Y broses asesu ar gyfer gofalyddion Cysylltu Bywydau

Mae Cysylltu Bywydau yn gynllun arobryn sy'n rhoi cyfle i unigolion gael eu cynorthwyo yng nghartrefi gofalwyr ac mewn cymunedau lleol. Mewn trefniant Cysylltu Bywydau, mae oedolyn sydd ag anghenion gofal neu gymorth yn cael ei baru â gofalwr addas. Mae gofalwyr yn rhannu eu cartref, eu teulu a'u bywyd cymunedol gyda'r unigolyn, gan roi cymorth i ddatblygu a chynnal sgiliau byw'n annibynnol, cyfeillgarwch a chysylltiadau yn ei ardal leol.

Mae gofalwyr Cysylltu Bywydau yn cael eu dewis yn ofalus, eu hasesu, eu hyfforddi a'u cynorthwyo gan y cynllun. Mae ein gofalwyr ni'n dod o bob cefndir ac maen nhw'n dewis gofalu am amrywiaeth eang o resymau. Maen nhw wedi’u huno trwy eu brwdfrydedd, eu hymrwymiad, a'u cymhelliant cadarnhaol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl. Mae hyblygrwydd Cysylltu Bywydau'n golygu bod gofalwyr yn gallu darparu cymorth i lawer o wahanol bobl mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd.

Mae'r cynllun yn hwyluso trefniadau ledled Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Mae Cysylltu Bywydau yn falch o fod wedi ennill llawer o wobrau, gan gynnwys:

  • Gwobrau We Care Wales
  • Sefydliad Iechyd y Byd – Arferion Gorau – Adferiad Iechyd Meddwl (dim ond 27 o wasanaethau sydd wedi’u cydnabod yn fyd-eang)
  • Gwobrau Iechyd Meddwl a Lles Cymru Ajuda – Unigolyn Ysbrydoledig (Aur) a'r Cynnyrch a Gwasanaeth Cymorth Iechyd Meddwl Gorau (Arian)
  • Cysylltu Bywydau a Mwy – Gwobr Arloesedd Cynllun a Gwobr Gofalwr y Flwyddyn â Chanmoliaeth Uchel gan y Beirniaid
  • Gwobr cydnabyddiaeth y GIG am weithio mewn partneriaeth.

Mae'r cynllun yn trefnu sawl math o drefniadau:

  • Tymor hir – Llety a chymorth parhaus yng nghartref y gofalwr, gyda'r cyfle i fod yn rhan o fywyd teuluol a chartref.
  • Seibiant –  Seibiannau byr gyda Gofalwr Cysylltu Bywydau, a'r cyfle i ddychwelyd at yr un gofalwr am seibiant rheolaidd.
  • Tymor byr – Trefniant dros gyfnod byrrach, er enghraifft, er mwyn eu hatal rhag gorfod mynd i'r ysbyty neu hwyluso’r cyfnod ar ôl gadael yr ysbyty i leoliad Cysylltu Bywydau am gyfnod o wella ac asesu cyn dychwelyd adref.
  • Cymorth sesiynol – Cymorth fesul awr gan ofalwr Cysylltu Bywydau yn ystod y dydd, gyda'r nos neu ar y penwythnos. Gall y cymorth ddigwydd yng nghartref y gofalwr neu yn y gymuned leol.
  • Argyfwng – Llety a chymorth sy'n cael eu darparu ar fyr rybudd.

Mae Cysylltu Bywydau yn cynnig dewis gwahanol gwirioneddol i fathau mwy traddodiadol o gymorth a llety ac, yn aml, mae'n cael ei ddewis gan ei fod yn seiliedig ar y teulu, wedi ei bersonoli i raddfa uchel, ac yn rhoi cyfle i bobl ddatblygu a chynnal eu hannibyniaeth, cyfeillgarwch, perthnasau a chysylltiadau o fewn eu cymunedau eu hunain.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, ffoniwch ni ar 01443 864784 i sgwrsio gyda gweithiwr ar ddyletswydd neu anfon e-bost i lleolioedolion@caerffili.gov.uk

Cysylltwch â ni