Trosolwg o'r Gyllideb

Eglurhad o gyllideb ein Cyngor

Fel sydd wedi'i grybwyll, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn wynebu heriau economaidd digynsail. 

Dros y 2 flynedd ariannol nesaf, bydd angen i'r Cyngor arbed £45 miliwn. 

Er mwyn gwerthfawrogi maint yr her hon yn llawn, mae'n bwysig deall sut mae'r Cyngor yn dyrannu arian i'n gwasanaethau. Mae mwyafrif helaeth cyllideb refeniw net y Cyngor yn cael ei gwario ar addysg (39%) a gofal cymdeithasol (29%). Mae costau sylweddol eraill sy’n cael eu hegluro yn y llun isod:

budget

  • Addysg a Dysgu Gydol Oes - £173m (39%) Ysgolion, Gwasanaethau Ieuenctid, Y Blynyddoedd Cynnar ac ati
  • Gwasanaethau Cymdeithasol - £129m (29%) Gwasanaethau i Oedolion, Gwasanaethau i Blant, Gofal Cartref ac ati
  • Economi a'r Amgylchedd - £56m (13%) Priffyrdd, Diogelwch y Cyhoedd, Gwastraff ac Ailgylchu, Parciau, Chwaraeon a Hamdden ac ati
  • Gwasanaethau Corfforaethol - £34m (8%) Cyfreithiol, Cyllid, Adnoddau Dynol, Gwasanaethau TG ac ati
  • Cyllid Amrywiol - £47m (11%) Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor, Archebiannau, Taliadau Dyled ac ati

Ar hyn o bryd, mae gan Gyngor Caerffili gyllideb refeniw net flynyddol o £439 miliwn ac mae'r swm sylweddol hwn o arian yn cael ei ddefnyddio i ddarparu amrywiaeth eang o wasanaethau i gynorthwyo anghenion pobl o bob oed ledled y Fwrdeistref Sirol.

Dyma ddadansoddiad llawn o ble daeth yr arian yn 2023/24:

Cyfraniad ariannol gan Lywodraeth Cymru

£340m

77.5%

Incwm Treth y Cyngo

£83m

18.9%

Defnydd o Gronfeydd wrth Gefn

£16m

3.6%

Mae llawer o bobl yn credu bod Treth y Cyngor yn talu am y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan y Cyngor, ond dim ond 18.9% o gyfanswm cyllideb refeniw net y Cyngor yw’r elfen hon.

Beth mae hyn yn ei olygu?

Mae dau brif ffactor sy’n achosi pwysau sylweddol ar ein cyllideb:

  • Costau cynyddol darparu a chynnal ein gwasanaethau a,
  • Chyfraniadau ariannol Llywodraeth Cymru yn methu â chwrdd â'r cynnydd yn y gyfradd y mae ein gwariant wedi cynyddu.

Mae'r ddau ffactor cyfunol hyn wedi creu'r angen i leihau costau rhedeg ein gwasanaethau yn gyflym. Mae’r rhaglen newid hon wedi’i chynllunio i wneud hyn mewn ffordd sydd nid yn unig yn cyfrannu at yr arbediad hwn ond sydd hefyd yn ein galluogi ni i fanteisio ar y cyfle i ailgynllunio ein gwasanaethau a’n darpariaethau i weddu’n well i anghenion ein trigolion.

Ar yr adeg dyngedfennol hon i’n Bwrdeistref Sirol, mae’n hollbwysig eich bod chi – ein trigolion – wrth galon y penderfyniadau hyn.

DWEUD EICH DWEUD