddiannau Cymunedol Esports Cymru
|
Rhaglen llwybrau diwydiant Digidol a Chreadigol
|
Ehangu ein Rhaglen Llwybrau Diwydiant trwy ddarparu hyfforddiant, cyfleoedd rhwydweithio a chymorth busnes i bobl ifanc sydd am weithio yn y sectorau digidol neu greadigol.
|
£165,000.00
|
Business in Focus
|
Focus Futures
|
Gwasanaeth ymgysylltu cymunedol a chymorth busnes.
|
£149,110.76
|
CEMET
|
Rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin CEMET Caerffili
|
Cefnogi busnesau newydd, micro gwmnïau, BBaChau a mentrau cymdeithasol yng Nghaerffili trwy raglen 6-8 wythnos bwrpasol wedi'i hariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
|
£140,573.52
|
Town Square Spaces Ltd
|
Elevate Caerphilly
|
Nod y prosiect yw darparu cymorth targededig i gwmnïau cyn cychwyn, busnesau newydd a busnesau â photensial mawr o ran twf.
|
£139,233.00
|
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
|
Arwain a Thyfu Busnesau
|
Trefnir y prosiect o amgylch carfannau a fydd yn mynychu gweithdai, yn ysgrifennu aseiniadau, ac yn cynhyrchu Prosiect Twf Strategol yn seiliedig ar ofynion eu busnes.
|
£149,832.00
|
CWMPAS
|
Datblygu cyfoeth cymunedol yng Nghaerffili
|
Darparu cymorth busnes ac ymgynghoriaeth arbenigol a gweithgarwch ddatblygu'r farchnad i wella gallu Busnes Cymdeithasol Cymru o ran cyflawni a chefnogi busnesau cymdeithasol yng Nghaerffili i ddechrau a thyfu.
|
£122,130.00
|
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
|
Rhaglen Clean Growth Innovation Community
|
Bydd y rhaglen Clean Growth Innovation Community (CGIC) yn cefnogi busnesau a sefydliadau trydydd sector yng Nghaerffili, trwy Raglen Cymuned Ymarfer, i ddatblygu eu galluoedd o ran arloesedd a'r Economi Gylchol.
|
£82,816.00
|