Trosolwg o'r Prosiect
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn trawsnewid ac yn gwella'r ffordd rydyn ni'n darparu gwasanaethau i'n trigolion.
Mae gan y Cyngor gynlluniau uchelgeisiol i drawsnewid a gwella ein gwasanaethau. Rydyn ni am ddiwallu anghenion ein cymunedau yn fwy effeithlon ac archwilio ffyrdd eraill o ddarparu gwasanaethau, pan fydd yn gwneud synnwyr i wneud hynny.
Rydyn ni am ymgysylltu â'n cymunedau i ddeall eu hanghenion a darparu'r cymorth cywir, mewn modd sydd mor syml â phosibl. Lle mae trigolion angen gwasanaethau nad ydyn ni'n eu darparu, byddwn ni'n eu cyfeirio nhw at y partneriaid mwyaf priodol i gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.
Mae’n hollbwysig eich bod chi – ein trigolion – wrth galon y penderfyniadau hyn. Gweler isod y prosiectau cyfredol sy'n cael eu hadolygu, eu datblygu neu eu cyflawni:
Sefydliad y Glowyr Coed Duon
Ymgynghoriad ar y cynnig i dynnu'r cymhorthdal yn ôl oddi wrth Sefydliad y Glowyr, Coed Duon o ddiwedd mis Rhagfyr 2024
RHAGOR O WYBODAETH
Maenordy Llancaiach Fawr
Ymgynghoriad ar y cynnig i dynnu'r cymhorthdal a chau Maenordy Llancaiach Fawr o ddiwedd mis Rhagfyr 2024.
RHAGOR O WYBODAETH
Gwasanaeth Prydau Prydlon
Ymgynghoriad ar ddyfodol y Gwasanaeth Prydau Prydlon.
RHAGOR O WYBODAETH