Awgrymiadau ar leihau gwastraff
Y ffordd orau o ddelio gyda'n gwastraff yw peidio â'i greu yn y lle cyntaf. Gwaredu gwastraff yw'r dewis olaf!
Gallwch chi osgoi gwastraff trwy'r canlynol:
- Cam 1 – Atal (hoff ddewis)
- Cam 2 – Paratoi ar gyfer ailddefnyddio
- Cam 3 – Ailgylchu
- Cam 4 – Adfer
- Cam 5 – Gwaredu (cas ddewis)
Atal Gwastraff
- Cadw cynhyrchion am gyfnod hirach
- Defnyddio deunyddiau sy'n llai peryglus
- Defnyddio llai o ddeunydd mewn dylunio a gweithgynhyrchu
Lleihau
Dyma rai syniadau:
- Peidio â phrynu pethau diangen
- Dewis pethau sydd wedi'u gwneud yn dda ac a fydd yn para
- Defnyddio batris sy'n gallu cael eu hailwefru
- Peidio â thaflu pethau i ffwrdd os ydyn nhw'n torri, ceisio eu hatgyweirio nhw
- Prynu bwyd gyda llai o ddeunyddiau pecynnu. Er enghraifft, prynu ffrwythau a llysiau rhydd a pheidio a'u rhoi nhw mewn bagiau
- Peidio â defnyddio pethau tafladwy
- Defnyddio eich bagiau siopa eich hun pan fyddwch chi'n mynd i siopa.
Ailddefnyddio
Dyma rai syniadau:
- Prynu nwyddau ail law o siop elusen, arwerthiant cist car neu sborion. Yn ogystal â helpu'ch amgylchedd, byddwch chi'n arbed llawer o arian.
- Ailddefnyddio potiau iogwrt neu hanner gwaelod poteli plastig fel potiau planhigion.
- Gall bagiau siopa plastig gael eu hailddefnyddio sawl gwaith fel bagiau siopa. Gallan nhw hefyd gael eu defnyddio fel bagiau bin.
- Rhoi eitemau diangen i ffrindiau neu berthnasau a fyddai’n ei hoffi, neu ei werthu i rywun arall a all ei ddefnyddio.
- Prynu llaeth mewn poteli gwydr gan eich dyn llaeth, sy'n gallu cael eu dychwelyd i'w hailddefnyddio.
- Prynu cynnyrch ddiarogleuo, golchi a glanhau sy'n gallu cael eu hailddefnyddio
- Prynu cewynnau i'w ail ddefnyddio / go iawn
Rhoi eitemau i Siop Ailddefnyddio Penallta neu Furniture Revival. Mae eitemau sydd wedi'u rhoi hefyd ar gael i'w prynu.
Ailgylchu
Dyma rai ffyrdd y gallwch chi wneud hyn: