Blaenraglen Waith Pwyllgor Craffu Tai a'r Amgylchedd
Datganiad gan Gadeirydd Pwyllgor Craffu Tai a'r Amgylchedd, Y Cynghorydd Andrew Whitcombe.
'Eleni (2024/25) bydd y Pwyllgor CraffuTai a'r Amgylchedd – Blaenraglen Waith yn cymryd rhan yng nghraffu’r canlynol:
- Craffu cyn gwneud penderfyniad - ymgynghoriad cyn i benderfyniadau gael eu gwneud gan y Cabinet
- Ymgynghori ar ddatblygu gwasanaeth a pholisi
- Monitro cyllideb
- Rheoli Perfformiad - Amcanion Gwella, Hunan-werthusiad y Cyngor a Chynlluniau Gwella Gwasanaeth
Yn ogystal â hynny bydd y pwyllgor craffu yn derbyn copïau o unrhyw adroddiadau perthnasol gan yr Ombwdsmon ac adroddiadau gan Swyddfa Archwilio Cymru.
Hefyd bydd y flaenraglen waith yn cynnwys ceisiadau sydd wedi eu derbyn gan Gynghorwyr a’r cyhoedd ac unrhyw Alwadau am Gamau Gweithredu gan Gynghorwyr.
Bydd y Flaenraglen Waith yn cynnwys unrhyw ‘Grwpiau Tasg a Gorffen’ sydd wedi’u creu gan y pwyllgor craffu, i gynnal unrhyw ymchwiliad manwl i destun penodol neu faes gwasanaeth.
Gobeithiaf y bydd y Flaenraglen Waith hon yn addysgiadol a byddwn yn croesawu unrhyw adborth’.
Y Flaenraglen Waith Gyfredol
Mae’r Flaenraglen Waith bresennol yn cael ei chyhoeddi yn y pecyn agenda a bydd yn cael ei diweddaru ym mhob cyfarfod rheolaidd o’r pwyllgor craffu.
Mae holl bapurau cyfarfod y pwyllgor craffu yn cael eu cyhoeddi 3 diwrnod gwaith clir cyn dyddiad y cyfarfod, ac maen nhw ar gael drwy glicio’r ddolen ganlynol:
Gweld cyfarfodydd y cyngor yn y dyfodol