Canolfan Adnoddau'r Rhosyn Gwyn

Ffordd y Rhosyn Gwyn, Tredegar Newydd, ger Bargod, NP24 6DF.
Ffôn: 01443 837183
E-bost: Jayne.whiterose@banyancarehomes.net

Adroddiad Monitro Cytundeb

  • Enw/Cyfeiriad y darparwr: Canolfan Gofal y Rhosyn Gwyn, White Rose Way, Tredegar Newydd NP24 6DF
  • Dyddiad/Amser yr ymweliad: 11 Ebrill 2024
  • Swyddog/swyddogion ymweld: Caroline Roberts, Swyddog Monitro Contractau (SMC)
  • Yn bresennol: ayne Coburn, Rheolwr Cofrestredig y Cartref / Shah Seehootoorah, Unigolyn Cyfrifol

Cefndir

Mae Canolfan Gofal y Rhosyn Gwyn yn gartref pwrpasol yn Nhredegar Newydd sydd wedi'i gofrestru i ddarparu gofal preswyl i 32 o bobl 55 oed neu’n hŷn sydd angen gwasanaethau gofal personol gyda dementia/phroblemau iechyd meddwl neu heb ddementia/broblemau iechyd meddwl ac sydd angen gwasanaethau gofal personol.

Mae'r cartref yn eiddo i Banyan Care.

Mae'r Swyddog Monitro yn defnyddio amrywiaeth o systemau monitro i gasglu a dehongli data fel rhan o ymweliadau monitro, gan gynnwys arsylwi ar arferion yn y cartref, archwilio dogfennau a sgyrsiau â staff, defnyddwyr gwasanaeth a pherthnasau lle bo modd.

Yn dibynnu ar y canfyddiadau yn yr adroddiad, gellir rhoi camau unioni a datblygiadol i'r darparwr eu cwblhau. Camau unioni yw rhai y mae'n rhaid eu cwblhau (yn unol â'r ddeddfwriaeth); argymhellion arfer da yw camau datblygiadol.

Canlyniadau blaenorol

Camau unioni

I staff gael goruchwyliaeth amserol (dim llai na bob chwarter). Rheoliad 36, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) (2016). Amserlen: Ar unwaith ac yn barhaus – WEDI'I GYFLAWNI.

Adolygiadau o Gynlluniau Personol i ddangos tystiolaeth o gyfranogiad yr unigolyn/cynrychiolydd, cofnodion dyddiol ac ati. Rheoliad 15, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) (2016) Amserlen: Ar unwaith ac yn barhaus.

I ddisgrifiad swydd gael ei gadw ar ffeiliau staff unigol. Rheoliad 38, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) (2016) WEDI'I GYFLAWNI.

I gadw copi o dystysgrif geni aelod o staff ar ffeil. Rheoliad 59, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) (2016) WEDI'I GYFLAWNI.

Camau datblygiadol

I'r cartref ystyried ysgrifennu cynlluniau personol yn y person cyntaf – YN BARHAUS.

I'r staff sicrhau bod y derminoleg gywir yn cael ei throsglwyddo o Gynllun Gofal yr Awdurdod Lleol i Gynllun Personol y cartref. WEDI'I GYFLAWNI.

I'r cartref rannu unrhyw ganmoliaeth neu gwynion gyda'r Tîm Comisiynu. YN BARHAUS.

I'r Unigolyn Cyfrifol a Rheolwr y Cartref ystyried cyfuno'r cofnodion dyddiol i un cofnod. WEDI'I GYFLAWNI.

Canfyddiadau

Unigolyn Cyfrifol

Mae Mr Seehootoorah yn parhau i fod yn Unigolyn Cyfrifol ar gyfer Cartref y Rhosyn Gwyn a chartref arall ym Mlaenau Gwent.

Rhannwyd Datganiad o Ddiben y cartref gyda’r Swyddog Monitro a chafodd ei adolygu ym mis Medi 2023. Mae disgwyl i hyn gael ei adolygu'n flynyddol a'i ddiweddaru'n barhaus lle mae angen newidiadau. Er mwyn sicrhau tryloywder, dylai'r adroddiad gael ei ddyddio fel tystiolaeth pan gafodd ei adolygu ddiwethaf a dyddiad yr adolygiad presennol.

Y cynllun wrth gefn pe byddai'r Unigolyn Cyfrifol a'r Rheolwr Cofrestredig yn absennol ar yr un pryd fyddai cael cymorth gan Mrs Sheehootoorah a Mr R Sheehootoorah.

Mae'r Unigolyn Cyfrifol yn ymwneud yn helaeth â'r cartref, ac mae'n parhau i fod yn amlwg bod ganddo berthynas dda â'r preswylwyr sy'n byw yn y cartref.

Rheolwr Cofrestredig

Yn ystod y broses fonitro, gofynnwyd nifer o gwestiynau i Ms Colburn yn ymwneud â'r gwasanaeth. Cadarnhawyd mai dim ond cyfrifoldeb rheoli am y cartref sydd gan y Rheolwr Cofrestredig a'i bod wedi'i chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ac yn meddu ar gymhwyster NVQ perthnasol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae gan yr eiddo deledu cylch cyfyng ledled y cartref ond heb sain. Mae polisi teledu cylch cyfyng yn ei le ac mae arwyddion priodol yn cael eu harddangos.

Ar adeg yr ymweliad, nid oedd unrhyw broblemau gyda gwaith cynnal a chadw cyffredinol yr eiddo.

Gall unigolion sy'n byw yn y cartref newid y tymheredd yn eu hystafelloedd gan eu bod nhw’n cael eu rheoli'n unigol.

Pe bai digwyddiadau arwyddocaol yn digwydd, naill ai'n ymwneud â'r cartref ei hun neu'r unigolion sy'n byw yn y cartref, mae'n ofynnol i'r Rheolwr Cofrestredig (o fewn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) (2016)) anfon dogfennau Rheoliad 60 at Arolygiaeth Gofal Cymru, gan gopïo i mewn Tîm Comisiynu'r Awdurdod Lleol. Ar adeg yr ymweliad, nid oedd unrhyw hysbysiadau heb eu cwblhau.

Mae'r Rheolwr Cofrestredig yn teimlo ei bod yn cael cymorth gan yr Unigolyn Cyfrifol sy'n ymweld â'r cartref yn rheolaidd.

Gofynnwyd i'r Rheolwr Cofrestredig ynghylch cymhwyso'r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DOLs) a hysbyswyd y Swyddog Ymweld bod pob cais o'r fath yn gyfredol; fodd bynnag, mae ôl-groniad parhaus o asesiadau gyda'r Tîm DOLs.

Gwneir atgyfeiriadau at y meddyg teulu yn wythnosol mewn pryd ar gyfer eu rownd ward wythnosol. Dywedodd y Rheolwr Cofrestredig hefyd fod atgyfeiriad Therapi Lleferydd ac Iaith (SALT) wedi'i wneud a bod gan y cartref un atgyfeiriad Therapi Galwedigaethol yn weddill.

Dogfennaeth

Mae Care Vision yn parhau i gael ei ddefnyddio gan Banyan Care. Mae'r system yn hawdd ei defnyddio ac mae gan bob unigolyn sy'n byw yn y cartref ei ffeil electronig unigol ei hun.

Mae gan y system luniau o'r holl breswylwyr ac mae'n cadw Cynlluniau Personol, Asesiadau Risg yn ogystal â gwybodaeth bersonol fel pwysau, cymeriant bwyd a hylif, meddyginiaeth, gweithgareddau ac ati.

Yn ystod yr ymweliad monitro, edrychwyd ar ffeiliau dau breswylydd ac ar gofnodion a oedd yn nodi cyfranogiad unigolion neu deuluoedd yn y broses.

Yn flaenorol, awgrymwyd ysgrifennu cynlluniau personol yn y person cyntaf sy'n darparu agwedd fwy personol at y broses. Mae hyn yn parhau.

Roedd gwybodaeth o Gynlluniau Gofal yr Awdurdod Lleol wedi’i hadlewyrchu’n briodol yng Nghynlluniau Personol y cartref. Arsylwyd ar Asesiadau Risg ar gyfer cwympiadau, cleisio, diffyg hylif, ynysu cymdeithasol, wlserau pwyso, rheiliau gwely, ymddygiad ymosodol geiriol ac ati.

Mae Care Vision yn defnyddio system goleuadau traffig ar gyfer adolygiadau, sy'n dangos bod adolygiad yn hwyr. Os bydd adolygiad yn hwyr, mae'r faner goch yn ysgogiad i'r rheolwr sicrhau bod yr adolygiad yn cael ei gynnal mewn modd amserol.

Mae gan bob Uwch Ofalwr preswylwyr wedi'u neilltuo i sicrhau bod pob adolygiad yn cael ei gynnal ac mewn modd amserol. Pe bai baner goch yn hysbysu'r Rheolwr am adolygiad hwyr, bydd yn gwybod pwy yw’r Uwch Ofalydd cyfrifol. Gwelwyd bod y ddogfennaeth wedi cael ei hadolygu mewn modd amserol.

Roedd yn gadarnhaol nodi y gwelwyd bod y cofnodion dyddiol ar Care Vision yn fwy manwl ac yn cofnodi hwyliau’r unigolyn, cymeriant diet/hylif, gofal personol, gweithgareddau, cyflwr croen ac ati.

Gwelwyd cyfeiriadau at asiantaethau allanol priodol h.y. Tîm COVID-19, Meddyg Teulu, Awdioleg, Gweithiwr Cymdeithasol ac ati.

Mae cytundebau ar gyfer cysylltu â pherthnasau yn ystod argyfwng neu i gael gwybod am ddigwyddiadau yn cael eu cadw ar wahân ac yn cael eu storio mewn cabinet y gellir ei gloi yn swyddfa’r rheolwr.

Mae gweithgareddau lle mae cyfranogiad yr unigolyn yn cael ei gofnodi a chanlyniad y gweithgaredd yn cael ei ddogfennu.

Nid oedd gan y naill ffeil na'r llall hanes bywyd electronig; fodd bynnag, dywedodd y Rheolwr Cofrestredig bod y rhain yn cael eu cadw ar ffurf papur mewn ffeil ar wahân.

Arsylwyd ar gofnodion rhoi meddyginiaeth yn ystod yr ymweliad ac ni welwyd unrhyw bryderon.

Oherwydd dewis unigol, dim ond un ffeil oedd â chyfarwyddyd Na Cheisier Dadebru Cardio-anadlol (DNACPR).

Gweithgareddau

Mae'r cartref yn cyflogi cydlynydd gweithgareddau sy'n gweithio o 8:30 tan 15:00 bob dydd.

Yn ystod yr ymweliad, gwelwyd bod yr unigolion a oedd yn preswylio i fyny'r grisiau yn chwarae gêm gylch a gwelwyd chwerthin a gwenu, ac i lawr y grisiau, roedd y staff yn chwarae gêm chwilair gyda'r preswylwyr ac yn canu. Yn ddiweddarach y bore hwnnw, roedd gêm falŵn yn cael ei chwarae i lawr y grisiau ac, unwaith eto, gwelwyd gwenu a chwerthin, gydag anogaeth gan breswylwyr eraill nad oedden nhw'n cymryd rhan. Dywedodd un o’r preswylwyr wrth y Swyddog Ymweld “roedd yn dipyn o hwyl”.

Ymwelodd gwerthwr dillad â'r cartref yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw hefyd a gwelwyd llawer o weithgarwch, gyda'r preswylwyr yn dangos diddordeb yn y dillad a oedd ar gael.

Dangosodd y Rheolwr Cofrestredig y Swyddog Ymweld i'r salon gwallt/ewinedd newydd ei addurno. Gwelwyd ei fod yn olau ac wedi'i drefnu’n broffesiynol gyda gwahanol liwiau ewinedd i’w gweld. Mae'r holl offer trin gwallt proffesiynol ar gael, ac roedd yn amlwg bod gan staff y cartref falchder yn yr ystafell a'r pleser y mae'n ei roi i'r preswylwyr.

Mae gan y preswylwyr grŵp gweu a sgwrs ac, yn ddiweddar, cyflwynon nhw hetiau wedi'u gwau ar gyfer y babanod newydd-anedig yn yr uned babanod cynamserol leol.

Mae'r dynion yn y cartref yn mwynhau diwrnodau rygbi/pêl-droed gyda pheint, garddio, diwrnodau allan ac mae ganddyn nhw'r dewis i ymweld â'r salon a chael torri gwallt a/neu drin dwylo.

Mae bwrdd gweithgareddau yn cael ei arddangos sy'n amlygu pa weithgareddau fydd ar gael y diwrnod hwnnw.

Ar gyfer unigolion sy'n derbyn gofal yn y gwely, defnyddir RITA (Gweithgareddau Atgofion/Adsefydlu a Gweithgareddau Therapi Rhyngweithiol – sy'n rhan o offer sgrin gyffwrdd popeth-mewn-un, sy'n cynnig therapi hel atgofion digidol), tywod cinetig, gemau ac ati i gynnig ysgogiad.

Mae'r ardal synhwyraidd y tu allan yn parhau i gael ei fwynhau gan y preswylwyr pan fydd y tywydd yn caniatáu. Mae preswylwyr yn edrych ymlaen at dyfu eu llysiau eu hunain a phlannu blodau newydd.

Mae un unigolyn yn mwynhau chwarae cerddoriaeth ar ei Alexa a disgrifiodd ei hoff artist i wrando arno.

Mae cerddoriaeth yn cael ei chwarae ledled y cartref drwy Amazon Echo.

Mae’r cartref yn ddigon ffodus i gael ei fws mini ei hun i breswylwyr fwynhau teithiau undydd i ganolfannau siopa, teithiau glan môr ac ati.

Staffio a hyfforddiant

Mae'r cartref yn cael ei staffio gan 5 aelod o staff gofal ar sifft dydd, a 4 aelod o staff gofal gyda'r nos.

Nid yw'r cartref yn defnyddio staff asiantaeth ac mae ganddo dîm staff sefydlog.

Mae'r cartref yn defnyddio hyfforddiant yn yr ystafell ddosbarth ac yn defnyddio darpariaeth hyfforddiant electronig o'r enw Redcryer.

Ar ôl hyfforddiant staff, mae'n ofynnol i staff lenwi holiadur a chynhelir trafodaethau yn ystod cyfarfodydd misol a sesiynau goruchwylio wyneb yn wyneb. Mae sgiliau/gwybodaeth newydd a gafwyd o hyfforddiant yn cael sylw yn ystod eu harferion gwaith. Rhoddir cyfle i staff nodi unrhyw anghenion hyfforddi.

Nid oes unrhyw aelod o staff yn gweithio mwy na 48 awr yr wythnos.

Gweithredir y Cynnig Rhagweithiol gan fod gan y cartref staff sy'n siarad Cymraeg.

Yn ystod y broses fonitro, edrychwyd ar ddwy ffeil staff.

Canfuwyd bod y ddwy ffeil a arsylwyd yn cynnwys yr holl ddogfennaeth a gwybodaeth briodol, h.y. dau eirda ysgrifenedig, ffurflen gais fanwl, cofnodion cyfweliad a chontract cyflogaeth wedi’i lofnodi. Wrth edrych ar y ffurflenni cais, ni welwyd unrhyw fylchau gan fod yr ymgeiswyr wedi darparu'r manylion priodol.

Gwelwyd bod y ddwy ffeil yn cynnwys disgrifiad swydd, ffurflen gais fanwl, cofnod cyfweliad, heb unrhyw fylchau wedi'u nodi. Roedd contract cyflogaeth wedi'i lofnodi, copi o'r dystysgrif geni unigol a llun o'r aelodau staff.

Cedwir tystysgrifau hyfforddiant yn electronig, a darparwyd matrics hyfforddi’r cartref i’r Swyddog Monitro, a oedd yn dangos y cyrsiau hyfforddiant gorfodol gofynnol, ynghyd â chyrsiau nad ydyn nhw'n orfodol sy’n cynorthwyo i ddarparu gofal a chymorth.

Yn ystod yr ymweliad, ni welwyd unrhyw dystiolaeth bod y staff wedi ennill eu cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru; fodd bynnag, eglurwyd bod y ddau aelod o staff yn cadw eu llyfrau gwaith gan eu bod nhw’n gweithio tuag at y cymhwyster ar hyn o bryd.

Wrth edrych ar adroddiad diweddaraf Arolygiaeth Gofal Cymru, nodwyd bod angen i'r cartref gael ei oruchwylio mewn modd amserol (bob 3 mis). Wrth drafod y maes hwn gyda'r Unigolyn Cyfrifol, hysbyswyd y Swyddog Ymweld bod y Rheolwr Cofrestredig yn gweithio i wella hyn, a gwelwyd hyn wrth edrych ar y matrics goruchwylio.

Cynhelir goruchwyliaeth wyneb yn wyneb ac ar sail un-i-un. Mae gwaith yn parhau i gael ei wneud i sicrhau bod goruchwyliaeth amserol yn digwydd yn unol â'r rheoliadau (o leiaf bob tri mis).

Sicrhau ansawdd

Edrychodd y Swyddog Monitro ar 4 copi o Adroddiadau Monitro Ansawdd yr Unigolyn Cyfrifol. Gwelwyd bod pob adroddiad yn gynhwysfawr, gyda'r Unigolyn Cyfrifol yn adolygu amrywiaeth eang o feysydd, megis heintiau, briwiau pwyso, clwyfau/anafiadau, rheoli meddyginiaeth, cwynion, diogelu, Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid (LPS) ac ati. Mae'r ddau adroddiad yn amlinellu canfyddiadau'r Unigolyn Cyfrifol ac yn cofnodi meysydd arfer da a meysydd sydd angen eu gwella. Mae'r Unigolyn Cyfrifol hefyd yn arsylwi ar arferion, gweithgareddau ac yn cael adborth gan staff, preswylwyr, a pherthnasau/ymwelwyr. Ar ddiwedd pob adroddiad, mae'r Unigolyn Cyfrifol yn amlinellu'r gwelliannau a'r unigolyn neu unigolion sy'n gyfrifol am weithredu/goruchwylio'r newidiadau.

Mae'r Polisi a'r Gweithdrefnau sydd ar waith yn cael eu hadolygu'n flynyddol.

Cynhelir cyfarfodydd staff yn rheolaidd, a bu’r Swyddog Ymweld yn edrych ar y 5 set olaf o gofnodion. Mae’r cyfarfodydd yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, h.y. hyfforddiant, lleddfu pwysau, meddyginiaeth, llwyth gwaith, asesiadau risg, gwyliau blynyddol ac ati. Mae yna hefyd grŵp WhatsApp ar gyfer y bobl hŷn i gael unrhyw ddiweddariadau brys.

Cynhelir cyfarfodydd preswylwyr hefyd, a gwelodd y Swyddog Ymweld y 5 set olaf o gofnodion ar gyfer y cyfarfodydd. Estynnir gwahoddiadau i'r cyfarfodydd hefyd i'r perthnasau. Mae’r cyfarfodydd yn caniatáu i’r preswylwyr gael llais a rhannu gyda’r tîm staff eu dymuniadau a’u teimladau o ran y bwyd/bwydlen, dillad, eu hystafelloedd, gweithgareddau, teithiau undydd, beth maen nhw eisiau ei dyfu yn yr ardd ac ati.

Mae dau lyfr trosglwyddo sy’n cael eu cadw yn y cartref (un ar bob llawr), a darperir adborth ar ddiwedd pob sifft gan yr Uwch Ofalwr sydd ar ddyletswydd. Cynhelir cyfarfod trosglwyddo 10 munud ar ddechrau pob sifft a gall unrhyw bryderon gael eu cofnodi yn nodiadau Care Vision.

Roedd Rheolwr y Cartref yn gallu dweud pa wasanaeth eiriolaeth y byddai unigolyn yn ei ddefnyddio pe bai ei angen.

Cynnal a chadw'r cartref

Mae'r cartref yn parhau i gael ei gynorthwyo gan ddau weithiwr sy'n goruchwylio'r gwaith cynnal a chadw o ddydd i ddydd.

Mae Banyan Care yn parhau i wneud newidiadau i'r cartref, yn seiliedig ar anghenion a gofynion y preswylwyr. Yn flaenorol, gosodwyd campfa; fodd bynnag, oherwydd y diffyg defnydd, bwriedir newid yr ystafell yn lolfa ar gyfer y preswylwyr ac ymwelwyr.

Mae'r cartref wedi'i addurno i safon uchel sy'n golygu ei fod yn gartref oddi cartref.

Mae'r preswylwyr yn parhau i fwynhau'r ardd, gan blannu llysiau a phlanhigion er eu mwynhad.

Mae'r cartref hefyd yn parhau i annog cyfranogiad y gymuned leol drwy gynnal digwyddiadau arbennig i bawb eu mwynhau.

Profiad amser bwyd

Amser cinio, sylwyd bod y preswylwyr yn eistedd yn yr ystafell fwyta. Gosodir byrddau gyda llieiniau bwrdd, cyllyll a ffyrc, a darparwyd diodydd.

Gwelodd y Swyddog Ymweld ryngweithio da rhwng y staff gofal a staff y gegin. Cafwyd chwerthin a sgwrsio cyffredinol.

Roedd ardal y gegin yn lân ac yn daclus, gyda mannau storio ac oeri priodol. Cafodd y cartref ei arolygu ddiwethaf gan y Tîm Gwasanaethau Amgylcheddol ar 10 Tachwedd 2023 a chadwodd ei sgôr o 5.

Diogelwch tân/iechyd a diogelwch

Mae ymarferion tân yn cael eu cofnodi, ac ni chodwyd unrhyw bryderon.

Mae gwiriadau eraill a wneir gan dîm cynnal a chadw’r cartref yn cynnwys panel rheoli tân, seinio larymau, diffoddwyr tân, drws tân, bysellbad diffodd, allanfeydd tân. Gwelwyd bod y rhai a arsylwyd yn cael eu cynnal mewn modd amserol.

Gwelwyd Cynlluniau Personol Gadael mewn Argyfwng.

Cyllid preswylwyr

Mae gweinyddwr y cartref yn gyfrifol am lofnodi unrhyw arian sy'n mynd i mewn i gyfrifon y preswylwyr, ynghyd â'r unigolyn sy'n rhoi’r arian.

Yn ystod yr ymweliad, edrychodd y Swyddog Ymweld ar y daflen gofnodi ynghyd â'r derbynebau a gedwir.

Adborth staff, preswylwyr a theuluoedd

Cynhaliwyd sgwrs gydag aelod newydd o staff, a gofynnwyd amrywiaeth o gwestiynau. Eglurodd yr aelod o staff y byddai'n darparu dull sy'n canolbwyntio ar ofal pe bai'n gweld unigolyn yn cynhyrfu, a bod y dull gweithredu yn dibynnu ar yr unigolyn. Pe bai'n gweld rhywun wedi cynhyrfu, bydd yn ceisio penderfynu pam a chynnig sicrwydd.

Roedd y gofalwr yn gallu rhoi gwybodaeth i'r Swyddog Monitro am un o'r preswylwyr. Roedd yn amlwg bod y gofalwr yn gwybod llawer o wybodaeth am yr unigolyn a'r anawsterau cyfathrebu y mae'n eu hwynebu.

Dywedwyd wrth y Swyddog Monitro bod y gofalwr yn teimlo'n hyblyg yn ei rôl ac y gallai eistedd a siarad â'r preswylwyr. Yn ôl yr aelod o staff, mae'r cartref yn “teimlo fel teulu ac rydw i'n hoffi'r awyrgylch”.

Yn ystod y broses fonitro, siaradodd y Swyddog Monitro â nifer o breswylwyr gan gynnwys un unigolyn a fu'n hel atgofion am eu hamser yn gwneud gwasanaeth cenedlaethol, ei deulu, ac anifeiliaid anwes. Disgrifiodd preswylydd arall a oedd yn newydd i'r cartref pam ei fod wedi dechrau preswylio yn y cartref. Dywedodd yr unigolyn ei fod “wrth ei fodd” yn y cartref a disgrifiodd y cyfan fel “cyfeillgar ac mae gen i ystafell braf; rwy'n hapus”. Roedd yr unigolyn wedyn yn hapus i weld ei blant sy’n oedolion yn ymweld ag ef ac wedi eu cyflwyno i'r preswylwyr yn ardal y lolfa.

Treuliodd y Swyddog Ymweld amser gydag aelod o'r teulu a oedd yn ymweld, a dywedodd pa mor anodd oedd hi i wneud y penderfyniad i symud ei riant i'r cartref. Fodd bynnag, teimlodd ei fod yn gwybod mai'r cartref oedd y dewis cywir iddo.

Dywedodd y perthynas fod y cartref “bob amser yn hyfryd ac yn gyfeillgar”. Eglurodd y perthynas y gall ei berthynas fynd yn bryderus ond bod y cartref yn “odidog a chefnogol”.

Mae’r teulu’n teimlo eu bod nhw’n cael eu cynnwys a phe bai ganddyn nhw unrhyw bryderon neu gwynion, bydden nhw'n teimlo’n hyderus i’w codi hynny gyda’r Rheolwr neu’r Unigolyn Cyfrifol.

Pan ofynnwyd a oes unrhyw beth yr hoffai ei weld yn cael ei newid, dywedodd y perthynas “na”. Mae'r cartref yn darparu ansawdd bywyd da i'w riant ac mae'r staff yn gwneud eu gorau glas i wneud i'w riant deimlo'n gartrefol.

Camau unioni a datblygiadol

Camau unioni

Dim wedi'u nodi yn ystod yr ymweliad hwn.

Camau datblygiadol

I gynnwys dyddiadau adolygu ar y dogfennau polisi/gweithdrefnau ar gyfer tryloywder adolygu.

Dylai'r cartref rannu unrhyw adborth cadarnhaol gyda'r Awdurdod Lleol.

Casgliad

Yn ystod yr ymweliad, roedd yn braf gweld y preswylwyr yn mwynhau gweithgareddau, gyda llawer yn digwydd i’r preswylwyr ei fwynhau.

Gwelwyd digon o chwerthin a gwenu, sy'n dangos bod pobl yn hapus yn eu cartref a gyda'r cymorth y maen nhw'n ei gael.

Gwelwyd bod y rhyngweithio'n gadarnhaol, gyda'r Swyddog Ymweld yn arsylwi ar ryngweithio da rhwng y staff a'r preswylwyr, gyda'r staff hefyd yn dangos i'r Swyddog Ymweld fod ganddyn nhw wybodaeth dda am yr unigolion sy'n byw yn y cartref.

Mae'r Unigolyn Cyfrifol yn parhau i chwarae rhan weithredol yn y cartref, gan ymweld yn aml ac mae pob preswylydd yn gwybod amdano. Mae'n parhau i roi newidiadau ar waith a fydd yn gwella bywydau'r bobl sy'n byw yn y cartref ac yn gweithio mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol sydd hefyd yn ymwneud â gofalu am unigolion.

Mae Rheolwr y Cartref a'r Unigolyn Cyfrifol yn parhau i fod â pherthynas waith gadarnhaol sy'n dangos tystiolaeth o dîm rheoli cryf.

Hoffai'r Swyddog Monitro ddiolch i'r Unigolyn Cyfrifol, Rheolwr y Cartref, y staff a'r preswylwyr am eu lletygarwch yn ystod yr ymweliad.

  • Awdur: Caroline Roberts
  • Swydd: Swyddog Monitro Contractau
  • Dyddiad: 8 Mai 2024