Cartref Gofal Hill View

Y Stryd Fasnachol, Aberbargod, Bargod, CF81 9BU.
Ffôn: 01443 803493
E-bost: admin@hillviewcarehome.co.uk

Adroddiad Monitro Contract

  • Enw'r Darparwr: Cartref Gofal Hill View, Aberbargod
  • Dyddiad(au) yr Ymweliad: Dydd Mawrth 26 Mawrth 2024, 10am–3pm / Dydd Mawrth 4 Mehefin 2024, 11am–3.40pm.
  • Swyddog Ymweld: Andrea Crahart, Swyddog Monitro Contractau, Tîm Comisiynu Caerffili
  • Yn bresennol: Sarah Roach, Rheolwr Cofrestredig

Cefndir

Mae Cartref Gofal Hill View wedi'i leoli yn Aberbargod ac mae'n agos at amwynderau lleol (siopau, ysgolion, eglwysi ac ati). Mae'r cartref yn gallu darparu gofal a chymorth i 34 o bobl sydd ag anghenion preswyl a dementia ac, ar adeg yr ymweliad, roedd gan y cartref 1 gwely gwag.

Mae'r cartref yn fawr ac mae ar 3 lefel. Mae'r cartref yn ceisio rhoi pobl i fyw ar yr un llawr â phobl eraill sydd ar gam tebyg yn eu profiad o fyw gyda dementia, er mwyn lleihau unrhyw straen a brofir ac annog ymdeimlad o lesiant. Mae yna 3 ardal fwyta a 3 man cymunedol i breswylwyr eu defnyddio.

Mae lefelau staffio yn cynnwys 7 gofalwr, dirprwy reolwr a rheolwr cofrestredig, mam tŷ a 2 lanhawr yn ystod y dydd. Yn ystod y nos, mae 6 gofalwr gyda’r hwyr a 4 gofalwr rhwng 10.00 p.m. a 6.00 a.m. Mae dau aelod o staff y gegin, 1 y golchdy ac 1 tasgmon (a gyflogir 2 ddiwrnod yr wythnos) yn gweithio yn ystod y dydd.

Mae'r Rheolwr wedi'i gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru (corff rheoleiddio’r gweithlu).

Mae Rheolwr y cartref yn cyfathrebu unrhyw faterion yn rheolaidd i Dîm Comisiynu Caerffili o ran unrhyw bryderon (gan gynnwys pryderon diogelu, achosion heintus, pryderon gyda phreswylwyr, yr adeilad ac ati) ac yn rhoi gwybod i Arolygiaeth Gofal Cymru hefyd.

Cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Cymru arolygiad ym mis Ebrill 2024 lle na adroddwyd am unrhyw faterion, a disgwylir i’r adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi’n fuan iawn.

Mae'r Cartref wedi cael sgôr hylendid bwyd o 5, sy'n dda iawn ac a ddyfarnwyd ym mis Mawrth eleni.

Yn dibynnu ar ganfyddiadau'r adroddiad, caiff y darparwr gamau unioni a datblygiadol i'w cwblhau. Camau unioni yw rhai y mae'n rhaid eu cwblhau (yn unol â'r ddeddfwriaeth); argymhellion arfer da yw camau datblygiadol.

Ymweliad monitro blaenorol

Camau unioni

Sicrhau ansawdd (Adolygiad Ansawdd Gofal) i gynnwys dadansoddiad pellach o'r cartref (e.e. gwersi a ddysgwyd, canlyniadau adroddiadau arolygu ac ati). Amserlen: Ar unwaith ac yn barhaus. (Rheoliad 80, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016). I'w fonitro ymhellach. (Cam gweithredu o ymweliad yn 2019). Cam gweithredu wedi'i gyflawni.

Polisïau/gweithdrefnau sydd heb eu dyddio ar hyn o bryd i gael dyddiad adolygu wedi'i ychwanegu ynghyd â dyddiad adolygu yn y dyfodol. Amserlen: O fewn 1 mis. (Rheoliad 12, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016). Cam gweithredu wedi'i gyflawni.

Gwirio tystlythyrau staff gyda'r canolwr bob amser (wedi'u llofnodi, eu dyddio ac unrhyw sylwadau perthnasol wedi'u dogfennu). Amserlen: Ar unwaith ac yn barhaus. (Rheoliad 35, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016). Cam gweithredu wedi'i gyflawni.

Canolbwyntio ar werthusiadau ar gyfer yr holl staff. Amserlen: O fewn blwyddyn. (Rheoliad 36, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016). Cam gweithredu wedi'i gyflawni.

Camau Datblygiadol

Datblygu rhestr wirio Gofal Personol i gynnwys lle i ofalyddion gofnodi pan fydd gofal ceg yn cael ei wneud fwy nag unwaith y dydd. Fel arall, defnyddio ffurflenni Monitro Gofal Ceg Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i gofnodi'r wybodaeth hon. Amserlen: O fewn 2 fis. I'w wirio. Bydd ffurflenni monitro Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cael eu defnyddio yn y dyfodol.

Cadw cofnodion o bob pen cawod sydd wedi'i lanhau yn y cartref fel ei bod yn hawdd gwybod pa rai sydd wedi'u glanhau. Amserlen: O fewn 2 fis ac yn barhaus. I'w wirio.

Unigolyn Cyfrifol

Mae'r Unigolyn Cyfrifol yn parhau i roi cymorth da i'r rheolwr/tîm staff ac mae'n goruchwylio'r gwasanaeth a'i ansawdd yn barhaus. Roedd yr Unigolyn Cyfrifol wedi cynnal ymweliadau chwarterol rheolaidd, gyda'r un mwyaf diweddar yn cael ei wneud yn rhithwir oherwydd nad oedd yn yr ardal i gynnal hyn wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, cynhaliwyd sgwrs gyda phreswylydd yn ystod yr ymweliad hwn a thrafodwyd materion eraill ar y pryd, gan gyfeirio at gynllunio i atgyweirio ac adnewyddu eitemau amrywiol ac ati. Roedd yn amlwg bod camau gweithredu a nodwyd yn adroddiadau'r Unigolyn Cyfrifol wedi'u cyflawni a bod barn staff am yr hyn oedd ei angen wedi cael ei hystyried.

Roedd Adolygiad Ansawdd Gofal yr Unigolyn Cyfrifol (dyddiad Medi 2023) yn gynhwysfawr ac yn cyfeirio at feysydd i’w datblygu o ran recriwtio staff, yr amgylchedd (y tu mewn a’r tu allan), hyfforddiant nad yw’n orfodol i staff (arwyddion hanfodol, Cynllunio Gofal Uwch ac ati). Mae angen cwblhau Adolygiadau Ansawdd Gofal bob 6 mis.

Roedd Datganiad o Ddiben y cartref wedi’i ddiwygio ym mis Mawrth 2024, felly, roedd yn gyfredol ac yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o’r hyn y mae’r cartref gofal yn ei ddarparu. Un o’r meysydd y cyfeiriodd y ddogfen ato oedd ‘Y Cynnig Rhagweithiol – Mwy na Geiriau’ (Deddf yr Iaith Gymraeg ddiwygiedig) sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gofal cymdeithasol gyfathrebu yn Gymraeg heb i’r person ofyn am hynny. Mae Hill View wedi nodi y gallan nhw ddarparu gwybodaeth yn Gymraeg ac y byddan nhw'n ymateb i anghenion siaradwyr Cymraeg o fewn y cartref.

Darparwyd Canllaw Defnyddiwr Gwasanaeth y Cartref fel rhan o’r broses fonitro.

Os nad yw'r Unigolyn Cyfrifol na'r rheolwr ar gael i reoli'r gwasanaeth, y cynllun wrth gefn yw i'r dirprwy reolwr weithredu yn eu habsenoldeb.

Edrychwyd ar bolisïau/weithdrefnau gorfodol y cartref ac fe'u hadolygwyd yn 2023. Hysbyswyd y rheolwr bod angen rhai mân newidiadau i rai polisïau ac nid oedd un polisi yn bresennol a fyddai'n cael ei ystyried a oes ei angen, gyda chanllawiau gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Gofynnwyd am bolisi cyfryngau cymdeithasol y cartref ac fe’i darparwyd.

Rheolwr Cofrestredig

Mae'r cartref gofal yn gweithredu system teledu cylch cyfyng (system oruchwylio) sy'n cwmpasu'r holl ardaloedd cymunedol (lolfeydd, cynteddau) yn unig. Roedd y Rheolwr wedi ceisio caniatâd gan berthnasau drwy ffurflenni caniatâd wedi'u llofnodi.

Gellir addasu'r tymheredd mewn ystafelloedd gwely unigol drwy thermostatau'r rheiddiaduron er mwyn sicrhau nad yw pobl yn rhy gynnes nac yn rhy oer. Yn ogystal, yn ystod cyfnodau o dywydd poeth, defnyddir gwyntyllau trydan ac unedau aerdymheru er y gall fod yn anodd cadw'r adeilad yn oer yn ystod cyfnodau o dywydd poeth.

Mae’r rheolwr yn parhau i gyflwyno hysbysiadau Rheoliad 60 yn brydlon sy’n fecanwaith i adrodd am ddigwyddiadau sydd wedi digwydd, e.e. achosion o glefydau heintus, cwympiadau a brofwyd ac ati, a chyflwynir y rhain mewn modd amserol i’r gweithwyr proffesiynol perthnasol, e.e. Arolygiaeth Gofal Cymru, Tîm Comisiynu Caerffili, Iechyd yr Amgylchedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac ati.

Mae’r cartref yn parhau i ofyn am gymorth da a’i gael gan nifer o weithwyr iechyd proffesiynol, h.y. Meddyg Teulu, Nyrsys Seiciatrig Cymunedol, Tîm Nyrsio Ardal, sy’n sicrhau bod anghenion iechyd pobl yn cael eu diwallu.

Hyfforddiant

Mae Cartref Gofal Hill View yn parhau i sicrhau bod staff yn cael hyfforddiant mewn meysydd allweddol a, lle bo angen, mae'r rheolwr yn cysylltu'n rheolaidd â darparwyr hyfforddiant. Mae’r darparwyr hyfforddiant a ddefnyddir yn cynnwys Langford’s, New Directions, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ABuHB), Tîm Iechyd Meddwl Caerffili a Thîm Datblygu Gweithlu Blaenau Gwent/Caerffili.

Mae gan y rheolwr fatrics hyfforddi i gofnodi'r holl hyfforddiant sy'n cael ei ddarparu a gynhyrchwyd mewn ffordd sy'n glir i'w ddeall. Roedd yn amlwg bod llawer o staff wedi cael hyfforddiant gorfodol/allweddol cyfredol, megis codi a chario, cymorth cyntaf/adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR)/ymwybyddiaeth strôc, diogelwch tân, dementia, mesurau diogelu/trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid/deddf galluedd meddyliol, iechyd a diogelwch/Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH). Er bod rhai bylchau o ran rheoli heintiau a diogelwch bwyd a llawer o fylchau sy’n ymwneud â gofal diwedd oes, cynllunio gofal ymlaen llaw, 'I Stumble' (hyfforddiant cwympiadau) ac amhariad ar y synhwyrau, mae'r cartref wedi trefnu 'hyfforddiant wedi'i gynllunio' fel y gall staff elwa o'r cyrsiau hyfforddi hyn.

Mae nifer fawr o staff naill ai wedi cyflawni cymwysterau NVQ/y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau lefel 2, 3 neu 5 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu yn y broses o weithio tuag at eu cymhwyster.

Staffio

Roedd yn ymddangos bod lefelau staffio'n ddigonol yn ystod yr ymweliadau ac nid oedd yn ymddangos bod y staff ar frys i gyflawni eu dyletswyddau. Roedd y staff yn gyfeillgar iawn ac yn dangos amynedd ac empathi bob amser, gan wneud pwynt o siarad â'r preswylwyr. Mae'r gwasanaeth yn parhau i gael anawsterau o ran recriwtio a chadw staff oherwydd prinder gofalwyr yn y sector gofal, a chaiff unrhyw absenoldebau eu llenwi gan y tîm staff presennol cyn belled ag y bo modd, er bod staff banc yn cael eu defnyddio pan fo angen.

Archwiliwyd ffeiliau dau aelod o'r staff i bennu a oes prosesau recriwtio cadarn ar waith. Roedd ffeiliau'r staff yn drefnus iawn ac yn cynnwys rhestr wirio ffeiliau ac adrannau. Roedd yr wybodaeth a gadwyd yn cynnwys ffurflen gais fanwl, disgrifiadau swydd, dau eirda a oedd wedi’u gwirio (er ei bod yn aneglur gan bwy y derbyniwyd yr un geirda, yn absenoldeb un arall heb ymateb), cofnodion cyfweliad, ffotograff o'r aelod o staff, manylion adnabod, contractau cyflogaeth wedi'u llofnodi. Roedd gwybodaeth arall yn cynnwys tystysgrif nawdd, tystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a thystysgrifau hyfforddi.

Mae Hill View yn cyflogi staff o dramor ac mae trwydded nawdd briodol yn ei lle i recriwtio unigolion sy'n addas i weithio.

Cadarnhaodd matrics goruchwylio fod sesiynau goruchwylio yn cael eu cynnal bob chwarter a bod gwerthusiadau wedi'u cynnal ym mis Mai 2023 ar gyfer yr holl staff.

Archwiliad o Ffeiliau a Dogfennaeth

Edrychwyd ar ddwy ffeil a oedd yn cynnwys dogfennau priodol i gefnogi'r bobl dan sylw cystal â phosibl, e.e. Cynlluniau Cymorth Gwasanaethau Cymdeithasol Caerffili, gwybodaeth cyn-derbyn y cyfeirir ati er mwyn llywio cynlluniau personol y cartref (Cynlluniau Gofal a Chymorth) ar gyfer pob maes angen. Roedd dogfen ‘Dyma fi’ sy’n galluogi’r cartref i gasglu cymaint o wybodaeth sy’n bersonol i'r preswylwyr, e.e. hoff/cas bethau, hobïau yn y gorffennol ac ati. Mae'r ddogfen hon, wedi’i chynhyrchu gan y gymdeithas Alzheimer’s, yn galluogi gwybodaeth i gael ei chasglu, megis cefndir teuluol yr unigolyn, digwyddiadau pwysig mewn bywyd, pobl/lleoliadau, dewisiadau, arferion a phersonoliaeth; nod hyn yw helpu staff i leihau gofid unrhyw unigolyn a diwallu ei anghenion.

Roedd cynlluniau personol (Cynlluniau Gofal a Chymorth) wedi’u hysgrifennu mewn ffordd fanwl ac mewn modd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i adlewyrchu anghenion a dymuniadau’r person. Roedd y cynlluniau, fel arfer, yn cynnwys gofal personol, anghenion gofal y geg, gofal traed, cyflwr croen, symudedd/trosglwyddiadau, prydau bwyd/diodydd, dymuniadau ar ôl marw ac ati. Roedd asesiadau risg ar waith hefyd sy’n ymwneud â chwympiadau, yr angen am reiliau gwely ac ati.

Roedd y cofnodion dyddiol a ddefnyddir i gofnodi'r gofal a'r cymorth a roddwyd yn fanwl ac wedi'u llofnodi/dyddio gan aelodau'r staff.

Roedd y cofnodion ymweliadau proffesiynol yn nodi bod gweithwyr proffesiynol a oedd yn ymweld yn ymwneud â gofal y bobl o’r adeg y cawson nhw eu derbyn i’r cartref, e.e. nyrsys ardal, tîm iechyd meddwl cymunedol, meddyg teulu, trin traed ac ati.

Mae'r Swyddog Monitro Contractau yn ymwybodol bod y darparwr yn cyflwyno dogfennau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid yn rheolaidd ac yn hysbysu'r Tîm Comisiynu ac Arolygiaeth Gofal Cymru pan gaiff y rhain eu cyflwyno.

Sicrhau Ansawdd

Roedd yr Unigolyn Cyfrifol wedi cwblhau ymweliadau chwarterol â'r cartref ac mae ganddo arolygiaeth drylwyr o'r gwasanaeth. Roedd yr adroddiad chwarterol diweddaraf wedi’i ysgrifennu ym mis Chwefror 2024, a oedd yn ymweliad ‘rhithwir’ oherwydd bod yr Unigolyn Cyfrifol dramor ar y pryd ac roedd adroddiadau chwarterol blaenorol ar gael hefyd. Roedd yn amlwg o'r wybodaeth a ddarparwyd bod yr Unigolyn Cyfrifol wedi gwrando ar y ceisiadau a gafodd eu cyfleu iddo a bod atgyweiriadau/adnewyddu ac ati wedi'u gweithredu er budd y staff a'r preswylwyr.

Mae'n ofynnol hefyd i'r Unigolyn Cyfrifol ysgrifennu adolygiadau ansawdd gofal bob chwe mis. Roedd hwn wedi'i ysgrifennu ym mis Medi 2023, felly, mae adroddiad mwy diweddar i'w gyhoeddi. Roedd yr adolygiad hwn yn rhoi trosolwg o'r gwasanaeth, yr hyn a gyflawnwyd ac amlygwyd meysydd i'w datblygu.

Cynhelir cyfarfodydd staff a phreswylwyr i gasglu adborth gan unigolion yn y gwasanaeth. Edrychwyd ar gofnodion dau gyfarfod preswylwyr diweddar lle'r oedd yn amlwg bod adborth wedi'i gael gan bob preswylydd a oedd yn bresennol. Rhannodd pobl eu bod nhw’n hapus yn byw yn Hill View, awgrymodd rhai rai gweithgareddau newydd yr hoffen nhw eu gwneud a nododd ychydig o bobl yr hoffen nhw fynd allan yn amlach. Cadarnhaodd y Dirprwy Reolwr fod trefniadau'n cael eu gwneud i logi bws er mwyn i bobl allu ymweld â pharc lleol. Daeth nifer dda i gyfarfod staff diweddar ac roedd y meysydd a gwmpaswyd yn cynnwys, e.e. adborth o’r ymweliad monitro contract blaenorol, cyflwynwyd arweinwyr tîm newydd, adrodd ar lefelau salwch, ymgysylltiad staff â gweithgareddau (cerddoriaeth) ac ati.

Cynnal a chadw'r cartref

Mae'r Unigolyn Cyfrifol yn cyflogi gofalwr sy'n cynnal gwiriadau rheolaidd ledled y cartref.

Roedd y Gwasanaeth Tân wedi argymell bod drysau tân newydd yn cael eu gosod drwyddi draw ac mae hyn yn parhau i gael ei wneud fesul cam. Mae gwaith arall a wnaed wedi cynnwys gwaith ychwanegol i'r to a'r system ffôn.

Ymhlith y gwelliannau eraill sydd i ddod mae lloriau cegin newydd a lloriau newydd ar gyfer rhai ystafelloedd gwely. Mae system teledu cylch cyfyng Hill View wedi’i hadnewyddu ac mae’r ‘dom’ gwydr sydd yn y lolfa yn cael ei symud oherwydd problemau gyda dŵr yn gollwng a bydd to fflat yn cael ei roi yn ei le.

Diogelwch Tân/Iechyd a Diogelwch

Cynhaliwyd asesiad risg tân diweddaraf y cartref ym mis Ebrill 2024 gan Grŵp Tân y Tŵr. Nodwyd rhai meysydd i'w cywiro/gwella a oedd wedi eu blaenoriaethu o flaenoriaeth 1 i 4, a chadarnhawyd bod y cartref yn gweithredu ar yr argymhellion gyda dyfynbris ar gyfer gwaith yn cael ei gyrchu.

Mae ymarferion tân yn parhau i gael eu cynnal yn rheolaidd gyda’r rhai mwyaf diweddar yn cael ei gynnal ym mis Mai, Chwefror, Ionawr 2024 a thrwy gydol 2023. Roedd y cofnodion yn cynnwys manylion yr ymarferion tân, e.e. y staff sydd wedi mynychu, ble a sut y cynhaliwyd yr ymarfer, dad-friffio ar berfformiad yr ymarfer ac unrhyw gamau gweithredu y mae angen eu gwella.

Edrychwyd ar ddamweiniau/ddigwyddiadau dros y misoedd diwethaf a oedd yn dangos bod 1 preswylydd wedi cwympo ym mis Mai 2024 ac, ym mis Ebrill, roedd 12 digwyddiad. Nodwyd bod yr adroddiadau ar gyfer pob digwyddiad yn fanwl a phob mis roedd dadansoddiad o’r damweiniau/digwyddiadau’n cael ei gynnal i weld pryd a ble y digwyddodd, beth oedd yn digwydd ar y pryd, a welwyd y digwyddiad ai peidio ac unrhyw achosion posibl, fel y gellir nodi unrhyw themâu.

Rheoli arian pobl

Edrychwyd ar gofnodion rhai pobl, a oedd yn dangos bod incwm a gwariant y person wedi’u cofnodi a bod dau lofnod bob amser wedi’u cael ar gyfer y trafodion hyn. Nodwyd gwall cyfrifo yn ystod yr ymweliad ar gyfer un o'r cofnodion a ddygwyd i sylw'r rheolwr ar y pryd. Mae'r cartref yn rheoli'r arian ar ran yr holl breswylwyr sy'n byw yn Hill View.

Arsylwadau (rhyngweithiadau, gweithgareddau, amgylchedd)

Gwelwyd bod y cartref yn lân, yn ffres ac yn daclus.

Roedd y rhyngweithio rhwng y staff a'r bobl sy’n derbyn gofal yn gynnes ac yn gyfeillgar. Roedd y staff yn hapus i siarad am eu rolau a'r hyn yr oedden nhw'n ei fwynhau amdanyn nhw. Roedd y preswylwyr yn edrych fel petaen nhw'n cael gofal da iawn, dywedodd dynes sut roedd hi’n hoffi cael trin ei gwallt yn salon y cartref ac roedd esgidiau pobl yn edrych yn gyfforddus ac yn ddiogel.

Mae ardaloedd cymunedol ac ystafelloedd gwely pobl yn ystafelloedd dymunol iawn sydd wedi'u haddurno'n dda ac yn edrych yn lân. Roedd llawer o dystiolaeth o bersonoli lle'r oedd pobl wedi dod â'u heiddo eu hunain i'r cartref, ac mae gan y cynteddau bethau cofiadwy ar y waliau sy'n ddiddorol i'w gweld ac sy'n ysgogol. Roedd rhai o'r ystafelloedd ymolchi a welwyd yn fannau deniadol iawn ac yn lân ac yn daclus iawn. Mae gan y cartref salon trin gwallt pwrpasol sy'n ofod dymunol i bobl fwynhau gwneud eu gwallt a'u hewinedd.

Mae ymwelwyr yn cael croeso pan fyddan nhw'n ymweld ac yn cael eu gwahodd i fod yn rhan o'r cartref drwy ymuno â'r preswylwyr yn ystod amserau bwyd a bod yn rhan o'r gweithgareddau sydd ar gael. Yn ystod un o'r ymweliadau, bu bardd yn ymweld a aeth i bob llawr o'r cartref i draddodi barddoniaeth, ac roedd yr ymwelwyr yn elwa ohoni hefyd.

Mae tudalen digwyddiadau sydd ar gael yn y cyntedd ar ddechrau pob mis fel y gall preswylwyr, perthnasau a ffrindiau weld beth sy'n digwydd.

Mae gan y cartref gysylltiadau â'r eglwys leol, y llyfrgell leol ac ysgolion cynradd/meithrin lleol sy'n hynod fuddiol i breswylwyr Hill View. Yn ddiweddar, manteisiodd y Rheolwr ar y cyfle i gael sesiynau cerddoriaeth, ‘disgo tawel’, sesiynau celf/crefft a barddoniaeth a fwynhawyd gan y preswylwyr. Mae cantorion eraill yn ymweld hefyd ac, yn ystod un o'r ymweliadau monitro, gwelwyd pobl yn mwynhau canu gydag artist a oedd yn ymweld.

Mae Hill View wedi cael y cynnig i fod yn rhan o’r ‘Prosiect Ymgysylltu Ystyrlon’ a sefydlwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a fydd yn rhoi cymorth ac arweiniad i staff i wybod sut i wneud gweithgareddau’n ystyrlon a bydd yn cynnwys blwch adnoddau.

Mae ardal feranda awyr agored fach i bobl ei defnyddio sy'n cynnwys lle i eistedd â chanopi ac sydd wedi'i haddurno ag eitemau garddio. Rhoddwyd gwybod i'r Swyddog Monitro bod gwaith pellach yn mynd rhagddo yn yr ardal hon a fyddai'n cynnwys dodrefn newydd, gardd berlysiau a man penodol i bobl ysmygu, os ydyn nhw'n dymuno.

Arsylwadau amser bwyd

Arsylwodd y Swyddog Monitro Contractau y pryd amser cinio yn un o'r lolfeydd, ac roedd yn amlwg bod pobl yn mwynhau cinio hamddenol a oedd yn ddifrys. Roedd digon o staff ar gael i gynorthwyo lle bo angen a rhoddwyd napcynau, diodydd ac ati i'r preswylwyr. Gosodwyd byrddau gyda matiau bwrdd, lliain bwrdd, cyllyll, ffyrc a napcynnau.

Arsylwadau amser bwyd

Arsylwodd y Swyddog Monitro Contractau y pryd amser cinio yn un o'r lolfeydd, ac roedd yn amlwg bod pobl yn mwynhau cinio hamddenol a oedd yn ddifrys. Roedd digon o staff ar gael i gynorthwyo lle bo angen a rhoddwyd napcynau, diodydd ac ati i'r preswylwyr. Gosodwyd byrddau gyda matiau bwrdd, lliain bwrdd, cyllyll, ffyrc a napcynnau.

Adborth gan breswylwyr/berthnasau

Siaradwyd â phreswylydd a dderbyniwyd i'r cartref yn ddiweddar, a dywedodd ei bod hi'n hoffi bod yn Hill View. Roedd hi'n teimlo'n gyfforddus oherwydd bod ei gŵr yn byw yno hefyd, roedd y teulu yn ymweld yn aml a dywedodd fod y staff yn gofalu amdani'n dda.

Dywedodd aelod o’r teulu nad oedd ganddo unrhyw broblemau gyda chartref gofal Hill View a’i fod “yn teimlo fel un o’r teulu”. Roedd yn canmol y staff, a dywedodd ei fod yn gwybod bod ei berthnasau yn hapus i fyw yna, ei fod yn lân, yn cael ei fwydo'n dda ac yn cael gofal da. Mae unrhyw ddigwyddiadau yn cael eu cyfleu i aelodau teulu yn brydlon fel eu bod nhw’n cael gwybod sut mae eu perthnasau.

Yr agenda werdd

Mae Hill View wedi rhoi rhai mesurau ar waith i helpu lleihau ei allyriadau carbon drwy osod goleuadau LED, plannu blodau, ailgylchu mewn biniau unigol ac mae gan y cartref gynlluniau i greu gardd berlysiau.

Gwahoddwyd y Rheolwr i geisio dod o hyd i rywun o fewn y staff a allai fod â diddordeb yn y pwnc hwn i allu gyrru'r agenda werdd yn ei blaen.

Camau gweithredu

Camau unioni

Adolygiad Ansawdd Gofal yr Unigolyn Cyfrifol (6 mis) i'w gyflwyno ar gyfer chwarter cyntaf 2024. Amserlen: O fewn mis. Rheoliad 80, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Polisi sy'n ymwneud ag ataliaeth i gael ei ysgrifennu (yn unol â chanllawiau Arolygiaeth Gofal Cymru). Amserlen: O fewn 2 fis. Rheoliad 29, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Camau datblygiadol

Dim.

Casgliad

Mae preswylwyr yn parhau i fyw mewn amgylchedd sy'n gyfforddus, yn feithringar ac yn rhoi'r cyfle i bobl ffynnu. Mae amgylchedd y cartref yn olau, yn awyrog, yn groesawgar ac yn ddeniadol. Mae'r bobl yn edrych yn dda, mae yna weithgareddau ar gael i'w hysgogi ac mae'r staff yn sylwgar ac yn ddymunol.

Mae'r cartref wedi'i ddodrefnu a'i gynnal a'i gadw'n dda ac mae'n amlwg bod atgyweiriadau'n cael eu gweithredu a bod ffyrdd o wella'r amgylchedd yn cael eu harchwilio.

Mae’r ddogfennaeth yn gadarn o ran ffeiliau preswylwyr gyda’r wybodaeth yn fanwl ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn, ac mae ffeiliau staff yn dangos bod proses recriwtio gadarn wedi’i chynnal hefyd.

Mae'r Unigolyn Cyfrifol yn parhau i gynorthwyo'r cartref, casglu adborth gan randdeiliaid allweddol, gwrando a gweithredu ar yr hyn sy'n cael ei gyfathrebu.

Hoffai'r Swyddog Monitro ddiolch i'r Rheolwr a'r tîm o staff am eu hamser a'u croeso yn ystod yr ymweliad monitro.

  • Awdur: Andrea Crahart
  • Teitl swydd: Swyddog Monitro Contractau, Tîm Comisiynu
  • Dyddiad: Mehefin 2024