Archwiliad o Gyfrifon 2023/2024

Rhoddir RHYBUDD trwy hyn, yn unol ag Adrannau 30 a 31 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004:

1. Rhwng 29 Gorffennaf 2024 a 23 Awst 2024 (yn gynhwysol), rhwng 9.00am a 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, caiff unrhyw etholwr lleol archwilio a gwneud copïau o gyfrifon y corff a enwir uchod ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023 a'r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau sy'n ymwneud â hwy.

2. Mae'r dogfennau hyn ar gael i'w harchwilio yn Nhŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG.

3. Er mwyn ein galluogi i wneud trefniadau priodol ar gyfer archwilio, gofynnwn i etholwyr drefnu apwyntiad drwy anfon e-bost at southak@caerffili.gov.uk, drwy ffonio 01443 863214, neu drwy ysgrifennu at y Rheolwr Cyllid (Gwasanaethau Corfforaethol), Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG.

4. Ar 27 Awst 2024, neu ar ôl hynny, hyd nes bydd yr archwiliad wedi'i gwblhau, bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn rhoi cyfle i unrhyw etholwr llywodraeth leol yn yr ardal y mae'r cyfrifon yn ymwneud â hi, neu ei gynrychiolydd, ei holi am y cyfrifon. Gall unrhyw etholwr o'r fath, neu ei gynrychiolydd, fynychu gerbron yr Archwilydd Cyffredinol i wneud unrhyw wrthwynebiad i'r cyfrifon.

5. Mae modd cysylltu â'r Archwilydd Cyffredinol drwy Mark Jones yn 1 Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd CF10 4BZ, drwy ffonio 029 2032 0500 neu drwy e-bost i post@archwilio.cymru.

6. Rhaid rhoi rhybudd ysgrifenedig o wrthwynebiad yn y lle cyntaf i'r Archwilydd Cyffredinol drwy Mark Jones yn 1 Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd CF10 4BZ, drwy ffonio 029 2032 0500 neu drwy e-bost i post@archwilio.cymru. Rhaid darparu copi o'r rhybudd ysgrifenedig i'r Rheolwr Cyllid (Gwasanaethau Corfforaethol), Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed CF82 7PG.

7. Mae'r ddolen ganlynol yn darparu gwybodaeth am eich hawliau i archwilio, cwestiynu a gwrthwynebu cyfrifon eich cyngor www.archwilio.cymru/sites/default/files-old/seminar_documents/council_accounts_your_rights_cy__0.pdf.