Benthyciadau Eiddo Canol Trefi
Trawsnewid Trefi: cymorth i wella canol trefi
Gall Benthyciadau Eiddo Canol Trefi fod o fudd i berchnogion eiddo a busnesau lleol gan gyfrannu at fywiogrwydd a thwf canol y dref.
Mae benthyciadau di-log ar gael ar gyfer eiddo masnachol gwag neu eiddo masnachol nad yw'n cael ei ddefnyddio'n ddigonol yng nghanol trefi. Pwrpas y benthyciad yw gwella'r eiddo ar gyfer perchnogaeth barhaus, i'w werthu, i'w rentu neu i ddatgloi safle gwag neu segur. Gall gwelliannau gynnwys gwneud eiddo preswyl yn ddiogel, yn gynnes a/neu'n saff.
Mae benthyciadau’n amodol ar asesiad fforddiadwyedd, cynllun busnes cadarn a'r Cyngor yn cymhwyso'r pridiant cyfreithiol angenrheidiol. Efallai bydd costau gweinyddu; mae modd cael rhagor o wybodaeth yn ystod y cam cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb.
Gallwn ni ddarparu'r cymorth ac arweiniad i'ch cynorthwyo chi yn y broses.
Am rhagor o wybodaeth ac i ofyn am ffurflen gais e-bost busnes@caerffili.gov.uk.