Fioedd priodas a partneriaeth sifil

  • Rhoi hysbysiad o briodas neu bartneriaeth sifil £42 (y person)
  • Rhoi hysbysiad o briodas neu bartneriaeth sifil (os yw’r naill barti neu’r llall yn destun Atgyfeiriad gan y Swyddfa Gartref) - £57 y pen
  • Cofrestrydd Arolygol i ystyried ysgariad neu ddiddymiad partneriaeth sifil a gafwyd y tu allan i Ynysoedd Prydain - £55
  • Y Cofrestrydd Cyffredinol i ystyried ysgariad neu ddiddymiad partneriaeth sifil a gafwyd y tu allan i Ynysoedd Prydain - £83
  • Seremoni yn y Swyddfa Gofrestru Statudol, Tŷ Penallta (ystafell lai ar gyfer cwpl a 2 o dystion yn unig) £56
  • Seremonïau yng Nghraig Penallta, Tŷ Penallta (ystafell seremoni fwy o faint gyda lle i hyd at 48 o westeion) 
    • £251 (dydd Llun i ddydd Gwener)
    • £353 (dydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc)
  • Seremonïau mewn lleoliadau eraill a gymeradwywyd
    • £328 (dydd Llun i ddydd Gwener)
    • £480 (dydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc)
  • Priodas neu bartneriaeth sifil mewn adeilad crefyddol ac eithrio'r Eglwys yn Lloegr neu'r Eglwys yng Nghymru, y ffi i gofrestrydd fod yn bresennol yw £104
  • Priodas yn yr Eglwys yn Lloegr neu'r Eglwys yng Nghymru - Bydd gwybodaeth am ffioedd ar gael oddi wrth ficer yr eglwys lle'r ydych yn dymuno priodi.

Ffioedd ychwanegol eraill sy'n daladwy dan rai amgylchiadau

  • Uwch Arolygydd Cofrestru i fynychu lleoliad tu fas i'w swyddfa i dderbyn hysbysiad priodi oddi wrth berson sy'n gaeth i'r tŷ neu berson dan warchodaeth - £57 caeth i'r tŷ, £82 dan warchodaeth
  • Uwch Arolygydd Cofrestru i fynychu er mwyn cynnal priodas ym mhreswylfa person sy'n gaeth i'r tŷ neu berson dan gadwad - £101 caeth i'r tŷ, £113 dan gadwad
  • Cofrestrydd i fynychu er mwyn cynnal priodas ym mhreswylfa person sy'n gaeth i'r tŷ neu berson dan gadwad- £98 caeth i'r tŷ, £106 dan gadwad
  • Person awdurdodedig i fynychu tu allan i'w swyddfa ar gyfer tystio'r datganiad angenrheidiol o ran partneriaeth sifil person sy'n gaeth i'r tŷ neu berson dan gadwad- £57 caeth i'r tŷ, £82 dan gadwad
  • Cofrestrydd Partneriaeth Sifil i fynychu ar gyfer llofnodi atodlen partneriaeth sifil ym mhreswylfa person sy'n gaeth i'r tŷ neu berson dan gadwad- £98 caeth i'r tŷ, £106 dan gadwad

Ardystio ar gyfer addoli a chofrestru ar gyfer priodas (sy'n daladwy gan ymddiriedolwr yr adeilad)

  • Ardystio man cyfarfod ar gyfer addoli crefyddol - £32
  • Cofrestru adeilad ar gyfer gweinyddu priodasau rhwng dyn a dynes - £136
  • Cofrestru adeilad ar gyfer gweinyddu priodasau cyplau o'r un rhyw (adeilad a gofrestrwyd yn flaenorol ar gyfer gweinyddu priodasau rhwng dyn a menyw) - £71
  • Cofrestru adeilad ar gyfer gweinyddu priodasau cyplau o'r un rhyw (adeilad nad oedd wedi'i gofrestru o'r blaen ar gyfer gweinyddu priodasau rhwng dyn a menyw) - £136
  • Cofrestru adeilad ar gyfer gweinyddu priodasau rhwng dyn a menyw (adeilad a gofrestrwyd yn flaenorol ar gyfer gweinyddu priodasau cyplau o'r un rhyw) - £ 71
  • Cais ar y cyd i gofrestru adeilad ar gyfer gweinyddu priodasau rhwng dyn a menyw a chyplau o'r un rhyw - £136
Cysylltwch â ni